Mae tirweddau sydd wedi eu hadfer yn dueddol o fod yn rhai sydd ar gael i’w cymunedau wedyn, megis gwlypdiroedd sydd wedi eu hadfer fel gwarchodfa natur, neu hen domen lo ym Mhrydain, neu coedwig wedi ei hadfer at ddefnydd y gymuned yn Nhanzania neu Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC).
Ni fydd ardaloedd sydd wedi eu hadfer byth yn mynd yn ôl i’w cyflwr gwreiddiol, er enghraifft anaml iawn y bydd ysglyfaethwr apig, fel bleiddiaid, yn dychwelyd i goedwigoedd cymunedol. Gall hyn arwain at rai rhywogaethau’n dominyddu, a chreu anghydbwysedd a mwy o risg o ledaeniad heintiau o fywyd gwyllt i bobol. Rhaid cynnal adferiad heb gynyddu’r risg i’r gymuned, ond dim ond ychydig o ddealltwriaeth sydd o’r prosesau sydd ynghlwm.
Mae rhaglen ymchwil 16 partner a gyllidir gan Ewrop yn gweithio gyda chymunedau o Sweden a’r Ffindir i’r DRC a Tanzania i ymchwilio i weld sut gall adfer effeithio ar y risg o ledaenu heintiau, ond hefyd i alluogi cymunedau lleol i gymryd rhan mewn projectau adfer a phennu eu blaenoriaethau eu hunain. Bydd y gwaith yn arwain at bolisïau a chanllawiau adfer cliriach y bydd modd eu dilyn mewn unrhyw dirwedd dymherus neu drofannol.
Mae Prifysgol Bangor â’r Rhaglen Ymchwil Horizon, a gyllidir gan Ewrop, wedi ymuno â’r project gyda phenodiad Dr Lucinda Kirkpatrick, Darlithydd Ecoleg Bywyd Gwyllt, sydd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r project ymchwil tra roedd yn gweithio ym Mhrifysgol Antwerp.
“Mae’n rhaid i ni weithio tuag at wella ac adfer tirweddau a mannau sydd wedi diraddio, gan eu bod yn aml yn adnoddau cymunedol pwysig, ond mae’n rhaid i ni ddeall hefyd pa effeithiau negyddol all ddigwydd yn sgil adferiad a’r offer a’r canllawiau sy’n angenrheidiol er mwyn i bobl allu osgoi unrhyw effeithiau negyddol anfwriadol, fel cynnydd mewn achosion o Glefyd Lyme,” esboniodd Lucinda.
Mae’r project cynhwysfawr hwn hefyd yn cynnwys technoleg arloesol, a bydd partneriaid yn y consortiwm yn datblygu dyfeisiau monitro newydd y gall cymuned eu defnyddio i asesu bioamrywiaeth amgylcheddau.
Bydd pum academydd o Brifysgol Stirling yn bartner yn y project, gan gynnwys Dr Brad Duthie, Darlithydd mewn Modelu Amgylcheddol mewn Gwyddorau Biolegol ac Amgylcheddol, a ddywedodd,
"Bydd rhan o'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid gan ddefnyddio gêm ar-lein a fydd yn efelychu'r broses o wneud penderfyniadau sy'n gysylltiedig ag adfer tirwedd o dan wahanol senarios. Bydd modd i ni gasglu’r canlyniadau, a dysgu am flaenoriaethau pobl o ran eu tirwedd, a’r canlyniadau sy’n dod yn sgil dewisiadau pobl.
Bydd y gwaith hwn yn addysgu chwaraewyr gêm ar adfer tra hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut y gallai ffactorau cymdeithasol ac economaidd yrru'r broses adfer.
Byddwn hefyd yn arolygu'r bioamrywiaeth mewn safleoedd sydd wedi'u hadfer ac yn ymchwilio i nifer yr achosion o glefydau,"
"Mewn ecosystemau diraddedig, mae rhai rhywogaethau sydd yn cludo pathogenau heintus yn amlhau, a gall hyn fod y andwyol i les pobl. Tra bod adfer bioamrywiaeth yn cael ei glodfori fel datrysiad, gall cyflwyno rhywogaeth newydd yn y broses o adfer ecosystem gyflwyno risg iechyd newydd. Er mwyn sicrhau bod y broses adfer yn cyflwyno tirwedd iachach, mae dealltwriaeth o’r prosesau cymhleth yn hollbwysig. Dyma beth yw ein nod gyda RESTOREID," ychwanegodd yr Athro Dr Herwig Leirs, o Brifysgol Antwerp.