Gwyddonydd hinsawdd i astudio effaith digwyddiadau tywydd eithafol ar fasn yr Amazon
Mae gwyddonydd hinsawdd o Brifysgol Bangor yn dechrau ar astudiaeth o effaith digwyddiadau tywydd eithafol ar system afonydd basn yr Amazon.
Bydd Dr Iestyn Woolway, o Ysgol Gwyddorau’r Eigion, yn canolbwyntio ar bwnc gwyddonol hollbwysig nad yw wedi'i astudio’n helaeth – sut y gall digwyddiadau eithafol lluosog, megis tywydd poeth a sychder, ddigwydd gyda'i gilydd a mwyhau eu heffeithiau niweidiol.
Nod y project ymchwil, Extremes in Brazilian Amazon lakes and its implications for social-ecological systems, sy’n cael ei gefnogi gan y Gymdeithas Frenhinol, yw astudio’r digwyddiadau eithafol hyn er mwyn deall eu heffaith yn well a dod o hyd i ffyrdd o helpu’r Amazon, a’i chymunedau, i ymdopi.
Mae Basn yr Amazon, yn Ne America, yn gartref i un o systemau afonydd mwyaf a phwysicaf y byd, gan gynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd a darparu ar gyfer miliynau o bobl.
Fodd bynnag, mae'r rhanbarth hwn yn profi digwyddiadau tywydd eithafol yn gynyddol, megis tywydd poeth difrifol, sychder a llifogydd. Er enghraifft, ym mis Medi 2023, o achos y sychder mwyaf erioed yn y rhanbarth, bu i gannoedd o lynnoedd gwympo, gan gynnwys marwolaethau digynsail o 209 o ddolffiniaid yn llyn Tefé, sef system ddŵr fawr yng nghanol yr Amazon, oherwydd cynhesu eithafol.
Mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau’n dod yn amlach ac yn fwy dwys oherwydd newid yn yr hinsawdd, gan greu bygythiadau sylweddol i'r amgylchedd a'r bobl sy'n byw yno.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway, sy’n Gymrawd Ymchwil Annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, “Trwy gyfuno data hanesyddol, delweddau lloeren, gwaith maes, a modelau cyfrifiadurol, rydym yn gobeithio cael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r digwyddiadau hyn a'u heffeithiau ar gymunedau lleol a'r amgylchedd.
“Byddwn yn gweithio'n agos gyda chymunedau’r Amazon i nodi'r prif heriau y maent yn eu hwynebu a datblygu atebion ymarferol i gynyddu eu gwytnwch i'r digwyddiadau eithafol hyn.
“Mae buddion ehangach ein hymchwil yn cynnwys darparu mewnwelediadau gwerthfawr a all lywio gwell polisïau a strategaethau cadwraeth. Trwy helpu i warchod ecosystemau unigryw'r Amazon a chefnogi bywoliaeth ei phobl, bydd ein project yn cyfrannu at sefydlogrwydd economaidd hirdymor ac iechyd amgylcheddol y rhanbarth.
“Mae'r ymchwil hon yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo datblygu cynaliadwy a sicrhau lles rhai o gymunedau mwyaf bregus y byd.”
Gall tymereddau eithafol gael canlyniadau difrifol ar y bobl sy'n byw ym masn yr Amazon. Gall y rhain fod yn uniongyrchol trwy drawiad gwres, dadhydradiad, a chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes yn gwaethygu. Gallant hefyd fod yn anuniongyrchol trwy effeithio ar eu bywoliaeth a'r amgylchedd y maent yn dibynnu arno, megis lluosogiad o glefydau a gludir gan fector (salwch y gellir ei drosglwyddo i fodau dynol gan organebau byw eraill megis mosgitos a throgod).
Gall tymereddau dŵr llynnoedd poeth sy’n codi’n aml yn ystod tywydd poeth gael dylanwad dramatig ar ecosystemau dyfrol, gan arwain at straen thermol, amharu ar gylchredau atgenhedlu, a chynyddu rhagdueddiad rhywogaethau i glefydau.
Yn ogystal â hyn, gall gwres eithafol waethygu effeithiau llygryddion a lleihau lefelau ocsigen, gan arwain at amodau sy'n niweidiol i fywyd dyfrol. Gall y newidiadau hyn raeadru drwy'r we fwyd, gan effeithio nid yn unig ar bysgodfeydd, ond hefyd yr adar, mamaliaid, a bodau dynol sy'n dibynnu arnynt, gan arwain at ansicrwydd bwyd.
Mae sychder, a nodweddir gan lefelau dŵr isel iawn, yn bryder hollbwysig arall.
Mae trefn llif Afon Amazon yn dymhorol iawn, ond mae difrifoldeb ac amlder cynyddol y sychder yn gwthio'r system y tu hwnt i'w hamrywioldeb naturiol. Gall lefelau dŵr isel effeithio'n ddifrifol ar natur fordwyol yr afon, rhwystro trawsgludiaeth, a lleihau mynediad at adnoddau dŵr croyw at ddibenion yfed, glanweithdra ac amaethyddiaeth.
Gall natur gyfansawdd y digwyddiadau hyn – lle mae aer poeth eithafol a thymereddau dŵr a sychder yn digwydd ar yr un pryd, neu yn union ar ôl ei gilydd – gynyddu eu heffeithiau unigol. Er enghraifft, gall amodau poeth a sych arwain at anweddiad cyflym o gyrff dŵr, gan ddwysau prinder dŵr a chynyddu'r straen ar ecosystemau dyfrol.
Fodd bynnag, mae digwyddiadau eithafol yn yr Amazon fel arfer yn cael eu hastudio ar wahân. Mae deall y digwyddiadau cyfansawdd hyn yn hanfodol i ddatblygu strategaethau rheoli effeithiol a mesurau lliniaru yn yr Amazon.