Mae'r project yn canolbwyntio ar wella’r ffordd y mae ymchwilwyr yn uno ymchwil ansoddol bresennol ar iechyd a gofal cymdeithasol, a’r ffordd y maent yn adrodd ar yr ymchwil honno— megis astudiaethau sy'n cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws — sy'n darparu mewnwelediad hanfodol i brofiadau, ymddygiadau a chanfyddiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal iechyd.
Yn ganolog i'r ymdrech hon mae grŵp o ddulliau a elwir yn synthesisau tystiolaeth ansoddol (QES), sy'n cyfuno canfyddiadau o astudiaethau ansoddol lluosog. Bydd yr astudiaeth hon yn arbennig o werthfawr i sefydliadau megis y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a Sefydliad Iechyd y Byd, gan helpu i lunio canllawiau iechyd byd-eang.
Ariennir y project PRISMA QES gan raglen ‘Better Methods, Better Research’ y Cyngor Ymchwil Meddygol. Mae’n dwyn ynghyd academyddion blaenllaw o Brifysgol Bangor, Prifysgol Stirling, a Phrifysgol Sheffield, gan weithio’n agos â thîm o arbenigwyr rhyngwladol.
Eglurodd yr Athro Jane Noyes, sy’n Athro Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor:
“Rydym yn falch bod Prifysgol Bangor yn arwain ar yr ymchwil hon i ddatblygu sut mae tystiolaeth ymchwil yn cael ei hadrodd yn ogystal ag ansawdd adroddiadau QES. Mae sefydliadau megis Cochrane and Campbell, sy'n cyhoeddi'r adroddiadau hyn, yn edrych ymlaen yn eiddgar at y canllawiau newydd.
“Mae adroddiadau synthesisau tystiolaeth ansoddol o ansawdd gwael yn her sylweddol i’r GIG. Mae'n ei gwneud yn anodd i gleifion, rheolwyr y GIG, a datblygwyr canllawiau gofal iechyd ymddiried yn y canfyddiadau a'u defnyddio'n effeithiol i ysgogi gwelliannau mewn polisi, penderfyniadau a gofal cleifion. Bydd yr ymchwil hon yn help mawr wrth wella ymhellach ansawdd y dystiolaeth yn llyfrgelloedd sefydliadau, gan gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau gofal iechyd byd-eang.”
Ychwanegodd cyd-arweinydd y project, yr Athro Emma France o Brifysgol Stirling:
“Bydd y project PRISMA QES yn datblygu canllaw i helpu ymchwilwyr i gynnal synthesisau tystiolaeth ansoddol o ansawdd uchel, ac adrodd ar eu canfyddiadau i safon uwch. Bydd hyn yn ei galluogi i fanteisio ar wybodaeth gyfoethog ac ansoddol i wella prosesau gwneud penderfyniadau, yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion a’r cyhoedd.
Pwysleisiodd Sarah Peddle, sef arweinydd cyfranogiad y cyhoedd y project, pa mor bwysig yw’r project hwn i gleifion a’r cyhoedd:
“Mae’n hanfodol cynnwys llais cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal effeithiol, ac mae’r ethos o gynnwys pobl mewn unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanynt yn agwedd sylfaenol ar y project hwn. Mae cynnwys y cyhoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fy llais unigol i, gyda grŵp o ymgynghorwyr cyhoeddus yn rhoi mewnbwn drwy gyfarfodydd ac yn adolygu gwybodaeth neu allbynnau drwy gydol y broses. Bydd grŵp ehangach o gyfranwyr cyhoeddus hefyd yn ymuno ag arbenigwyr eraill i ddod i gytundeb ar gynnwys y canllaw.”
Mae'r project hefyd yn cynnwys cydweithio â Grŵp Gweithredol PRISMA, sy'n enwog am ddatblygu canllawiau ar adrodd a ddefnyddir yn fyd-eang, yn ogystal â hyrwyddo dulliau synthesis tystiolaeth ansoddol. Mae aelodau allweddol hefyd yn cynnwys methodolegwyr arbenigol megis yr Athro Angela Harden o City University of London, yr Athro James Thomas o UCL, a'r Athro Andrew Booth o Brifysgol Sheffield.
Teitl llawn y project yw ‘PRISMA Reporting Guideline and Standards for Qualitative Evidence Synthesis.’
Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen we’r project, cliciwch ar y ddolen.