Olew palmwydd yw'r olew llysiau a ddefnyddir fwyaf ar y Ddaear ac mae planhigfeydd palmwydd olew cynyddol (Elaies guineensis) yn cyfrannu'n fawr at yr argyfwng bioamrywiaeth byd-eang. Fel y cnwd sy'n tyfu gyflymaf, roedd palmwydd olew yn meddiannu ~28 Mha ledled y byd yn 2023, gydag 82% o'r tir amaethyddol hwn yn Ne-ddwyrain Asia.
Pan gaiff coedwigoedd trofannol eu troi'n blanhigfeydd palmwydd olew, mae cael gwared ar lystyfiant uwchben y ddaear yn lleihau cymhlethdod strwythurol ac yn cyfyngu ar sut mae’r ecosystem yn gweithio. Wrth i blanhigfeydd aeddfedu mae eu canopïau'n cau a dônt yn fwy addas ar gyfer ymyriadau ecolegol i adfer rhywfaint o fioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau. Mae'r project hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ymchwilio i strategaethau i gynyddu bioamrywiaeth mewn planhigfeydd yn Borneo a chymryd rhan yn natblygiad polisïau ac arferion rheoli'r llywodraeth gydag ardystiad Adran Goedwigaeth Sabah a chan y ‘Roundtable on Sustainable Palm Oil’ (RSPO). Byddwn yn adeiladu ar ymchwil sydd eisoes yn bodoli i gloriannu a ellir defnyddio rhedyn nyth yr aderyn (Asplenium nidus) fel arf cadwraeth i wella bioamrywiaeth a chylchyniad maetholion mewn planhigfeydd palmwydd olew.
Partneriaid y project
Cefndir y project
Rhedyn nyth yr aderyn yw epiffytau mwyaf y byd. Maent yn rhywogaethau allweddol, ac yn tyfu i bwysau o 200kg yng nghanopïau coedwig Borneo. Mae priddoedd crog sy'n gysylltiedig â'r rhedyn yn cynnal microbau gan gynnwys ffyngau a bacteria, a digon o infertebratau i ddyblu'r amcangyfrif o fiomas infertebrataidd yn holl ganopi coedwig law. Pe gallem gysylltu prosesau bioddaeargemegol mewnol ac allanol y rhedyn, gallem eu defnyddio fel datrysiad uniongyrchol i adfer gweithrediad ecosystemau mewn miliynau o hectarau o balmwydd olew diraddedig.
Trwy'r project hwn, rydym yn gobeithio penderfynu a yw cynnwys rhedyn nyth yr aderyn mewn planhigfeydd palmwydd olew o fudd i iechyd palmwydd olew, gan ddarparu budd i gadwraeth trwy gynyddu cynhyrchiant palmwydd olew yn gynaliadwy gan greu lloches i fioamrywiaeth ar yr un pryd. Hoffem ddarganfod a yw trwytholch rhedyn yn creu canolbwynt o fioamrywiaeth a chylchrediad maetholion o fewn ac o dan y rhedyn. Bydd hyn yn helpu i gadarnhau a yw'r rhedyn yn adfer bioamrywiaeth pridd a sut mae ecosystem yn gweithio, yn ogystal â gwella iechyd palmwydd.
Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod A. nidus wedi'u haddasu i wrthsefyll eithafion yn yr hinsawdd ac o ran faint o faetholion sydd ar gael. At hyn, gall mwy o’r rhedyn dyfu mewn planhigfeydd palmwydd olew nag mewn cynefinoedd fforest law. Mae ymchwil ar fioamrywiaeth ac ar sut mae ecosystem microcosm rhedyn nyth yr aderyn yn gweithio wedi datgelu bod ei briddoedd crog yn cynnwys digon o infertebratau i ddyblu'r amcangyfrif o fiomas infertebrataidd yn holl ganopi coedwig law.
Byddwn yn datblygu’r maes ymchwil hwn i ddarganfod a all presenoldeb rhedyn fod o fudd i’r priddoedd, yn ogystal â chymunedau infertebratau, mewn planhigfeydd. Byddwn hefyd yn ymchwilio i weld a all ychwanegu rhedyn wella’r cnwd olew palmwydd.
Rydym yn paratoi ar gyfer ein taith maes i Borneo mewn cydweithrediad ag Arthur Chung, Dirprwy Bennaeth (Ymchwil a Chyhoeddi) yn y Ganolfan Ymchwil Goedwigol, Sepilok. Yn ystod y daith hon byddwn yn dynodi safleoedd astudio, gosod offer a chasglu samplau. Byddwn yn diweddaru'r dudalen we hon wrth i'r project fynd rhagddo, felly cadwch olwg arni i weld ein cynnydd.
Ein hamcanion yw:
- Asesu biogeocemeg priddoedd crog, trwytholch, a phridd daear A. nidus.
- Penderfynu a oes gwelliant yng nghylchred maethynnau pridd daear a bioamrywiaeth drwy wella sut mae ecosystemau planhigfeydd yn gweithio.
Yn y pen draw, ein nod yw newid polisi ac arferion cynhyrchu palmwydd olew trwy gael data i gefnogi'r RSPO i’w gwneud hi’n amod cyflwyno A. nidus i blanhigfeydd, a thrwy hynny ddylanwadu ar bolisïau llywodraethau ac arferion rheoli ledled y byd.
Cwrdd â'r tîm
Gwylio'r fideo: Uchafbwyntiau ac Isafbwyntiau Ymchwil Coedwig Law
[00:00] Teitl y fideo: Mae The Highs and Lows of Rainforest Research yn ymddangos ar y sgrin ac mae cerddoriaeth gyflym yn chwarae yn y cefndir trwy gydol y fideo.
[00:02] Ymchwilydd yn dringo coeden sy’n ymwthio o ganopi’r goedwig law
[00:04] Fan yn gyrru ar hyd trac drwy’r goedwig law
[00:05] Y fynedfa i Ganolfan Maes Dyffryn Danum
[00:08] Dau fyfyriwr yn cerdded trwy goedwig law eilaidd
[00:13] Myfyriwr yn cerdded trwy goedwig law gynradd
[00:16] Myfyriwr yn cerdded trwy goedwig law eilaidd
[00:19] Golau’r haul drwy ddail y canopi
[00:21] Tywysydd dringo yn gwirio fod harnais wedi'i osod yn iawn
[00:24] Myfyriwr yn dechrau dringo i mewn i’r canopi coed
[00:26] Dau fyfyriwr yn sefyll ar bont raffau sy’n croesi afon
[00:30] Dau fyfyriwr yn defnyddio ysgol i gasglu rhedynen epiffytig o goeden
[00:34] Ymchwilydd yn dringo coeden
[00:42] Golygfa o’r goedwig law yn ystod cawod
[00:45] Tri myfyriwr yn torri rhedynen epiffytig gyda thwca
[00:48] Ymchwilwyr yn saethu rhaffau dringo i mewn i’r canopi
[00:50] Dau fyfyriwr yn y goedwig law yn ystod cawod
[00:51] Ymchwilwyr yn gosod offer casglu data yng nghanopi’r goedwig law
[00:54] Ymchwilydd yn defnyddio ysgol i gasglu rhedynen epiffytig
[00:58] Myfyriwr yn cerdded trwy’r goedwig law
[01:01] Ymchwilwyr yn gosod offer casglu data yng nghanopi’r goedwig law
[01:04] Tri myfyriwr yn cerdded drwy’r goedwig law
[01:07] Golau’r haul drwy ddail y canopi
[01:12] Rhedyn nyth yr aderyn, Asplenium Nidus, yng nghanopi'r goedwig law
[01:15] Fideo awyr niwlog o'r goedwig law, gyda mwnci yn neidio i'r coed
[01:18] Ymchwilwyr yn profi pridd o’r rhedyn epiffytig
[01:23] Ymchwilwyr yn paratoi i ddringo yn y goedwig law
[01:25] Rhedyn nyth yr aderyn, Asplenium Nidus, yng nghanopi'r goedwig law
[01:27] Ymchwilydd yn casglu rhedynen epiffytig o goeden palmwydd olew
[01:31] Neidr gantroed yn cropian ar draws deilen
[01:32] Dau fyfyriwr yn defnyddio ysgol i gasglu rhedynen epiffytig o goeden
[01:35] Rhedyn nyth yr aderyn, Asplenium Nidus, yng nghanopi'r goedwig law
[01:39] Ymchwilwyr yn gosod offer casglu data yng nghanopi’r goedwig law
[01:42] Ymchwilwyr yn cerdded trwy blanhigfa palmwydd olew
[01:45] Ymchwilydd yn cysylltu rhedyn nyth yr aderyn, Asplenium Nidus, wrth goeden yn y goedwig law
[01:48] Coed palmwydd olew mewn planhigfa yn Borneo
[01:49] Myfyriwr yn tynnu llun o redyn nyth yr aderyn, Asplenium Nidus, yng nghanopi'r goedwig law
[01:52] Ymchwilydd yn cerdded ar hyd ffordd trwy blanhigfa palmwydd olew
[01:55] Pont raff yn croesi afon yn y goedwig law
[01:57] Ymchwilydd yn esgyn i ganopi coed gan ddefnyddio rhaffau
[02:00] Ffilm drôn o lori yn gyrru ar hyd ffordd ar ymyl planhigfa palmwydd olew
[02:03] Ymchwilwyr yn saethu rhaffau dringo i mewn i’r canopi
[02:07] Ymchwilwyr yng nghanopi coedwig law Dyffryn Danum
[02:14] Rhedyn nyth yr aderyn, Asplenium Nidus, mewn bag rhwyll er mwyn iddo gael ei samplu
[02:17] Ymchwilwyr yn cerdded trwy’r goedwig law
[02:19] Rhaffau dringo a ddefnyddir i gael mynediad i ganopi’r goedwig law
[02:23] Ymchwilwyr yn gosod offer casglu data yng nghanopi’r goedwig law
[02:27] Ffilm drôn o lori yn gyrru ar hyd ffordd drwy’r goedwig law
[02:30] Ymchwilwyr yn cerdded trwy blanhigfa palmwydd olew
[02:07] Ymchwilwyr yng nghanopi coedwig law Dyffryn Danum
[02:34] Myfyrwyr yn y goedwig law adeg casglu data
[02:27] Ffilm drôn o lori wedi parcio ar ffordd ar ymyl planhigfa palmwydd olew
[02:41] Myfyrwyr yn y goedwig law adeg casglu data
[02:45] Ymchwilwyr yn defnyddio rhaffau dringo i gyrraedd canopi’r goedwig law
[02:47] Rhedyn nyth yr aderyn, Asplenium Nidus, mewn bag rhwyll er mwyn iddo gael ei samplu
[02:52] Myfyriwr yn dal chwilen er mwyn ei hadnabod
[02:54] Golygfa o'r awyr o Ganolfan Maes Dyffryn Danum
[02:57] Ymchwilwyr yn trafod ymchwil mewn planhigfa palmwydd olew
[03:00] Rhaffau dringo a ddefnyddir i gyrraedd canopi’r goedwig law
[03:04] Athro yn dangos gwreiddiau rhedynen epiffytig i fyfyriwr
[03:08] Myfyriwr yn archwilio dail canopi mewn coedwig law
[03:14] Olew palmwydd mewn planhigfa yn Borneo
[03:15] Pont raff yn croesi afon yn y goedwig law
[03:19] Myfyriwr yn archwilio dail canopi mewn coedwig law
[03:25] Ffilm drôn o'r awyr o blanhigfa palmwydd olew
[03:33] Coed palmwydd olew mewn planhigfa yn Borneo
[03:34] Myfyriwr yn cynnal dadansoddiad pridd mewn labordy yn y ganolfan maes
[03:38] Ymchwilwyr yn casglu pridd i'w ddadansoddi
[03:46] Myfyriwr yn casglu data yng nghoedwig law Dyffryn Danum