Mae'r astudiaeth gan sawl awdur yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o'r heriau sydd i’r amgylchedd ac i iechyd sy'n gysylltiedig â gweithgareddau mwyngloddio metelau.
Defnyddiwyd cronfa ddata geogyfeiriol fyd-eang newydd o 185,000 o fwyngloddiau metel a luniwyd gan y tîm gyda chyfuniad o fodelu ar sail prosesau a phrofion empirig. Asesodd yr ymchwil halogiad mwyngloddiau metel yn fyd-eang mewn systemau afonydd a’r ôl-effeithiau i boblogaethau dynol a da byw.
Modelodd yr astudiaeth halogiad o bob safle mwyngloddio metel gweithredol ac anweithredol hysbys, gan gynnwys cyfleusterau storio sorod - a ddefnyddir i storio gwastraff mwyngloddio - a bu’n bwrw golwg ar halogion a allai fod yn niweidiol fel plwm, sinc, copr ac arsenig, sy'n cael eu cludo i waered afon o fwyngloddiau, ac yn aml yn cael eu dyddodi ar hyd sianeli afonydd a gorlifdiroedd am gyfnodau estynedig.
Rydym yn cloddio am fetelau ers miloedd o flynyddoedd a gadawodd y gweithgareddau hynny lygredd helaeth, yn enwedig yng ngwaddodion y gorlifdiroedd. Yn wir, gallwn weld enghreifftiau o’r etifeddiaeth honno ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd Cymru.
Mae’r astudiaeth yn mesur maint yr etifeddiaeth honno’n fyd-eang am y tro cyntaf, gan gynnwys nifer y bobl sy’n byw mewn ardaloedd a gafodd eu llygru gan waith y mwyngloddiau metel. Mae hefyd yn ffordd bwysig o atgoffa rhywun o'r risgiau a achosir gan weithgareddau mwyngloddio os cânt eu rheoli’n wael. Mae hynny’n berthnasol iawn o ystyried bod angen adnoddau metel penodol ar gyfer dulliau technolegol o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, megis ynni adnewyddadwy a thechnoleg cerbydau trydan, a bydd angen cloddio amdanynt. Mae angen inni wneud hynny mor gynaliadwy â phosibl fel na fyddwn yn ychwanegu dim at y llygredd yn yr amgylchedd.
Asesu effeithiau’r mwyngloddiau ar ecosystem ac iechyd dynol
Dywedodd yr Athro Mark Macklin, o Brifysgol Lincoln, a fu’n arwain y tîm amlddisgyblaethol, rhyngwladol sydd y tu ôl i'r ymchwil,
“Mae ein dull newydd o ragfynegi gwasgariad gwastraff mwyngloddiau mewn systemau afonydd ledled y byd yn cynnig dull i lywodraethau, rheoleiddwyr yr amgylchedd, y diwydiant mwyngloddio a chymunedau a fydd, am y tro cyntaf, yn eu galluogi i asesu effeithiau’r mwyngloddiau oddi ar y safle ac i waered afon ar ecosystem ac iechyd dynol.”
“Rydym yn disgwyl y bydd hynny’n ei gwneud hi’n haws i liniaru effeithiau amgylcheddol y mwyngloddio hanesyddol a chyfredol ac, yn bwysicaf oll, bydd yn helpu lleihau effeithiau datblygiadau mwyngloddio at y dyfodol ar gymunedau, yn ogystal ag amddiffyn diogelwch bwyd a dŵr.”
Rhyddhawyd y canlyniadau newydd i gefndir o alw cynyddol am fetelau a mwynau i ddiwallu gofynion y trawsnewid at ynni gwyrdd, ac maent yn amlygu dosbarthiad eang y llygredd, sy’n effeithio ar oddeutu 479,200 cilomedr o sianeli afonydd ac sy’n cwmpasu 164,000 cilomedr sgwâr o orlifdiroedd yn fyd-eang.
Yn ôl y canfyddiadau, mae tua 23.48 miliwn o bobl yn byw ar y gorlifdiroedd hynny a 5.72 miliwn o dda byw. Maent yn cwmpasu dros 65,000 cilomedr sgwâr o dir dyfredig. Oherwydd nad oes data ar gael ar gyfer sawl gwlad, mae tîm yr astudiaeth yn credu mai amcangyfrif ceidwadol yw’r niferoedd hyn.
Gall pobl ddod i gysylltiad â metelau halogedig mewn amrywiol ffyrdd gan gynnwys cyswllt uniongyrchol â’r croen, eu llyncu’n ddamweiniol, anadlu llwch halogedig, a thrwy yfed dŵr halogedig a bwyd a sy’n cael ei dyfu mewn priddoedd halogedig.
Mae hynny’n achosi perygl ychwanegol i iechyd cymunedau trefol a gwledig mewn gwledydd a chymunedau isel eu hincwm sy'n dibynnu ar yr afonydd a'r gorlifdiroedd hynny, yn enwedig mewn ardaloedd sydd eisoes yn llawn afiechydon sy'n gysylltiedig â dŵr. Mewn gwledydd diwydiannol yng Ngorllewin Ewrop, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, a’r Unol Daleithiau, mae’r halogi’n gyfyngiad mawr a chynyddol ar ddiogelwch dŵr a bwyd, mae’n peryglu gwasanaethau hanfodol yr ecosystemau, ac mae’n cyfrannu at ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr amgylchedd.
“Mae’n hanfodol sicrhau twf buan mewn mwyngloddio metelau’n fyd-eang os yw’r byd am symud ymlaen at ynni gwyrdd.”, meddai’r Athro Chris Thomas a arweiniodd y gwaith dadansoddi a modelu, “Mae llawer o’r halogi byd-eang tybiedig y buom yn ei fapio yn waddod yn sgil y cyfnod diwydiannol – ac yn gwbl briodol, mae anogaeth i fwyngloddio cyfoes er mwyn rhoi blaenoriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol.”
Mae’r astudiaeth lawn – Effeithiau mwyngloddiau metel ar systemau afonydd: asesiad byd-eang – i’w gweld yma: www.science.org/doi/10.1126/science.adg6704