Cafodd yr ardd groeso mawr yn y sioe, gan ennill Aur a’r gorau yn y categori ‘Planhigion Gorau’, felly mae dod â’r ardd yn ôl i Dreborth yn arbennig iawn. Mae wedi bod yn broses gyffrous i weithio gyda’r dylunydd gerddi Dan Bristow a’r tîm ar ailadeiladu’r ardd ar dir Treborth, gan ail-greu hanfod yr ardd gyda rhai newidiadau a syniadau newydd i sicrhau ei bod yn ffynnu yn ei chartref newydd yma yng Nghymru.
Cydweithiodd Dan Bristow ag elusen newid hinsawdd Cymru Maint Cymru ar yr ardd fioamrywiol, hudolus i ddod â bioamrywiaeth gyfoethog bywyd planhigion mewn coedwigoedd trofannol i’r amlwg, wrth dynnu sylw at ganlyniadau dinistriol datgoedwigo - collwyd ardal o goedwig sy’n fwy na dwywaith maint Cymru yn 2022. Derbyniodd y prosiect arian gan Project Giving Back, yr elusen grantiau unigryw sy’n cefnogi gerddi at achosion da yn RHS Chelsea.
Mae’r ardd yn cynnwys tua 313 o rywogaethau o blanhigion, sy’n adlewyrchu nifer y rhywogaethau coed y gellir darganfod mewn dim ond un hectar o goedwig drofannol.
Mae Gardd Maint Cymru yn trochi ymwelwyr mewn tirwedd gyfoethog sy’n cynrychioli coedwigoedd trofannol, ond mae’n cynnwys rhywogaethau o blanhigion sy’n ffynnu yn ein hecosystemau hanfodol ein hunain yma yn y Deyrnas Unedig. Y gobaith yw y bydd hyn yn herio ymwelwyr i gydnabod bod tirweddau ein cartref annwyl ninnau hefyd dan fygythiad.