Mae ymchwilwyr yn hyderus eu bod wedi nodi safle llongddrylliad HMS Stephen Furness, a suddwyd ym 1917 ynghyd â dros 100 o'i chriw, ar ôl dros ganrif ar waelod Môr Iwerddon diolch i brosiect ‘Unpath'd Waters’ Towards a National Collection (TaNC) sy'n cyfuno arbenigedd gan 25 o sefydliadau o bob rhan o'r Deyrnas Unedig dan arweiniad Historic England.
Sefydlwyd Towards a National Collection, buddsoddiad £18.9m gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) UKRI, i gysylltu casgliadau sydd ar wahân, i ddileu rhwystrau ac i uno data mewn ‘rhwydwaith-goruwch’ digidol ar draws amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau y Deyrnas Unedig.
Mabwysiadodd y brosiect ‘Unpath'd Waters’ ddulliau newydd o ymchwilio i safleoedd llongddrylliadau ac mae tîm o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor yn credu eu bod o'r diwedd wedi dod o hyd i weddillion posibl yr HMS Stephen Furness, sydd ar goll ers Rhagfyr 1917 ar ôl cael ei suddo â thorpido gan golli dros 100 o fywydau. Roedd y darganfyddiad yma ond yn bosib drwy gyfuniad o argaeledd adnoddau hanesyddol wedi eu digideiddio, a data digidol cafodd ei hel gan ymchwilwyr y prosiect, gan ddefnyddio dulliau gwyddonol arloesol.
Bu'r tîm yn dadansoddi data sonar aml-baladr cydraniad uchel a gasglwyd gan long ymchwil y Prince Madog o Brifysgol Bangor i archwilio dimensiynau’r holl llongddrylliadau hysbys yn y rhanbarth. Roedd cyfuno’r wybodaeth hon ag adnoddau eraill, gan gynnwys adroddiad am safle ymosodiad a oedd wedi’i gynnwys mewn Kriegstagebuch (dyddiadur rhyfel) llong-U, yn golygu bod nodi man gorffwys tebygol HMS Stephen Furness a sawl llong arall wedi dod yn ymarfer cymharol syml, un y gellir ei hailadrodd yn hawdd mewn mannau eraill.
Gorwedd y llongddrylliad dan sylw ar ddyfnder o 90 metr, tua deng milltir i'r dwyrain o'r fynedfa i Strangford Lough yng Ngogledd Iwerddon ac fe'i hystyriwyd yn flaenorol i fod yn weddillion llong cargo o Sweden, yr SS Maja, a gafodd ei suddo â thorpido gan golli naw o fywydau, fis union cyn i'r rhyfel ddod i ben. Mae'r tîm ymchwil hefyd yn credu eu bod wedi dod o hyd i weddillion yr SS Maja sydd ychydig filltiroedd ymhellach i'r de. Mae casglu ynghyd yr holl dystiolaeth a gwybodaeth yn y gwahanol gasgliadau wedi galluogi’r tîm ymchwil nid yn unig i adnabod man gorffwys tebygol y llong yn dilyn yr ymosodiad ond hefyd ail-greu rhai agweddau trasig o’r hyn a ddilynodd. Mae tîm project Unpath'd Waters wedi hysbysu'r awdurdodau perthnasol o'r darganfyddiad posibl er mwyn sicrhau bod y llongddrylliad yn cael ei diogelu.
Ar brynhawn 13 Rhagfyr, 1917, roedd HMS Stephen Furness yng ngogledd Môr Iwerddon yn anelu am waith atgyweirio yn Lerpwl, pan gafodd ei tharo gan un torpido a daniwyd o UB-64, a oedd wedi bod yn stelcian yn amyneddgar ym Môr Iwerddon am gyfle fel hwn ers sawl diwrnod. Arweiniodd trawiad y torpido at ffrwydrad boeler gan achosi i’r llong 88m o hyd suddo o fewn tri munud. Dim ond deuddeg o forwyr o griw o dros gant a oroesodd. Ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw, hyd heddiw, mae lleoliad ymosodiad a gorffwysfan olaf yr HMS Stephen Furness wedi parhau’n ddirgelwch.
Pan edrychodd y tîm yn agosach ar y digwyddiadau y diwrnod hwnnw a’r rhai nesaf, dechreuodd canlyniadau annisgwyl eraill ddod i'r amlwg. Yn drist iawn, tua mis wedi’r suddo, cafodd pedwar o’r criw a gollodd eu bywydau yn ystod yr ymosodiad eu golchi i’r lan ar hyd arfordir Gogledd Cymru bron i gan milltir i’r de. Er mwyn deall yn well sut y digwyddodd hyn ac archwilio’r hyn a allai ddigwydd mewn senarios tebyg eraill, llwyddodd y tîm i ddod o hyd i data gwynt a oedd wedi’i archifo gan y Swyddfa Dywydd o adeg y suddo, a rhoi’r data fel fewnbwn i fodel llanw. Fel hyn, roedd posib i arsylwi’r llwybrau a’r amser y byddai gwrthrychau arnofiol wedi’u dilyn ym Môr Iwerddon o ystyried yr amodau ar y pryd. Roedd y canlyniadau'n dangos y gwerth a'r potensial sydd gan gofnodion meteorolegol a modelau fel hyn i amcangyfrif lleoliadau mwy manwl gywir ar gyfer cychod coll. Achos yna aml, yr unig wybodaeth leoliadol sydd ar gael yw hanesion goroeswyr ac achubwyd, a rheina ar ôl iddynt fod ar goll am oriau lawer.
Bydd gwybodaeth newydd o'r darganfyddiad hwn yn galluogi ymchwilwyr i archwilio y tu hwnt i naratifau syml gwarchae a rhyfel Llongau-U, ac ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bobl dan sylw, y bywydau y gwnaethant eu harwain, a'r aberthau a wnaethant. Roedd y llong yn stemar fasnachol wedi'i throsi a allai fod wedi cael ei defnyddio fel rhan o'r gwarchae ymhell yng ngogledd Môr y Gogledd. Roedd y gwarchae hwn yn rhan allweddol o strategaeth y Llynges Frenhinol i gwtogi ar weithgarwch yr Almaen a chafodd effaith sylweddol ar gyflenwadau bwyd a hanfodion eraill yn yr Almaen. Yn ystod y gwarchae, roedd llongau fel HMS Stephen Furness yn rhan o weithgarwch y llynges o ddydd i ddydd a gyfrannodd yn sylweddol at wrthod gofod môr i longau’r Almaen.
Dywedodd Syr Roly Keating, Cadeirydd y Pwyllgor Llywio, ‘Towards a National Collection’, a Phrif Swyddog Gweithredol y Llyfrgell Brydeinig, “Mae'n gyffrous gweld enghraifft mor ddiriaethol o'r hyn sy'n digwydd pan ddaw casgliadau a setiau data hanesyddol amrywiol at ei gilydd i geisio gwybodaeth newydd ac arloesi gwyddonol. Dyna’n union y weledigaeth sydd wrth galon ‘Towards a National Collection’. Yn rhy aml o lawer, oherwydd diffyg buddsoddiad mewn digideiddio, sgiliau ac isadeiledd cyffredin, mae casgliadau’r Deyrnas Unedig wedi parhau’n dameidiog ac, mewn llawer o achosion, yn anodd cael mynediad atynt, hyd yn oed i ymchwilwyr ymroddedig. Ond mae eu potensial - i gymdeithas, arloesi a thwf economaidd - yn aruthrol.”
Dywedodd Dr Mike Roberts, Rheolwr Ymchwil a Datblygu Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, “Ar y cyfan, mae’r ymchwil yn amlygu ein diffyg dealltwriaeth sylweddol o’r hyn y mae’r rhan fwyaf o longddrylliadau yn nyfroedd y Deyrnas Unedig yn ei gynrychioli mewn gwirionedd, sydd hefyd yn broblem ar raddfa fyd-eang. Fodd bynnag, mae’r project hwn yn dangos yn glir y potensial anhygoel sydd gan ein gwahanol gasgliadau o wybodaeth a deunydd wrth fabwysiadu dull amlddisgyblaethol cyfunol.”
Dywedodd Phoebe Wild, Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, “Y data aml-baladr ydi’r hyn wnaeth ei brofi i ni; dangosodd y data fod y safle Prydeinig yn anghywir ac yn caniatáu inni ddilysu safle’r Almaen. Roedd y data sonar hefyd yn allweddol i wrthbrofi mai gweddillion SS Maja oedd y llongddrylliad hwn, gan atgyfnerthu ein dadl mai gweddillion HMS Stephen Furness ydyw mewn gwirionedd. Mae'r ymchwiliad hwn wir yn dangos un o nodau'r project Unpath'd Waters - sef dangos potensial casgliadau morwrol y Deyrnas Unedig."
Dywedodd yr Athro Christopher Smith, cadeirydd gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, “Mae hwn yn ddarganfyddiad gwefreiddiol ac yn destament i'r pŵer y mae'r AHRC yn bwriadu ei ryddhau trwy gysylltu'r gwahanol gasgliadau o wybodaeth a deunydd sydd gan sefydliadau treftadaeth amrywiol y Deyrnas Unedig trwy'r rhaglen Towards a National Collection. Mae gwaith rhagorol y project Unpath'd Waters wedi datgelu, o'r diwedd, orffwysfan bosibl dros gant o ddynion a fu farw dan amgylchiadau trasig ac mae'n rhoi awgrym difyr i ni o'r cyfoeth hanesyddol sydd wedi'i guddio yn y dyfroedd o'n cwmpas. Os yw gwaith Towards a National Collection eisoes yn arwain at ddarganfyddiadau mor gyffrous â hyn, alla’i ddim aros i weld at beth arall y gallai arwain yn y dyfodol.”
Dywedodd Barney Sloane, Historic England, Prif Ymchwilydd: Unpath'd Waters: Casgliadau Morol a Morwrol yn y Deyrnas Unedig, “Mae dod o hyd i HMS Stephen Furness fwy na thebyg yn enghraifft wych a theimladwy o botensial data treftadaeth forwrol y Deyrnas Unedig ac yn dyst i gydweithrediad tîm Unpath'd Waters a'u gwaith ditectif rhagorol. Mae treftadaeth forwrol y Deyrnas Unedig yn hynod gyfoethog, a nod ein project oedd archwilio sut y gallwn gael mynediad i'r dreftadaeth hon, ei chysylltu a'i chwilio mewn ffyrdd newydd i greu gwybodaeth a straeon newydd. Mae’r canlyniad hwn yn enghraifft ryfeddol o ba mor bwysig fydd ymdrech o’r fath.”
Ychwanegodd Rebecca Bailey, Cyfarwyddwr Rhaglen, Towards a National Collection, “Mae’r darganfyddiad rhyfeddol hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol at ei gilydd i wthio yn ei flaen y gwaith o ddatblygu casgliad digidol cynhwysol, unedig, hygyrch, rhyngweithredol a chynaliadwy ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae Towards a National Collection yn ymwneud â chysylltu ac agor mynediad i dreftadaeth y Deyrnas Unedig – i bawb, nid ymchwilwyr academaidd yn unig. Rydyn ni am chwalu’r rhwystrau rhwng pobl, casgliadau ac ymchwil – mawr a bach, gwyddonol a diwylliannol, cenedlaethol a rhanbarthol.
“Roedd y pedwar morwr y darganfu eu cyrff ar arfordir Gogledd Cymru yn rhoi cyfle i ddefnyddio dadansoddiad gwyddonol arloesol i lywio ein damcaniaeth am y llongddrylliad. Fodd bynnag, mae'n bwysig edrych ar y darlun ehangach yma; ni waeth ble y gorwedd llongddrylliad yr HMS Stephen Furness, roedd y rhain yn bedwar gŵr allan o dros gant a gollodd eu bywydau pan suddodd y llong. Mae’n hawdd ymgolli yn y cyffro o chwilio am longddrylliad coll, ond mae hefyd yn bwysig cofio’r drasiedi ddynol sydd â chysylltiad annatod.”