Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn rhan o brosiect ailgylchu COtooCLEAN sydd wedi ennill gwobr $3miliwn yr Alliance Prize
Cyhoeddwyd mai COtooCLEAN - prosiect aml-gyfranogwr arloesol gan Nextek Limited - yw enillydd yr Alliance Prize sy'n ceisio sicrhau newid trwy annog atebion trawsnewidiol i fynd i'r afael â'r her o wastraff plastig.
Wedi'i gyflwyno'n fyw i berchnogion brandiau a buddsoddwyr byd-eang, roedd y digwyddiad yn benllanw misoedd o adolygu gan banel o feirniaid a lwyddodd i ddod â thua 600 o geisiadau i lawr i 60 o gyflwyniadau cwbl gymwys ac yna i lawr i bump yn y rownd derfynol.
Yn dilyn cyflwyniad terfynol gan y pum tîm a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng Nghyfnewidfa Stoc Efrog Newydd, dyfarnwyd y wobr fawreddog o $3miliwn i’r Athro Edward Kosior, sylfaenydd Nextek, er mwyn cyflymu proses arloesol COtooCLEAN i ddadheintio ffilmiau plastig wedi eu defnyddio gan gwsmeriaid yn ôl i ansawdd sy’n addas i fwyd.
Bydd Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor yn defnyddio ei harbenigedd i gynnal asesiad cylch bywyd, yn archwilio sut i gael y prosesau gorau a gweithio ar raddfa, gan ddefnyddio cyfarpar CO2 graddfa labordy a chyfleusterau allwthio plastig ar raddfa beilot.
Mae Suprex Ltd o Ogledd Cymru, cwmni sy’n deillio o Brifysgol Bangor sy'n arbenigo mewn datblygu cymwysiadau o CO2 uwchfeirniadol (scCO2) hefyd yn un o bartneriaid y prosiect. Gan ddefnyddio CO2 fel toddydd gwyrdd, mae'r cwmni'n gallu echdynnu cemegau mân o ystod o borthiant. Bydd Suprex yn rhedeg yr offer scCO2 graddfa beilot, ac yn cymryd yr awenau wrth ddylunio ac adeiladu’r offer newydd a fydd yn cynorthwyo’r treialon ar raddfa fawr o’r ffilmiau sydd eisoes wedi eu defnyddio gan gwsmeriaid.
Nod COtooCLEAN yw llenwi'r bwlch yn y ffrwd ailgylchu lle mae ffilmiau polyolefin wedi eu defnyddio gan gwsmeriaid sy'n ddiogel o ran bwyd ar goll ar hyn o bryd. Gellir integreiddio eu proses fasnachol unigryw i weithrediadau ailgylchu mecanyddol, a gallant drin ffilmiau printiedig ac aml-haen i'w gwneud yn llawer haws i'w hailgylchu.
Wrth ennill yr Alliance Prize, dywedodd yr Athro Kosior, “Mae gennym nawr y potensial i wneud cyfraniad mawr i gylchreded ffilmiau mewn cyd-destun byd-eang.”
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn rhan o brosiect arloesol COtooCLEAN, sydd â’r nod o greu datrysiad i un o broblemau enbyd y byd: gwastraff plastig. Drwy ddefnyddio arbenigedd ein hymchwilwyr gwyddor deunydd yn y Ganolfan Biogyfansoddion a gweithio mewn partneriaeth â’n partner diwydiant Suprex Ltd, gallwn gymhwyso ein gwybodaeth i helpu i gynyddu cyfradd ailgylchu plastig. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda holl bartneriaid Nextek ar y prosiect hwn sy’n symud pethau ymlaen.
Ychwanegodd Andrew Beggin, Rheolwr Gyfarwyddwr Suprex, “Rydym wrth ein bodd ac yn gyffrous iawn i fod yn rhan o brosiect sydd bellach wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am y cyfraniad y gall ei wneud i’r economi gylchol, yn enwedig mewn maes a ystyriwyd ynghynt fel un o’r rhai mwy anodd ei newid o ran ailgylchu plastig”.
Dywedodd Steve Sikra, AEPW VP Americas, Alliance to End Plastic Waste, "Mae'r broses COtooCLEAN yn cynnig ateb effeithiol ar gyfer y lefelau uchel o wastraff ffilm hyblyg sy’n parhau i dyfu o gwmpas y byd. Trwy alluogi ailgylchu mecanyddol blaengar i ffilm-i-ffilm gradd bwyd, bydd y broses yn gwella cylchreded ffilmiau hyblyg trwy ddargyfeirio gwastraff ffilm o safleoedd tirlenwi ac allfeydd gwerth llai.
“Mae’r addasiad cymharol syml i’r broses ailgylchu fecanyddol bresennol yn gwneud effaith bosibl COtooCLEAN hyd yn oed yn fwy oherwydd ei allu i’w fabwysiadu’n fyd-eang dros amser.”