Cydnabyddwyd gwaith Prifysgol Bangor ym maes iechyd y cyhoedd wrth i fedal a thystysgrif Queen’s University Prize gael eu cyflwyno ym Mhalas Buckingham.
Mae’r Queen’s Anniversary Prizes ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn rhan o system Anrhydeddau’r DU ac yn cael eu dyfarnu bob dwy flynedd gan y Sofran ar gyngor y Prif Weinidog yn dilyn proses adolygu annibynnol drylwyr a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Brenhinol, elusen annibynnol.
Dyma bymthegfed rownd y cynllun ac roedd dros 100 o geisiadau, a dyfarnwyd Gwobr i 22 o sefydliadau.
Cafodd Prifysgol Bangor ei chydnabod am ei system newydd ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd drwy ddadansoddi pathogenau niweidiol mewn dŵr gwastraff. Cafodd y system ei ddefnyddio yn genedlaethol yn ystod y pandemig ac mae bellach wedi’i haddasu i fesur ystod eang o ddangosyddion iechyd cyhoeddus.
Wrth i ni wynebu heriau’r pandemig COVID-19, roeddem yn gwybod o ymchwil yr oeddem eisoes wedi ei wneud ei biod hi’n bosib defnyddio profi dŵr gwastraff i dracio sut yr oedd y firws yn lledaenu, a dyna’n union waethon ni. Taflodd hyn oleuni ar ddeinameg SARS-CoV-2, ond hefyd ar botensial trawsnewidiol epidemioleg yn seiliedig ar ddŵr gwastraff er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ers hynny, ac ar ran Llywodraeth Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Undeb Ewropeaidd, mae’r dechnoleg wedi’i hehangu i fonitro ystod eang o ddangosyddion iechyd y cyhoedd gan gynnwys enterofirws, norofeirws, ffliw, RSV, polio ac organebau sy’n gwrthsefyll gwrthficrobaidd. Mae hyn bellach yn cael ei ymgorffori mewn system rybuddio amser real ar gyfer cyfleusterau gofal iechyd ac asiantaethau iechyd cyhoeddus. Mae’r dechnoleg hefyd yn cael ei defnyddio i ragfynegi’r potensial i unigolion gael eu heintio o ddod i gysylltiad â dŵr wedi’i halogi gan garthion (e.e. nofio dŵr agored), gan helpu i dorri cylch ail-heintio clefydau.
Ychwanegodd yr Athro Jones, “Mae’n anrhydedd fawr derbyn y Wobr hon, a hoffwn ddiolch i’m holl gydweithwyr sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hegni i wneud yr ymchwil hwn yn bosibl. Trwy weithio gyda diwydiant, sefydliadau academaidd eraill a llywodraethau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, byddwn yn parhau i wneud ymchwil cyfrifol er lles y cyhoedd.”
Mewn llythyr at enillwyr Gwobr Pen-blwydd y Frenhines dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak: