Yn edrych fyny bon y coed tua'r canopi- mae ystol gefyd yn y llun

Mae astudiaeth ddiweddar yn datgelu beth sy'n gwneud rhai o goedwigoedd yr Amazon yn fwy gwydn i’r newid yn yr hinsawdd

Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature yn adrodd canlyniadau rhyfeddol a all helpu i ddeall ac amddiffyn coedwig yr Amazon yn y dyfodol, a sicrhau ei bod yn parhau â’i rôl hollbwysig o oeri hinsawdd y Ddaear.

Nid oes digon o astudiaethau o goedwigoedd trofannol sy’n tyfu ar lefelau trwythiad dŵr bas, lle mae digonedd o ddŵr pridd trwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed yn ystod tymhorau sych a sychder cymedrol, ac eto mae’r rhanbarthau hyn yn cwmpasu tua hanner basn yr Amazon ac, fel yr ydym wedi dangos yn ein papur, maent wedi’u hamddiffyn rhag effeithiau sychder.

Y newyddion da yw y gallai effaith gadarnhaol sychder cymedrol yn y rhanbarthau hyn wrthbwyso colledion carbon mawr a ddisgwylir yn sgil marwolaethau coed mewn ardaloedd lle mae’r lefel trwythiad yn ddwfn o dan yr wyneb.

Dr Marielle Smith ,  Darlithydd mewn Gwyddor Coedwig

Cadw fforestydd yr Amazon

Roedd yr ymchwil, a arweiniwyd gan Shuli Chen, sy’n fyfyrwraig PhD sy’n gweithio gyda'r Athro Scott Saleska ym Mhrifysgol Arizona, yn asesu delweddau lloeren o'r Amazon, sy'n cipio blynyddoedd glawiad rheolaidd a thri achos o sychder mawr yn yr Amazon.  Pan fydd tyfiant coed yn cael ei niweidio gan sychder, mae canopi'r goedwig yn ymddangos yn fwy brown mewn delweddau lloeren. Ar y llaw arall, pan fydd y canopi'n mynd yn wyrddach, mae hynny'n golygu bod tyfiant coed yn cynyddu.  Canfu'r cyd-awdurdon fod sychder yn achosi'r 'cynnydd gwyrdd' hwn mewn priddoedd sy’n llawn dŵr, gan gadarnhau rhagdybiaeth bod 'ochr arall i sychder'.

Y priddoedd oedd fwyaf gwydn i sychder oedd y priddoedd llawn dŵr a’r priddoedd a oedd yn isel yn y maetholion sydd eu hangen i dyfu coed, gan ddangos bod y ‘cynnydd gwyrdd’ mwyaf wedi digwydd pan oedd tymheredd yr aer ac amodau golau’r haul hefyd yn ffafriol i dyfiant. Ac, roedd hyd yn oed rhai coedwigoedd ucheldirol yn wydn i sychder, ond dim ond os oeddent yn isel mewn maetholion a bod ganddynt goed arbennig o dal a allai ganiatáu i'r goedwig gael mynediad mwy effeithiol at ddŵr wedi'i storio'n ddwfn yn y pridd.  Gall addasiadau’r coed sy'n tyfu mewn amgylcheddau llawn straen a heb lawer o faetholion hefyd eu hamddiffyn rhag sychder.

Daeth Marielle Smith i'r casgliad,

“Mae llawer o astudiaethau ar raddfa fawr yn trin yr Amazon fel un goedwig, ond yn hollbwysig, mae ein papur ni’n ei rannu'n wahanol ranbarthau neu 'ecotopau' coedwigoedd, sydd â nodweddion amgylcheddol ac ecolegol gwahanol. Roedd hyn yn ein galluogi i nodi’r gwahanol fecanweithiau sy’n rheoli ymatebion i sychder mewn gwahanol rannau o’r Amazon, ac i fapio ardaloedd sy’n debygol o fod yn wydn i sychder neu’n agored i effeithiau negyddol sychder.

Bydd y wybodaeth hon yn bwysig wrth gynllunio cadwraeth a rhagweld swyddogaeth coedwig yr Amazon yn y dyfodol. Gallwn weld bod y rhanbarthau sydd fwyaf agored i niwed o ran effeithiau sychder hefyd mewn perygl uchel o ddatgoedwigo. Ac eto, dyma'r un rhanbarthau sy'n cynhyrchu aer coedwig llaith sy'n cael ei gludo trwy'r prifwyntoedd i ranbarthau amaethyddol pwysig Brasil yn y de.

Mae’r canfyddiadau hyn yn trawsnewid ein dealltwriaeth o ba ranbarthau’r Amazon sydd fwy agored neu’n fwy gwydn i effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd, ac yn dangos pa mor bwysig yw effeithiau amodau pridd yn yr hirdymor o ran ymatebion coedwigoedd i’r hinsawdd. Gall y canfyddiadau hyn helpu i wneud penderfyniadau cadwraeth a sbarduno ymchwil newydd, sydd ei angen i ddeall ac amddiffyn coedwig yr Amazon yn y dyfodol, a sicrhau bod ei rôl hanfodol wrth oeri hinsawdd y Ddaear yn cael ei chynnal.”

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?