Yr Arholiad Doethuriaeth-Gweithdy i archwilwyr ag ymgeision (Deuddydd ar-lein)
Yr arholiad doethurol: Dydd Llun- Dydd Mawrth 30fed ac 31eg Ionawr 2023
Amser: Bydd y sesiwn yn agor am 9am y diwrnod cyntaf ac yn aros yn agored am 48 awr. Anfonir amserlen ymlaen llaw at yr holl gyfranogwyr.
Gofynion: Cyfrif Google. Bydd y gweithdai trwy Google Docs.
Tiwtor: John Wakeford
Ar gyfer pob ymgeisydd doethurol, ac mae croeso hefyd i oruchwylwyr ac arholwyr.
Mae cofrestru ar gyfer doethuriaeth yn un o'r penderfyniadau pwysicaf a wnaethoch erioed. Bydd eich doethuriaeth yn cymryd drosodd eich bywyd am o leiaf dair blynedd ac mae'n debyg y bydd yn drobwynt yn eich bywyd a'ch gyrfa.
Mae'r rhan fwyaf o raglenni ar gyfer myfyrwyr doethurol (a goruchwylwyr) yn canolbwyntio ar y broses o astudio a goruchwylio. Ond yn y rhaglen hon byddwn yn edrych ar fater hyd yn oed yn bwysicach ac sy'n aml yn cael ei esgeuluso sef yr arholiad doethurol a sut y caiff ei weithredu yn y DU yn gyffredinol a Phrifysgol Bangor yn benodol.
I gael y siawns orau o lwyddo mae angen i chi ddechrau meddwl amdano yn gynnar. Felly, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo bod yr arholiad yn ymddangos yn bell i ffwrdd, bydd croeso mawr i chi gymryd rhan.
Dros y 35 mlynedd ddiwethaf mae John wedi datblygu ei agwedd unigryw at hyn, yn seiliedig ar rannu profiadau, ymarferion grŵp, hyblygrwydd a defnyddio adroddiadau uniongyrchol a roddir gan fyfyrwyr doethurol, goruchwylwyr ac arholwyr. Ers 2010 mae wedi gweithio gydag Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor i ddatblygu rhaglen ar gyfer goruchwylwyr, ond byddwn yn treulio'r ddau ddiwrnod hyn yn bwrw goleuni ar nodweddion system arholi y mae llawer yn ei ystyried yn aneglur ac yn aml yn frawychus. Felly, fy nod yw sicrhau bod gennych yr hyder i ymgysylltu â'r broses arholi gyda'r siawns uchaf o lwyddo.
Yn y gorffennol mae John wedi cyflwyno hyn wyneb yn wyneb, ond, ar gyfer y sefyllfa bresennol, mae bellach wedi paratoi fersiwn ar-lein lle gall hyd at 15 o gyfranogwyr gymryd rhan o'u cartref neu o unrhyw leoliad arall ar adegau sy'n gyfleus iddynt. Efallai na fydd yn golygu dim mwy na saith awr o waith ond byddwch yn cymryd rhan trwy ymuno â dogfen gyfrinachol Google Docs a grëwyd gan yr holl gyfranogwyr a fydd yn agored i gyfraniadau dros gyfnod o 48 awr.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd John yn anfon JotForm atoch, bydd ef yn gofyn i chi ymlaen llaw am eich maes ymchwil, eich blwyddyn astudio, llawn amser neu ran amser, unrhyw faterion yr hoffech iddynt gael sylw yn ystod y sesiwn ac unrhyw anghenion arbennig. Bydd wedyn yn eich gwahodd i ymuno â thudalen newydd Google Docs a fydd wedyn yn ddull cyfathrebu i'r holl gyfranogwyr ar gyfer y sesiwn gyfan.
Bydd Penny Dowdney, Rheolwr yr Ysgol Ddoethurol, yn ymuno â'r sesiwn am ran o'r amser i ymdrin ag unrhyw ymholiadau penodol sy'n ymwneud â threfniadau Bangor.
Bydd y rhaglen ddangosol yn cael ei theilwra i'r pynciau rydych chi'n eu codi ond caiff ei haddasu wrth i ni fynd ymlaen. Bydd yn sicr yn ymdrin â materion fel
- Rheoliadau penodol ar gyfer arholi myfyrwyr Bangor
- Beth mae arholwyr i fod i'w wneud
- Sut i benderfynu a yw eich gwaith yn ddigon da i lwyddo
- Camddealltwriaethau cyffredin o'r broses arholi ddoethurol
- Paratoi ar gyfer eich viva
- Beth i'w wneud os na fyddwch yn llwyddo y tro cyntaf