Swydd bresennol
Wedi ymddeol.
Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2000.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Cyfle da i ddefnyddio fy set o sgiliau a phrofiadau mewn amgylchedd a oedd er lles y cyhoedd yn gyffredinol - roedd yn teimlo’n addas imi. Caniataodd hefyd imi ymgymryd â rôl lefel uchel broffesiynol yn agos i gartref - tydi hynny ddim yn hawdd yn Nyfnaint.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud
Hyd at fis Mehefin 2023, roeddwn yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yng ngwasanaeth archwilio mewnol y Gwasanaeth Iechyd yn Nyfnaint, Cernyw a Bryste. Datblygu a chynghori ynghylch llywodraethu effeithiol o ran y bwrdd a’r corfforaethol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Amrywiaeth y gwaith, yr ethos a’r gwerthoedd sydd ynglŷn â gweithio ac arwain mewn gwasanaeth proffesiynol mewn amgylchedd pwysig a allai wella bywydau. Y tîm o bobl o'r un anian a wnaeth wahaniaeth enfawr - teimlo ei fod yn gwneud rhywbeth gyda'r sgiliau sydd gennym a wnaeth wahaniaeth. Y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a’r pleser o weithio a theithio o gwmpas rhan brydferth o’r byd.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Gall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod yn amgylchedd gwych i ddilyn gyrfa. Er bod beirniadu dyddiol ar y cyfryngau ac nad yw’n cael ei ariannu’n ddigonol, mae'n llawn o bobl o'r un anian ar bob lefel sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ac sy'n dîm gwych. Cefais yrfa wych ac roeddwn yn falch o weithio yn y gwasanaeth iechyd, a byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o bobl yn fy maes gwaith i’n ei ystyried.
Sut byddech chi’n disgrifio’r Gwasanaeth Iechyd mewn gair?
Amhosib ei grynhoi mewn un gair - efallai annwyl ond heb ei werthfawrogi.