Difodiant ac Esblygiad: Astudiaeth arloesol yn adolygu gwreiddiau bioamrywiaeth
Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr wedi gwneud darganfyddiad arloesol a allai ail-lunio ein dealltwriaeth o sut esblygodd bioamrywiaeth fyd-eang. Trwy ail-greu esblygiad rhywogaethau dros y 45 miliwn o flynyddoedd diwethaf, canfu ymchwilwyr fod tarddiad daearyddol llawer o blanhigion, pryfed a mamaliaid wedi'u cysylltu'n agosach nag a feddyliwyd o’r blaen.
Arweinir yr ymchwil gan Brifysgol Aberdeen mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Lakehead yng Nghanada, a nifer o sefydliadau yn Indonesia gan gynnwys IBP, Bogor. Defnyddiodd y tîm De-ddwyrain Asia—un o’r rhanbarthau mwyaf cyfoethog o ran bioamrywiaeth yn y byd—fel labordy naturiol i olrhain tarddiad daearyddol ystod eang o rywogaethau. Mae eu canfyddiadau yn herio damcaniaethau hirsefydlog bod grwpiau o fflora a ffawna wedi esblygu ar wahân ar wahanol fathau o dir cyn arallgyfeirio ar draws y rhanbarth.
Yn ganolog i’r ymchwil hwn mae model esblygiadol newydd a ddatblygwyd gan y tîm, sy’n cynnwys rhywogaethau diflanedig yn eu dadansoddiad am y tro cyntaf. Mae’r dull arloesol hwn nid yn unig wedi darparu darlun esblygiadol mwy cyflawn ond mae hefyd wedi paratoi’r ffordd ar gyfer dealltwriaeth newydd o sut y dechreuodd ac y lledaenodd bioamrywiaeth ar draws ehangdiroedd. Defnyddir y model bellach mewn cydweithio rhyngwladol i ailedrych ar hanes esblygiadol cyfandiroedd eraill, a fydd mae’n siŵr yn ail-lunio ein dealltwriaeth o fioamrywiaeth fyd-eang.
“Tybiem a allai sawl grŵp o blanhigion ac anifeiliaid fod â’r un tarddiad daearyddol wrth i dystiolaeth ddaearegol newydd gyferbynnu â’r adluniadau presennol o darddiad a lledaeniad rhywogaethau”, meddai Dr Leonel Herrera Alsina, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Aberdeen. “Fodd bynnag, mae difodiant parhaus rhywogaethau trwy gydol proses esblygiad yn dileu gwybodaeth allweddol o ran ail-greu’r gorffennol.
”Roedd cynnwys rhywogaethau diflanedig yn y broses fodelu yn caniatáu i'r ymchwilwyr olrhain patrymau esblygiadol ymhellach yn ôl mewn amser, gan ddatgelu bod sawl grŵp o rywogaethau yn Ne-ddwyrain Asia wedi lledaenu ar draws y rhanbarth cyfan yn gynharach nag a feddyliwyd o’r blaen. Mae'r canlyniad hwn yn atgyfnerthu'r syniad bod pontydd tir yn bodoli ac yn gweithredu fel modd o gynorthwyo lledaeniad rhywogaethau allan o Borneo a Chyfandir Asia."
Dywedodd Dr Alexander Papadopulos, Darllenydd mewn Ecoleg Foleciwlaidd a Genomeg ym Mhrifysgol Bangor, “Mae ein dealltwriaeth o ble y tarddodd grwpiau o rywogaethau a’r llwybr a gymerodd eu cyndeidiau i’w cartrefi presennol wedi’i seilio ar wybodaeth anghyflawn. Ni allwn ond arsylwi dosbarthiad y llinachau sy'n parhau. Mae ein ffordd ni o fynd ati yn cynnwys difodiant wrth fodelu esblygiad rhywogaethau yn y rhanbarth daearyddol cymhleth a bioamrywiol hwn, gan chwyldroi ein barn ynghylch sut y cynhyrchwyd y fioamrywiaeth anhygoel hon.”
“Roedd dulliau blaenorol yn anwybyddu effaith rhywogaethau diflanedig, ond trwy eu hymgorffori, rydym ni wedi gallu creu darlun mwy cywir a chynhwysfawr o sut yr esblygodd bioamrywiaeth anhygoel y rhanbarth hwn,” meddai'r Athro Lesley Lancaster, sydd â Chadair Bersonol ym Mhrifysgol Aberdeen. “Mae’r ddealltwriaeth newydd hon yn cyd-fynd â chanfyddiadau daearegol diweddar a gallai drawsnewid sut rydym yn synio am darddiad a lledaeniad rhywogaethau yn fyd-eang.”
Pwysleisiodd yr Athro David Burslem, Cyfarwyddwr y Sefydliad Rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberdeen, arwyddocâd ehangach yr astudiaeth. “Mae’r ymchwil hwn yn tanlinellu pwysigrwydd astudio prosesau ecolegol a daearegol gyda’i gilydd. Mae'r patrymau esblygiadol a welwn ni heddiw wedi'u cydblethu'n ddwfn â hanes daearegol y rhanbarth. Mae integreiddio’r disgyblaethau hyn yn ein galluogi i ddeall gwreiddiau bioamrywiaeth yn well a sut mae wedi datblygu dros filiynau o flynyddoedd.”
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol, yn taflu goleuni newydd ar hanes esblygiadol bywyd ar y Ddaear ac yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr ynghylch sut y gellir integreiddio prosesau esblygiadol i flaenoriaethu cadwraeth, gan helpu i ddiogelu bioamrywiaeth wrth i ecosystemau wynebu pwysau cynyddol oherwydd newid hinsawdd.
“Mae ein canfyddiadau yn chwyldroi’r ffordd rydym ni’n meddwl am esblygiad bioamrywiaeth, nid yn unig yn Ne-ddwyrain Asia ond yn fyd-eang,” ychwanegodd yr Athro Justin Travis, sydd â Chadair Bersonol ym Mhrifysgol Aberdeen. “Mae'r model hwn, a ddefnyddir bellach mewn partneriaethau ledled y byd, yn agor y drws i ailedrych ar ddamcaniaethau hirsefydlog am esblygiad ar gyfandiroedd eraill hefyd. Mae’r gwaith yn gosod y llwyfan ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a fydd yn adolygu ein dealltwriaeth o sut mae rhywogaethau wedi addasu ac arallgyfeirio dros filiynau o flynyddoedd.”
Ariannwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) UKRI. Cyhoeddir y papur yn y cyfnodolyn, Proceedings of the Royal Society, Series B.