Rhoddodd y naturiaethwr a’r fforiwr sgwrs am gadwraeth bywyd gwyllt yn y brifysgol ar ôl perfformio yn ei sioe theatr, Ocean, a oedd dan ei sang yn Venue Cymru yn Llandudno.
Mae’r seren deledu a enillodd wobr BAFTA a’r awdur mawr ei werthiant, a wnaeth raglenni fel Deadly 60 ac Expedition, yn ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, a dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddo gan y brifysgol yn gynharach eleni.
Wrth siarad â myfyrwyr yn y digwyddiad dywedodd Steve,
Mi wnaethoch chi benderfyniad gorau'ch bywydau’n dod i Brifysgol Bangor, ac rydw i eisiau i bawb ohonoch wneud yn fawr o hynny, ei drysori, a’i ddefnyddio cystal ag y gallwch.
“Ar garreg eich drws mae yna ryfeddodau naturiol nad oes gan bron neb arall yn y wlad yn y brifysgol. Felly cofiwch fanteisio arnynt i’w llawn botensial.
Dywedodd Dr Christian Dunn, a fu’n siarad â’r cyflwynydd BBC ar y llwyfan fel rhan o’i ddarlith ym Mangor,
“Tyfodd llawer o’n myfyrwyr i fyny yn gwylio Steve ar y teledu a fo a’u hysbrydolodd i astudio’r gwyddorau naturiol – mae’n wych gweld faint mae’n ei olygu iddyn nhw cael cyfarfod ag o.
“Roedd yn fraint wirioneddol sgwrsio â fo ar y llwyfan ac yntau mor wybodus a phrofiadol yn y maes - mae hefyd yn ddyn gwirioneddol wych a synnwyr digrifwch gwych ganddo!”
Roedd y sgwrs eang gan Steve yn ymdrin â phopeth gan gynnwys gwleidyddiaeth a photsio, datgoedwigo a chadwraeth siarcod.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:,
“Mae bob amser yn bleser croesawu Steve Backshall i Fangor – mae’n naturiaethwr mor wybodus ac yn anturiaethwr profiadol.
“Rydym yn ffodus iawn bod Steve yn un o’n darlithwyr er anrhydedd, er nad yw’n syndod ei fod mor hoff o Brifysgol Bangor o ystyried yr enw da sydd gennym am addysgu ac ymchwil i’r gwyddorau naturiol.”
Os hoffech weld clipiau o sgwrs Steve Backshall dilynwch Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor ar y cyfryngau cymdeithasol.