Bu Steve, sy’n uwch ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio gyda dau academydd o’r brifysgol i ysgrifennu’r papur.
Darganfu’r ymchwilwyr fod perthynas fwy cymhleth rhwng mwyalchod y gwartheg a thapiriaid De America yng nghoedwig law’r Amazon, nag a dybid yn wreiddiol.
Mae mwyalchod y gwartheg yn bwyta drogod ar gyrff y tapiriaid, sydd o les i'r ddwy rywogaeth. Fodd bynnag, gwelodd Steve a'i dîm hefyd fod mwyalchod y gwartheg yn targedu clwyfau bach ar gyrff y tapiriaid, a allai achosi niwed iddynt, yn enwedig os yw'r adar yn bwydo ar waed y tapiriaid.
Mae hynny’n awgrymu nad yw'r berthynas rhwng y ddwy rywogaeth yn llesol i'r naill na’r llall bob amser, ond weithiau gall mwyalchod y gwartheg weithredu fel parasitiaid ar y tapiriaid.
Dywedodd Steve: “Roeddem yn ffilmio rhaglen ddogfen yn Suriname pan welsom yr ymddygiad hwn am y tro cyntaf a llwyddo i’w recordio ar ffilm.
“Sylweddolais siŵr o fod mai dyma’r tro cyntaf i neb ei recordio, felly cysylltais â’m cydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor a buom yn gweithio ar ei gyhoeddi mewn papur gwyddonol.
“Roedd yn wych gweithio gyda’r ddau academydd ym Mangor – gan eu bod yn amlwg yn rhannu fy angerdd am fyd natur, sef un o’r rhesymau rwyf mor hoff o Brifysgol Bangor.”
Dywedodd Dr Mark Mainwaring, prif gyd-awdur y papur: “Rydym yn hynod o ffodus fod Steve yn gydweithiwr inni yma ym Mangor ac yntau’n naturiaethwr mor wybodus.
“Roedd yn wych ysgrifennu’r papur efo fo gan mai dyma’r tro cyntaf i neb gofnodi’r ymddygiad.
“Hefyd, pan glywodd fy nithoedd, sy’n ddilynwyr brwd o Deadly 60, fy mod yn gweithio gyda Steve Backshall, roedden nhw’n meddwl fy mod i’n cŵl iawn – am y tro cyntaf yn fy mywyd!” ychwanegodd.
Mae'r papur, “A Newly Discovered Symbiotic Relationship Between Giant Cowbirds (Molothrus oryzivorus) and South American Tapirs (Tapirus terrestris) in Suriname” yn Austral Ecology, a dyma’r un cyntaf i Steve ei gyhoeddi gyda chydweithwyr o Brifysgol Bangor.
Dywedodd y cyd-awdur, yr Athro Christian Dunn: “Mae’r ffaith fod Steve Backshall yn uwch ddarlithydd anrhydeddus ym Mangor nid yn unig yn golygu bod y myfyrwyr yn cael treulio amser efo fo, cawn ninnau gyfle i wneud ymchwil gwirioneddol arloesol gyda naturiaethwr o fri byd-eang.”