Fy ngwlad:
a human skeleton is shown on the screen of a digital anatomy table from above with 2 students and a lecturer stood around it

Astudiaethau Ôl-raddedig yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Os yw eich angerdd yn gorwedd mewn darganfod triniaethau achub bywyd, gwella gofal cleifion, neu ddatblygu gwybodaeth feddygol, mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i danio eich chwilfrydedd a datblygu eich gyrfa mewn sector lle gallwch gael effaith wirioneddol.

Ein Cyrsiau Ôl-raddedig

Er mwyn llwyddo yn y gwyddorau meddygol, lleoliadau clinigol ac ymchwil, byrddau iechyd cenedlaethol, a diwydiannau sy'n gysylltiedig ag iechyd, mae angen gweithwyr proffesiynol medrus, llawn cymhelliant ac arweinwyr cryf. Mae ein tîm o addysgwyr profiadol, ymchwilwyr, ac arbenigwyr gofal iechyd yn ymroddedig i ddarparu'r addysg ôl-raddedig uwch sydd ei hangen arnoch i ragori yn y meysydd hyn a chael effaith ystyrlon.

Yr Athro Mike Larvin

Yr Athro Mike Larvin, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Meddygaeth ac Iechyd

“Yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i’n myfyrwyr a’u dysgu gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i ragori nid yn unig yn eu gweithgareddau academaidd ond yn eu bywyd yn y brifysgol hefyd.

Edrychwn ymlaen at y posibilrwydd o'ch croesawu i'n cymuned academaidd, lle gallwch archwilio, dysgu a chyfrannu at y meysydd sydd o ddiddordeb i chi fwyaf."

Ymchwil yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau blaengar i roi sylw i gwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i ddiwallu anghenion clinigol difrifol. Mae gennym y nod cyffredinol o wella llwybr y claf, naill ai trwy gyfrannu gwybodaeth newydd i lenwi bwlch pwysig mewn gwybodaeth feddygol neu ddatblygu cymwysiadau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella iechyd a lles.  

Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil canser lle mae ein timau ymchwil nid yn unig yn archwilio'r prosesau cymhleth sy'n arwain at ddatblygiad, cynnydd ac ymwrthiant canserau i therapïau, ond maent hefyd yn datblygu'r sylfaen ar gyfer therapïau newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae'r timau ymchwil canser wedi'u lleoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy'n ein hintegreiddio â'r rhwydweithiau ymchwil ehangach mewn prifysgolion ymchwil eraill ledled y byd a darparwyr gofal iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae arbenigedd ein staff yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd ymchwil gan gynnwys Cymwysiadau a therapïau clinigol mewn Imiwnoleg Ddynol ac awtoimiwnedd; Geneteg Foleciwlaidd; Geneteg Feddygol; Canser; Microbioleg Feddygol; Biocemeg Feddygol; Anatomeg ac Arferion Clinigol; Nanodechnoleg.  

Sgwrsio â Myfyrwyr a Staff

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd