Mae’n bleser mawr bod fy ymchwil yn parhau i gael ei ddyfynnu’n aml, ac yn parhau i fod yn hynod ddylanwadol. Mae'n gydnabyddiaeth wych o'r gwasanaethau iechyd cymhwysol a'r ymchwil nyrsio yr ydym yn ei wneud yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Rwy’n ddiolchgar iawn i Brifysgol Bangor a’r Ysgol Gwyddorau Iechyd am eu cefnogaeth barhaus i’m hymchwil, ac i’m tîm am gyflawni projectau ymchwil o ansawdd mor uchel.”
Mae’n fraint cael fy nghynnwys eleni yn rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf. Rydym yn cael budd o weithio o fewn amgylchedd prifysgol sy’n cefnogi ac annog ymchwil a chydweithio o fewn gwlad fechan ond blaengar iawn. Mae cael fy nghynnwys ar y rhestr yn dangos sut mae ein hymchwil cydweithredol yn dylanwadu ar wybodaeth yn fyd-eang, yn ogystal â dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws Cymru.
“Mae ymddangos ar restr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf yn adlewyrchu ymroddiad y technegwyr, myfyrwyr PhD ac ôl-ddoethurol, yn ogystal â fy nghydweithwyr academaidd sydd wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu ystod eang o allbynnau ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael effaith ystyrlon. Mae’r wobr hon i raddau helaeth yn bluen yn het y tîm. Cyflawni ISI Mynegai-H o dros 100 yw uchafbwynt y flwyddyn.”
Rwy’n falch iawn o gael fy nghynnwys ar restr Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf eleni. Mae’r ymchwil yr wyf yn ei gyhoeddi’n gofyn am arbenigedd unigolion o wahanol brifysgolion, o ymarferwyr yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, i arweinwyr mewn sefydliadau rhyngwladol megis Sefydliad Iechyd y Byd. Rwy’n hynod ddiolchgar am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth barhaus. Mae cyrraedd y rhestr o ymchwilwyr y dyfynnir eu gwaith amlaf yn ein hatgoffa bod ein gwaith yn rhan o rwydwaith ymchwil rhyngwladol, sydd â’r nod o wella iechyd a llesiant trwy fynd ar drywydd tystiolaeth, polisi ac ymarfer, a’i rhoi ar waith. Rwyf wrth fy modd bod ein cyhoeddiadau’n parhau i gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang hon.
Portreadau
Yr Athro Jane Noyes
Fel Nyrs Gofrestredig a Nyrs Plant Gofrestredig, mae’r Athro Jane Noyes yn un o nifer fechan iawn o nyrsys ym Mhrydain sydd wedi’u derbyn yn Gymrawd Academi Nyrsio America. Mae Jane wedi datblygu enw da yn fyd eang mewn ymchwil gofal plant a gwasanaethau gofal. Mae'n fwyaf adnabyddus fel arweinydd hir sefydlog grŵp Cochrane o fethodolegwyr o fri rhyngwladol sydd wedi gwneud gwaith arloesol i ddatblygu ac egluro'r dulliau o syntheseiddio tystiolaeth ansoddol a dulliau cymysg i lywio'r broses o wneud penderfyniadau clinigol. Mae grŵp Cochrane yn arweinydd byd-eang ar gynhyrchu adolygiadau o dystiolaeth ddibynadwy gan ddefnyddio dulliau trylwyr i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn aml mae sefydliadau byd-eang megis Sefydliad Iechyd y Byd a gwahanol asiantaethau Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn galw ar Jane i gynghori ar ddulliau synthesis tystiolaeth a'u cymhwyso yn y broses o wneud penderfyniadau.
Yr Athro Karen Hughes
Mae’r Athro Karen Hughes yn Rheolwr Datblygu Ymchwil a Chapasiti (Projectau Arbennig) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Hi sy’n arwain yr Uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor, sef uned ymchwil cymhwysol rhwng y Brifysgol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Karen bortffolio ymchwil eang a diddordeb penodol mewn atal trais, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, defnydd o alcohol ac iechyd bywyd y nos. Mae ei gwaith yn cynnwys rhoi astudiaethau poblogaeth cenedlaethol ar waith, gwneud astudiaethau ymchwil gwreiddiol ac adolygiadau llenyddiaeth systemaidd a gwerthuso ymyraethau. Mae Karen yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi’u rhaglen atal ac ymateb i drais ac mae wedi cyhoeddi ystod eang bapurau academaidd ac adroddiadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n cyfrannu at ddatblygiad polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus.
Yr Athro Davey Jones
Mae ymchwil Yr Athro Davey Jones yn canolbwyntio ar gydbwyso gwasanaethau ecosystemau ac amddiffyn iechyd dynol. I'r perwyl hwn, mae'n cydweithio â diwydiannau megis Verily Life Sciences i ddarparu datrysiadau newydd i broblemau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus. Datblygodd y rhaglen wyliadwriaeth genedlaethol seiliedig ar ddŵr gwastraff ar gyfer COVID-19, a gafodd ei haddasu a'i chyflwyno i ystod eang o bathogenau dynol eraill mewn lleoliad cymunedol ac amgylcheddol. Yn ddiweddar, aeth y tîm ati i ymgymryd â’r asesiad cenedlaethol cyntaf o ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn afonydd. Mewn cyd-destun amaethyddol, mae'r tîm yn edrych ar ffyrdd newydd o wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr a datblygu systemau amaethyddol mwy cynaliadwy ac effaith plastigion yn yr amgylchedd.
Yr Athro Mark Bellis
Mae Mark Bellis yn Athro Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr Ymchwil Iechyd ac Arloesiym Mhrifysgol Liverpool John Moores lle mae hefyd yn arwain Sefydliad Iechyd y Cyhoedd. Mae’n gwneud gwaith ymchwil a datblygu ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol, mewn meysydd sy’n cynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, alcohol, cyffuriau, iechyd rhywiol, a phenderfynyddion masnachol iechyd. Ers dros ddegawd, ef fu Pwynt Ffocws y Deyrnas Unedig (UK Focal Point) ar drais ac atal anafiadau. Mae ei waith yn cwmpasu astudiaethau ymchwil gwreiddiol, adolygiadau systemaidd, economeg iechyd a gweithrediad polisi. Mae Mark yn ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus cofrestredig ar gyfer y GIG yng Nghymru ac fe dderbyniodd OBE am ei wasanaethau i ofal iechyd yn 2009. Ef sy’n cadeirio y Ganolfan Cydweithredu er Atal Trais. Mae Mark wedi cyhoeddi dros 250 o bapurau academaidd a mwy na 300 o adroddiadau a llyfrau iechyd cyhoeddus cymhwysol.
Clarivate Reveals World’s Influential Researchers in Highly Cited Researchers 2024 List