Fy ngwlad:
Robbie gyda'r Tormaen Crymddail yn y feithrinfa blanhigion

Planhigyn diflanedig yn dychwelyd i Eryri wedi 62 mlynedd

Mae planhigyn mynydd hardd arferai lynu ar glogwyni yn Eryri wedi’i ailgyflwyno’n llwyddiannus i'r gwyllt yng Nghymru wedi iddo fod yn ddiflanedig ers 1962.

 

 

Roedd Julia Jones, athro gwyddor cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, yno i weld yr ailgyflwyno ac i roi rhywfaint o gyd-destun ar faterion cadwraeth ehangach i newyddiadurwyr wrth iddynt ddal y foment arbennig:

Roedd yn fraint bod yno pan ddychwelodd y Tormaen Crymddail i fynyddoedd Eryri. Mae cadwraeth, wrth gwrs, yn ymwneud â llawer mwy nag ailgyflwyno rhywogaethau diflanedig yn unig - mae'r rhan fwyaf o'n hymdrechion yn canolbwyntio ar gadw cynefinoedd a sicrhau bod lle i natur ffynnu.
“Fodd bynnag, mae rhywbeth arbennig am roi’r hyn a gollwyd yn ôl. Mae'r Deyrnas Unedig wedi gweld llawer o raglenni ailgyflwyno llwyddiannus gan gynnwys barcutiaid coch, afancod a gweilch y pysgod. Mae'n wych bod planhigyn bach yn cael sylw heddiw. Mae planhigion yn aml yn cael eu hanwybyddu o blaid rhywogaethau sydd ar y wyneb efallai’n fwy carismatig - er yn yr achos hwn, mae’r Tormaen Crynddail yn blanhigyn carismatig iawn
Yr Athro Julia Jones,  ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol

Mae'r gwaith plannu arbrofol wedi'i wneud ar dir y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdano, ac yn y misoedd nesaf bydd arolygon ar gyfer cynefinoedd priodol yn cael eu cynnal gan fotanegwyr sy'n abseilio. Nod yr arolygon hyn yw darganfod ble fydd orau i ailgyflwyno'r rhywogaeth yn llawn i'r gwyllt. Bydd lleoliadau'n cael eu dewis yn agos at y mannau lle credir bod poblogaethau wedi'u cofnodi'n flaenorol.

Meddai Robbie Blackhall-Miles, “Mae llwyddo i ddychwelyd rhywogaeth goll i’r gwyllt yn foment arbennig o ran adferiad byd natur. Roedd tranc trist y Tormaen Crymddail wedi’i ysgogi’n bennaf gan drachwant casglwyr planhigion, felly mae’r prosiect hwn yn cynrychioli tlysau wedi’u dwyn yn cael eu dychwelyd i’w lle haeddiannol yn nhirwedd Cymru. Mae pob planhigyn gwyllt brodorol yn cyfrannu at amrywiaeth ac iechyd ecosystemau ac mae rhoi’r Tormaen Crymddail yn ôl lle mae'n perthyn yn adfer cydbwysedd coll.

“Mae’r Tormaen Crymddail a fflyd o blanhigion gwyllt Arctig-alpaidd eraill yn cael eu herio’n arbennig gan newid hinsawdd sy’n cael ei yrru gan weithgaredd dynol, felly mae’n ddyletswydd arnom i ofalu’n well am gynefinoedd mynyddig fel Eryri.”

Ychwanegodd Julia Jones, “Edrychaf ymlaen at fynd â myfyrwyr i Gwm Idwal i weld sut mae’r planhigion hardd hyn yn ymdopi. Bangor yw’r lle perffaith i astudio cadwraeth a’r byd naturiol gan fod gennym leoliad mor anhygoel rhwng mynyddoedd Eryri a’r Fenai. Rydym pob tro’n gwneud y mwyaf o’r ‘ystafell ddosbarth awyr agored’ wych hon fel rhan o’n haddysgu.”

Darllenwch stori lawn Plantlife yma