Adroddiad newydd ar sut y gall byw mewn cartref oer effeithio ar ein hiechyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor wedi cyhoeddi adroddiad ar bwysigrwydd cynhesrwydd tai i’n hiechyd a’n llesiant.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod byw mewn cartref oerach (ar dymheredd is na 18°C) yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys set o argymhellion ar y drefn wresogi foddhaol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn argymell, er mwyn diogelu iechyd, y dylem gynhesu ein cartrefi (neu o leiaf ardaloedd byw a ddefnyddir yn gyffredin), i dymheredd cyfforddus nad yw’n is na 18°C. Gallai fod angen i gartrefi â phreswylwyr hŷn neu’r rhai â chyflyrau iechyd neu anableddau wresogi eu cartrefi i dymheredd uwch na 18°C.
Mae’r argymhellion yn seiliedig ar waith ar y cyd a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae’n cynnwys adolygiad o’r dystiolaeth ar gartrefi oer ac arolwg cartrefi gyda dros ddwy fil o drigolion Cymru yn archwilio cynhesrwydd tai yn ystod y gaeaf.
Roedd gan wyth o bob deg o gyfranogwyr yr arolwg (79%) thermostat ystafell weithio neu reolydd tymheredd digidol yn eu cartref. O’r rhai a nododd dymheredd thermostat ystafell, dywedodd un o bob deg (10.7%) fod eu thermostat wedi’i osod ar dymheredd islaw 18°C, sy’n arwydd o gartref oerach. Roedd y rhai a oedd yn rhentu eu cartrefi'n breifat ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn byw mewn cartref oerach na pherchnogion tai. Roedd unigolion a oedd yn byw mewn cartrefi oerach dros ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gyndyn o wahodd gwesteion i'w cartref oherwydd anawsterau i'w gadw'n gynnes na'r rhai a oedd yn byw mewn cartrefi cynhesach.
Ymhlith y grwpiau a oedd yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn lleihau maint eu prydau bwyd neu’n hepgor prydau bwyd oherwydd cost gwresogi’r cartref, roedd: aelwydydd â phreswylydd anabl neu incwm isel, ac unigolion â chyflyrau iechyd, a oedd yn iau, yn byw ar eu pen eu hunain neu gydag o leiaf un plentyn, a'r rhai nad oedd yn berchen ar eu cartref.
Dywedodd naw o bob deg (89%) eu bod yn teimlo cysur thermol (teimlo’n gyfforddus o gynnes) yn eu prif fan byw. O'r rhai a nododd anghysur thermol, dywedodd dros saith o bob deg (71%) fod hyn oherwydd ei fod yn costio gormod i gadw'r gwres ymlaen.
Mae canfyddiadau'r adroddiad yn bwysig oherwydd eu bod yn dangos effaith costau gwresogi ar allu pobl i wresogi eu cartrefi'n ddigonol yn ystod y gaeaf.
Dywedodd Dr Rebecca Hill, Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae ein hargymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth helaeth y gall tymheredd cartrefi o dan 18°C fod yn niweidiol i iechyd a llesiant. Rydym yn cydnabod bod pobl sy’n hŷn neu sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau mewn perygl arbennig o gael canlyniadau iechyd a llesiant negyddol mewn cartrefi oer. Fodd bynnag, dylid cydnabod y bregusrwydd ehangach i gartrefi oer; er enghraifft, roedd aelwydydd incwm isel a'r rhai nad oeddent yn berchen ar eu cartref mewn mwy o berygl o adrodd am y canlyniadau negyddol a fesurwyd.
O’r herwydd, dylid diweddaru canllawiau gwresogi cartrefi dros amser wrth inni ddysgu mwy am sut a pha bobl sy’n agored i gartrefi oer a sut, drwy ddefnyddio’r wybodaeth bwysig hon, y gallwn geisio mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau iechyd sy’n deillio o hynny.”
Dywedodd Dr Kat Ford, Prifysgol Bangor, “Cynhaliwyd ein harolwg cartrefi ar adeg pan oedd costau ynni a hanfodion eraill y cartref yn dechrau cynyddu, ond cyn yr uchafbwynt mewn biliau ynni. Mae’n debygol y gallai mwy o bobl yng Nghymru y gaeaf hwn
ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi yn ddigonol. Felly, mae’n bwysig bod aelodau’r cyhoedd yn gallu cyrchu gwybodaeth a chyngor ar gadw’n iach ac yn ddiogel gartref yn y gaeaf.”