Mae Claire Hughes, Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, yn galw am gosbau llymach i bobol sy’n taflu sbwriel o gerbydau, fel rhan o ymgyrch i lanhau ffyrdd y wlad ac i amddiffyn bywyd gwyllt.
Er mwyn cefnogi’r newid gofynnol yn y gyfraith, a fyddai’n caniatáu defnyddio technoleg megis camerâu i adnabod cyflawnwyr, cyflwynodd Ms Hughes y Bil arfaethedig yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth, 22 Ebrill.
I’w gefnogi, cyfeiriodd Ms Hughes at ymchwil a arweiniwyd gan Christian Dunn, sy’n Athro mewn Gwyddor Gwlyptiroedd, a ddaeth o hyd i ficroblastigion ym mhob dyfroedd mewndirol a brofwyd ledled y Deyrnas Unedig.
“Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud ymchwil sydd ymysg yr ymchwil cyntaf yn y byd sy’n edrych ar ficroblastigion yn afonydd a llynnoedd y Deyrnas Unedig – gan hyd yn oed ddod o hyd iddynt mewn llyn anghysbell ger copa’r Wyddfa,” meddai Ms Hughes, yn ei chyflwyniad Bil Rheol Deng Munud.
Dywedodd Christian, “Mae’n wych y gallai rhywfaint o’r ymchwil yr ydym yn ei wneud helpu i newid polisi yn y fath fodd, fel bod llai o sbwriel ar ein ffyrdd a’n cymdogaethau.
“Gellir dadlau mai microblastigion yw un o beryglon cudd sbwriel, a mater o amser yw hi cyn i sbwriel achosi problemau ecolegol, problemau o ran bywyd gwyllt a hyd yn oed problemau o ran iechyd dynol.”
Aeth Ms Hughes ymlaen i ganmol gwaith sefydliadau amrywiol o amgylch Bangor a gogledd Cymru sy’n gwneud eu gorau glas i lanhau sbwriel.
Un o’r grwpiau a grybwyllwyd oedd Trash Free Trails, sy’n cynnal ymchwil ar broblem llygredd untro ar draws ein tirweddau, ar y cyd â Phrifysgol Bangor dan arweiniad Dr Martyn Kurr, sy’n uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.