Prifysgol Bangor a Verily: Chwyldroi Monitro Dŵr Gwastraff
Ers ei sefydlu yn 2020, mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae labordy dŵr gwastraff Prifysgol Bangor, sydd wedi ennill gwobrau, wedi dod yn arweinydd ym maes bio-wyliadwriaeth amgylcheddol y Deyrnas Unedig. Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Brifysgol Bangor bartneriaeth gyda Verily, sef cwmni technoleg iechyd manwl gywir, i ehangu ei raglen monitro dŵr gwastraff. Ar hyn o bryd, mae Verily a Phrifysgol Bangor yn gweithio i berswadio cwsmeriaid, gan gynnwys llywodraethau a chwmnïau gwyddorau bywyd, i ymgymryd â phrofion dŵr gwastraff a chynhyrchu mewnwelediadau unigryw o ddata dŵr gwastraff.1
Labordy o'r Radd Flaenaf ym Mhrifysgol Bangor
Bydd labordy Prifysgol Bangor, dan arweiniad Davey Jones, PhD, sy’n Athro nodedig yng Ngwyddorau’r Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd ac yn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ym Mhrifysgol Bangor, yn mabwysiadu’r uwch dechnoleg sydd gan Verily i brofi dŵr gwastraff er mwyn cynnig data iechyd cyhoeddus o safon uchel, sy'n hanfodol i olrhain trosglwyddiad firysau a hybu ymdrechion ymchwil a datblygu ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat. Trwy’r cydweithredu hwn, mae’r labordy’n ymestyn ei wasanaeth profi i amrywiol bathogenau dynol, gan gynnwys Norofeirws, firysau’r ffliw, MPXV, SARS-CoV-2, bacteria y mae ganddynt ymwrthedd gwrthficrobaidd, a ffyngau. Bydd y labordy hefyd yn cyflymu datblygiad galluoedd newydd, gan gynnwys profion amgylcheddol. Bydd yr Athro Jones a'i dîm yn parhau i arwain gwaith labordy Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Verily.2
Gwasanaethau: Canfod Pathogenau Uwch a Mewnwelediadau Iechyd Cyhoeddus
Rydym yn gweithio gydag asiantaethau'r llywodraeth, sefydliadau academaidd, a sefydliadau Ymchwil a Datblygu masnachol i sefydlu a rheoli rhaglenni monitro dŵr gwastraff o adnabod safleoedd hyd at ddychwelyd canlyniadau.
Gall ein cyfleusterau ddarparu'r holl gefnogaeth logisteg i ymgorffori safleoedd yn effeithlon a rheoli casglu samplau, cynnig dadansoddiad meintiol i fesur crynodiadau pathogenau, dilyniannu genomig, a danfon data o dan ISO 17025.
Resbiradol:
- SARS-CoV-2 (meintiol a dilyniannol)
- RSV
- Ffliw A (IAV)
- Isdeipiau H1, H5 IAV
- Ffliw B (IBV)
- Y frech goch
Gastroenteric:
- Norofirws GI, GII
- Sapofeirws
- Adenofirws
- Enterofeirws
- Poliofeirws (dilyniannu yn unig)
- Enterofirws-D68
- Firws Hepatitis A
- Firws Hepatitis E
- Rotafeirws
Arall:
- Firws Mpox - clade 1, clade 1b, clade 2
- Y Clefyd Crafu
- Dangosydd ysgarthol crAssffâg
- Dangosydd ysgarthol firws brith ysgafn
- Casglu samplau o weithfeydd trin dŵr gwastraff, cyfleusterau ger y ffynhonnell (e.e. ysbyty, carchar), neu o'r amgylchedd.
- Prosesu sampl o fewnlif hylifol, all-lif wedi'i drin, solidau sefydlog o eglurydd cynradd, neu sampl dŵr wyneb/gwaddod/pysgod cregyn
- Gall y cleient gasglu’r sampl neu fe all Bangor drefnu a chynnal hynny
- Dadansoddiad meintiol wedi'i gynnal gan ddefnyddio technoleg PCR meintiol
- At hyn, gellir dadansoddi priodweddau ffisigocemegol (pH, dargludedd trydan, cymylogrwydd, solidau crog, amoniwm, orthoffosffad) y samplau.
- Cewch y canlyniadau o fewn tua 24 awr o'u derbyn yn y labordy ym Mangor.
- Achrediad UKAS i ISO 17025.
- Data meintiol wedi'i ddarparu mewn copïau genom fesul litr neu wedi'i normaleiddio yn ôl poblogaeth.
Pam Dewis Prifysgol Bangor a Verily?
Gwybodaeth Bellach
Rydym yn gwerthfawrogi eich awydd i ddysgu mwy am raglen epidemioleg yn seiliedig ar ddŵr gwastraff Prifysgol Bangor a Verily. Am fwy o wybodaeth, a phrisiau, cysylltwch â ni.
Brambell Building, Bangor University, Deiniol Road, Bangor LL57 2UR