I ddathlu Diwrnod y Ddaear, mae dros 30 o artistiaid o fri, o bob rhan o’r byd, wedi rhyddhau cerddoriaeth newydd wedi’i thrwytho â synau byd natur - o ganu adar a sŵn y tonnau, i rewlifoedd, gwyfynod, antelopiaid a bywyd gwyllt y goedwig law.
Rhyddheir y casgliad unigryw hwn o ganeuon fel rhan o Sounds Right, sef menter a greodd hanes trwy lansio NATURE fel artist swyddogol ar lwyfannau ffrydio am y tro cyntaf y llynedd, gan amlygu ei harddwch i filiynau wrth gynhyrchu breindaliadau sylweddol i gadwraeth fyd-eang. Mae’r Athro Julia PG Jones, o Brifysgol Bangor, yn gwasanaethu ar y panel cynghori arbenigol sy'n penderfynu sut mae 'natur' yn gwario ei breindaliadau.
Mae'r traciau newydd yn cynnwys cymysgedd eclectig o artistiaid, gan gynnwys enillwyr GRAMMY a sêr cynyddol ar draws sawl genre. Ymhlith y cyfranwyr allweddol mae’r cyfansoddwr o Ffrainc, Yann Tiersen, y seren bop o India, Armaan Malik, y pwerdy electronig, Steve Angello (Swedish House Mafia), y rociwr-indi o Seattle, SYML, a’r gantores-cyfansoddwraig R&B Indiaidd-Americanaidd, Raveena. Ynghyd ag artistiaid megis Maejor, Rozzi, George The Poet, Rosa Walton, Penguin Cafe, Madame Gandhi, Franc Moody, a llawer mwy.
Mae pob artist wedi mabwysiadu agwedd unigryw at ymgorffori natur yn eu gwaith, gan ddefnyddio synau a recordiwyd mewn coedwigoedd, cefnforoedd, a mannau gwyrdd trefol. Mae rhai traciau’n cynnwys recordiadau maes gan y recordydd sain enwog, Martyn Stewart a The Listening Planet, tra bod eraill yn integreiddio recordiadau amgylcheddol yr artistiaid eu hunain, gan wneud pob darn yn deyrnged hynod bersonol i fyd natur.
Dywedodd Madame Gandhi, “Rwy'n credu yng ngrym cerddoriaeth i danio mewnsylliad a gweithredu. Mae’r ymgyrch hon yn dathlu ein cysylltiad dwfn â natur a’n gilydd, gan hyrwyddo cariad, grymuso, a’n gallu ar y cyd i lywio byd gwell.”
Wrth i artistiaid harneisio cerddoriaeth i ysbrydoli cysylltiad a gweithredu, mae arbenigwyr, megis yr Athro Julia Jones, yn sicrhau bod y momentwm creadigol hwn yn trosi’n effaith cadwraeth yn y byd go iawn.
Dywedodd Yr Athro Julia Jones, o grŵp ymchwil cadwraeth ffyniannus Prifysgol Bangor, “Heb os, mae byd natur yn artist. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o fenter Sounds Right, sy’n cysylltu â chynulleidfa hollol newydd. Mae 11 miliwn o wrandawyr wedi mwynhau seiniau natur mewn ffordd newydd yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae'r arian a godwyd drwy'r ffrydio ar Spotify wedi'i sianelu i gefnogi projectau a arweinir yn lleol sy'n gwneud gwaith gwych i warchod byd natur. Dim ond y dechrau yw hyn.”
Dywedodd Gabriel Smales, Cyfarwyddwr Rhaglen Fyd-eang Sounds Right yn UN Live: “Mae miliynau’n gwrando, ac yn cyfeirio cyllid go iawn i gymunedau sy’n amddiffyn ecosystemau mwyaf hanfodol y blaned. Ymhellach, trwy gydweithio gyda NATURE, mae artistiaid o bob rhan o’r byd yn ein hatgoffa y gall cerddoriaeth wneud mwy na’n symud yn emosiynol; gall ein galluogi i amddiffyn yr hyn sydd bwysicaf.”
Ers ei lansio, mae Sounds Right wedi ymgysylltu miliynau o bobl â synau byd natur. Yn 2024, ymrwymodd y fenter $225,000 i gefnogi gwaith cadwraeth brodorol a arweinir gan y gymuned yn yr Andes Trofannol. Yn eu plith, roedd Fundación Proyecto Tití, sy'n amddiffyn mwncïod tamarin eiconig Colombia a 900 hectar o warchodfa goedwig sydd wedi'i hadfer mewn partneriaeth â ffermwyr lleol i amddiffyn coridorau coedwig hanfodol.
Bydd Sounds Right yn rhyddhau rhestri chwarae newydd cyn COP30 yn Belém, gan sicrhau bod cerddoriaeth yn parhau i fod wrth wraidd y sgwrs fyd-eang ar amddiffyn byd natur ar adeg dyngedfennol i’r blaned.
Mae Prifysgol Bangor yn gwneud ymchwil arloesol i archwilio effaith gwrando ar synau natur ar les.
Dywedodd Joseph Roy, Ymchwilydd PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, “Pan fyddwn yn astudio effeithiau seiniau natur ar fodau dynol, rwy'n aml yn cael fy synnu gan ddwyster yr emosiynau y gall y seinweddau hyn eu hysgogi. Mae pobl yn dod yn emosiynol; maent yn cofio eu plentyndod, ac mae'n helpu llawer i deimlo'n gyfforddus ac yn gysylltiedig â’u hunain a'r blaned. Pan fydd celf a gwyddoniaeth yn dod at ei gilydd, rydym yn ceisio deall beth sy'n ysgogi emosiynau mor gryf mewn bodau dynol, a sut y gallwn ddefnyddio hyn er budd natur a dynolryw."
Gallwch gymryd rhan yn ymchwil Prifysgol Bangor ar effeithiau byd natur ar les dynol. Gweler rhagor o fanylion yma.