Dylid rhoi mwy o lais i nyrsys wrth weithredu gofal yn y gymuned, medd ymchwilwyr
Dylai nyrsys gael mwy o lais o ran gweithredu gofal yn y gymuned, yn ôl ymchwilwyr.
Mae ymchwil sydd newydd ei chyhoeddi dan arweiniad Gemma Prebble, sy’n Ddarlithydd Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor, yn archwilio rôl nyrsio wrth ddefnyddio modelau gofal integredig cydweithredol yn y maes pwysig hwn.
Mae'r rhain yn ddulliau o ddarparu gofal iechyd sy'n cynnwys gweithio mewn tîm neu ochr yn ochr â darparwyr eraill gyda lefel uchel o gydweithredu a chyfathrebu rhyngddynt. Gall hyn gynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau y tu allan i'r sector gofal iechyd, megis darparwyr tai a chyflogwyr.
Mae hyn wedi arwain at dwf o ran diddordeb mewn datblygu modelau gofal integredig sy'n cefnogi gweithio arloesol ar draws ffiniau confensiynol.
Mae'r ymchwil yn amlinellu'r heriau a brofir gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal wrth ddiwallu anghenion cymunedau.
Mae’r cyn gynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, a aeth ymlaen i fod yn Nyrs Staff Cymunedol ar ôl graddio, yn gydawdur yr adolygiad rhychwantu ynghyd â’i Goruchwyliwr Doethurol, Dr David Evans.
Er eu bod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dulliau cydweithredol newydd sy’n hyrwyddo darpariaeth gwasanaeth cyfannol, sy’n darparu cefnogaeth sy’n edrych ar y person cyfan, nid ei anghenion iechyd yn unig, dangosodd yr ymchwilwyr “prinder tystiolaeth” gan roi llais i brofiad nyrsys ac arweinyddiaeth nyrsys wrth weithredu modelau arloesol dan arweiniad nyrsys.
Aethant ati i fabwysiadu dull systemau i archwilio dynameg gymhleth gofal integredig, gan gymhwyso modelau cysyniadol presennol mewn ffordd arloesol i arwain yr archwiliad o’r berthynas rhwng cydrannau craidd. Yn yr ymchwil, defnyddiwyd dadansoddiad thematig i nodi a chyflwyno patrymau neu themâu cyson yn y data.
Amlygodd hyn gymhlethdod rôl nyrsio yng nghyd-destun gweithredu gwaith integredig, a nododd heriau a chyfleoedd i nyrsys wrth roi ffyrdd newydd o weithio ar waith.
Dywedodd Gemma Prebble, sy’n ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol mewn Gwyddor Gweithredu yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, “Nid oes gan nyrsys gynrychiolaeth ddigonol yn y maes ymchwil hwn. Mae hyn yn bryder oherwydd nhw yw'r unigolion sydd ar y rheng flaen, yn darparu gofal yn y gymuned, ac mae hyn yn golygu nad yw'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu’n cael eu clywed ychwaith.
“Mae’n amlwg y dylid rhoi llawer mwy o lais i nyrsys ac arweinyddiaeth nyrsys o ran archwilio a datblygu’r modelau a ddefnyddir wrth weithredu gofal yn y gymuned. Er mwyn gweithredu gofal yn y gymuned yn effeithiol, mae angen cydweithrediad rhwng llu o bobl a sefydliadau mewn systemau cymhleth iawn.
“Yn anffodus, mae sefyllfaoedd y codi’n rhy aml o lawer lle nad yw'r llaw chwith yn gwybod beth mae'r llaw dde’n ei wneud oherwydd nad yw'r bobl a'r sefydliadau sy'n ymwneud â gofal yn cyfathrebu â'i gilydd cystal ag y gallent fod. Mae nyrsys yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gofal yn ymarferol, ac mae’n iawn iddynt hefyd chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu’r modelau sy’n sail iddo.”
Ychwanegodd, “Datblygais gariad at ymchwil ac angerdd dros Nyrsio Ardal wrth astudio gradd israddedig mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae fy sylfaen fel nyrs staff cymunedol mewn cymuned wledig wedi llywio fy ngyrfa ym maes gofal iechyd ac, ynghyd â diddordeb mewn arloesedd a datblygu gwasanaethau, wedi fy rhoi ar ben ffordd o ran fy ngyrfa academaidd.
“Wrth ddychwelyd i'r byd academaidd, mae Prifysgol Bangor wedi fy nghefnogi i archwilio'r angerdd hwn ymhellach, gan fy annog i ddechrau astudio am Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Gwyddor Gweithredu ochr yn ochr â'm rôl fel darlithydd nyrsio.
“Mae’r rhwydwaith o gydweithwyr yr wyf wedi dod o hyd iddynt yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi rhoi arweiniad amhrisiadwy i mi fel academydd ar ddechrau fy ngyrfa, gan fy helpu i gyflawni dyhead, sef fy nghyhoeddiad ymchwil cyntaf, sef adolygiad rhychwantu sy’n archwilio modelau arloesol o weithio ym maes nyrsio ardal a chymunedol.
“Mae heriau cymhleth darparu gwasanaethau iechyd a gofal effeithiol wedi arwain at fwy o ddiddordeb mewn deall datblygiad a gweithrediad gwasanaethau gofal integredig. Mae’n ymddangos bod integreiddio gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, ac iechyd a gofal cymdeithasol, yn arbennig o bwysig wrth fynd i’r afael ag anghenion iechyd o fewn cymunedau.”
Gellir darllen y papur Exploring the role of nursing in implementation of collaborative integrated models of care in the community: a scoping review, a gyhoeddwyd gan y Journal of Integrated Care, yma: https://doi.org/10.1108/JICA-07-2024-0035