Fy ngwlad:
Decorative

Ecwiti Iechyd yng Nghymru

Trosolwg 

Mae’r gweithdy hwn yn cael ei arwain gan yr Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant 

Mae’r gweithdy yn rhan o’n rhaglen addysgu ôl-raddedig ym maes iechyd ataliol, iechyd y boblogaeth ac arweinyddiaeth. yn benodol, mae’r gweithdy hwn yn gysylltiediad a’r modiwl: ILA-4907 Ecwiti Iechyd a Hawliau Dynol

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.
 

Lleoliad

Ar-lein

Iaith cyflwyno’r cwrs 

Saeseng

Hyd Y'r Digwyddiad

2.5 Awr  (9:30am i 12:00pm)

Beth mae dysgwyr wedi dweud am y digwyddiad hwn yn y gorffennol? 

  • Roedd y cyflwyniadau'n werthfawr iawn a da oedd clywed am y gwahanol ddulliau/strategaethau
  • Sesiwn wych
  • Diddorol edrych ar Anghydraddoldebau Iechyd yn eu cyd-destun

Budd o fynychu 

Bydd y gweithdy’n ymdrin ag egwyddorion ac arferion cyflawni tegwch iechyd, gan ddefnyddio enghreifftiau byd go iawn o Gymru a phedwar ban byd. Rhoddir arweiniad ymarferol i’r cyfranogwyr ynglŷn â sut i gymhwyso’r wybodaeth hon yn eu gwaith eu hunain. Bydd y gweithdai’n cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd o’r Brifysgol a’r bwrdd iechyd lleol, yn ogystal ag o sefydliadau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Tiwtor

Tracey O’Neill

Tracey O'Neill

Mae gan Tracey O'Neill gefndir mewn atal ac ymchwil iechyd y cyhoedd a ddechreuwyd gan ei MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Bangor yn 2006. Mae diddordebau ymchwil Tracey ym maes anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, ac mae Tracey yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd. Ar ôl sawl blwyddyn o weithio fel ymchwilydd ar lawer o wahanol brojectau iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia, dechreuodd Tracey weithio fel darlithydd ar ôl cwblhau ei Thystysgrif Addysg Uwch i Raddedigion (PGCertHE) yn 2013. Daeth yn Gymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch yn 2015.

 

 

 

 

Dull Cofrestru 

Cyswllt: ahepw@bangor.ac.uk 

Lleoliad: ar-lein (Zoom)

Archebwch nawr/cofrestrwch: https://gck.fm/lzpun

A qr code on a white background

Description automatically generated