Mae ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi yn dangos bod statws arbennig y coedwigoedd hefyd yn rhoi nodweddion ecolegol pwysig iddynt, yn enwedig eu gwytnwch mawr sy'n eu galluogi i ymadfer ar ôl cyfnodau o ddifrod a dirywiad.
Rhoddir statws cysegredig i’r coedwigoedd yn Epirus, gogledd-orllewin Gwlad Groeg, oherwydd eu cysylltiad â’r Eglwys Uniongred Roegaidd. Mae adeilad eglwys neu nodwedd grefyddol arall yn greiddiol i lawer o'r coedwigoedd. Cawsant eu hamddiffyn rhag camddefnydd ar hyd y cenedlaethau gan waharddiadau llym a orfodir trwy gredoau ysbrydol y bobl leol a pharhad y defodau cysegredig.
Cafodd hanes Epirus dros y 400 mlynedd diwethaf ei nodi gan newidiadau cymdeithasol mawr yng nghyfnod Ymerodraeth yr Otomaniaid, annibyniaeth Gwlad Groeg ac effaith y ddau ryfel byd. Aeth poblogaethau dynol yr ardal wledig trwy amrywiadau mawr. Bu cyfnodau o ddefnydd dwys ar y tir a phwysau ar adnoddau’r coedwigoedd, a bu diboblogi’n fodd i adfer y coedwigoedd trwy adfywio naturiol. Dengys ymchwil Prifysgol Ioannina, Prifysgol Bologna, Prifysgol Bangor a Gwasanaeth Coedwigaeth Ioannina, a gyhoeddwyd yn People and Nature, i’r coedwigoedd cysegredig barhau i fod yn nodwedd naturiol gyson yn y dirwedd trwy gydol yr hanes dan sylw.
O gymryd creiddiau pren o’r coed mewn pump o goedwigoedd a mesur eu cylchoedd twf, gwelir amrywiadau mawr yng nghyfradd sefydlu coed newydd ers y goeden fesuredig hynaf, a ddyddiwyd i 1621. Daeth nifer y coed newydd i’w anterth mewn cyfnodau yr oedd poblogaethau dynol yn isel. Roedd tystiolaeth dda hefyd i ddangos bod coed aeddfed y coedwigoedd cysegredig yn gweithredu fel cnewyllyn a wasgarai hadau a fu’n fodd i goed newydd ymsefydlu ac ehangu gorchudd y goedwig ledled y dirwedd.
Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Valentino Marini Govigli o Brifysgol Bologna:
“Mae i’r canlyniadau oblygiadau pwysig i safleoedd naturiol cysegredig o’r fath, y gellir eu hystyried yn ‘systemau cymdeithasol-ecolegol’, a’u helfennau naturiol a dynol yn cydblethu. Bu eu statws diwylliannol cryf yn allweddol i’w goroesiad mewn cyfnodau o gythrwfl enfawr, a’u gallu i ail-hau ac adfer y coedwigoedd ledled y dirwedd pan oedd lleihad mewn pwysau dynol yn caniatáu hynny, a fu’n hanfodol i’w gwytnwch.”
Dywedodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, a arweiniodd y tîm ymchwil:
“Yn ôl ein canlyniadau, rydym wedi gallu cynnig camau ymarferol i sicrhau bod coedwigoedd cysegredig yn gallu ymaddasu i newidiadau cymdeithasol sylweddol. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth y cyhoedd i hybu bywiogrwydd diwylliannol, a rheolaeth weithredol dros y coedwigoedd megis clirio llwyni fflamadwy o ardaloedd ffiniol a phori ysgafn cyfnodol i gynnal y safleoedd naturiol cysegredig unigol yn y dirwedd.”
Ychwanegodd yr Athro Healey:
“Mae’r cydweithio rhyngwladol yn dangos pwysigrwydd cysylltu darganfyddiadau newydd am werth diwylliannol a dynameg ecolegol coedwigoedd ag argymhellion ymarferol er eu cadwraeth, a sicrhau trwy hynny eu bod yn parhau i chwarae rhan hanfodol i genedlaethau’r dyfodol, sy’n ganolog i’r ymchwil a’r addysgu o ran coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor.”
Nododd yr ymchwilydd ôl-ddoethurol Dr Kalliopi Stara o Brifysgol Ioannina:
“Ers 2015 cafodd coedwigoedd cysegredig pentrefi’r rhanbarth eu rhestru ym mynegai Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Gwlad Groeg, ac maent yn elfennau allweddol o Dirwedd Ddiwylliannol Zagori a ychwanegwyd at restr UNESCO o safleoedd treftadaeth y byd yn 2023.”
Ychwanegodd arweinydd y project yr Athro John Halley o Brifysgol Ioannina:
“O ystyried statws uchel y Safleoedd Naturiol Cysegredig hynny bellach, bu cynnydd mawr yn y diddordeb o du’r myfyrwyr a’r cyhoedd, ac mae ein Labordy Ecoleg wedi cynnal cyrsiau maes ecoleg ddiwylliannol a llawer o ddigwyddiadau i ymgysylltu â’r cyhoedd.”
Ychwanegodd Dr Rigas Tsiakiris o Wasanaeth Coedwigaeth Ioannina:
“Mae canlyniadau’r ymchwil o fudd mawr i’r Gwasanaeth Coedwigaeth o ran llywio a gweithredu’r rheolaeth sydd ei hangen i warchod y coedwigoedd gwerthfawr yma”.
Teitl y papur: Archwilio gwytnwch gofodol ac amserol mewn systemau cymdeithasol-ecolegol: tystiolaeth o goedwigoedd cysegredig yn Epirus, Gwlad Groeg