Pennaeth a Dirprwy Bennaeth Newydd yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Mae’r Athro Stephen Doughty wedi’i benodi fel Pennaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, ochr yn ochr â Dr Nia Jones sy’n ymgymryd â rôl Deon Meddygaeth a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol.
Mae gan Stephen brofiad academaidd ac arweinyddiaeth helaeth yn y Deyrnas Unedig a thramor, gan gynnwys mewn rolau mor amrywiol â Phennaeth Ysgol, Is-brofost Addysgu a Dysgu, a Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad rhaglen Fferylliaeth newydd Prifysgol Bangor, ac ar hyn o bryd, ef yw Pennaeth dros dro’r Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu (CELT).
Ymunodd Nia, sy’n feddyg teulu academaidd, â Phrifysgol Bangor dair blynedd yn ôl o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Manceinion, sef un o ysgolion meddygol mwyaf y Deyrnas Unedig. Ymgymerodd â rôl arweinydd y rhaglen feddyginiaeth newydd yn 2022, ac mae wedi bod yn allweddol wrth atgyfnerthu’r berthynas â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Roedd Nia’n rhan hollbwysig o gyflwyno rhaglen Feddygaeth 'C21 Gogledd Cymru' breiniol Caerdydd, yn ogystal â datblygu rhaglen Meddygaeth annibynnol Prifysgol Bangor a lansiwyd y semester diwethaf. Mae Nia’n gweithio'n glinigol un diwrnod yr wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd, yn y Clinig Diagnosis Cyflym, lle mae'n rheoli cleifion brys yr amheuir eu bod â chanser.
Dywedodd Stephen, “Rwy’n falch iawn o fachu’r cyfle hwn ar adeg gyffrous wrth i ni ddatblygu ac ehangu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Mae gennym staff a myfyrwyr anhygoel y bydd eu brwdfrydedd a'u hysfa’n ein galluogi i gynorthwyo â thwf a datblygiad strategol y brifysgol. Mae ein portffolios ymchwil ac addysgu tariff uchel cynyddol yn darparu sylfaen wych i effaith gymunedol ac ehangu yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Nia, “Rwy’n falch o fod yn arwain rhaglen Feddygaeth arloesol newydd Prifysgol Bangor. Rwy’n edych ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr brwdfrydig, angerddol ac amrywiol yn y brifysgol, yn ogystal â mewn lleoliadau clinigol ledled gogledd Cymru o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gofal cychwynnol. Bydd adeiladu ar gryfderau ein rhaglen Meddygaeth arloesol C21 Gogledd Cymru yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu a darparu addysg feddygol o’r safon uchaf er budd cymunedau gogledd Cymru.”
Dywedodd yr Athro Mike Larvin, “Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Stephen a Nia yn ystod blwyddyn gyntaf yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru newydd. Maent wedi gweithio’n frwd i osod sylfeini cadarn i’r ysgol gyda thwf cyflym mewn rhaglenni newydd, gan gynnwys Meddygaeth a Fferylliaeth, yn ogystal â chefnogi ein portffolio presennol o raglenni ac ymchwil. Rydym yn hynod ffodus i fod wedi eu penodi’n gystadleuol i’w rolau arweinyddol newydd, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw o fewn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd.”