Mae'r argyfwng hinsawdd a Degawd Adfer Ecosystemau y Cenhedloedd Unedig wedi creu cryn ddiddordeb yng ngwerth coedwigoedd eilaidd. Coedwigoedd yw’r rhain sydd wedi aildyfu'n naturiol ar dir amaethyddol segur.
Mae ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Bangor a Phrifysgol British Columbia wedi cynhyrchu tystiolaeth newydd o ba mor bwysig ydyn nhw i wrthweithio effeithiau darnio coedwigoedd ar draws basn yr Amason. Cyhoeddwyd yr ymchwil yn ddiweddar mewn papur yn y cyfnodolyn Environmental Research Letters. Mae’r papur yn allbwn i ymchwil PhD Charlotte Smith, sy’n rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Envision, y mae Prifysgol Bangor yn bartner ynddi.
Disgrifiodd cyd-awdur y papur, John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, sut “mai dim ond 190,000 km2 o'r Amason y mae coedwigoedd eilaidd yn eu gorchuddio ond eu bod yn cysylltu mwy na 2 filiwn o ddarnau ynysig o goedwigoedd hen dyfiant, sydd ymhlith cynefinoedd pwysicaf y byd ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth. Mae’r coedwigoedd eilaidd yn helpu i gynnal cysylltedd rhwng darnau o goedwigoedd hen dyfiant ond sy’n rhy fach i gynnal poblogaethau hyfyw hirdymor o rywogaethau prin.”
Dywedodd Charlotte Smith “mae coedwigoedd eilaidd yn darparu byffer i gymaint â 41% o ymylon coedwigoedd hen dyfiant, gan eu gwarchod o bosibl rhag effeithiau negyddol mewn amgylchiadau o’r fath megis tymereddau poethach a gwynt. Gall bod yn agos at goedwigoedd hen dyfiant hefyd helpu cyfraddau adferiad bioamrywiaeth ac adferiad biomas mewn coedwigoedd eilaidd. Mae'n gadarnhaol bod 94% o goedwigoedd eilaidd wedi'u cysylltu â choedwigoedd hen dyfiant. Fodd bynnag, mae llawer o goedwigoedd hen dyfiant yn fychan eu maint ac wedi diraddio, felly dim ond 57% o’r coedwigoedd eilaidd sydd wedi’u cysylltu ag ardal helaeth o hen dyfiant sy’n strwythurol gyflawn.”
Tynnodd yr Athro Healey sylw at bwysigrwydd yr ymchwil hwn,
“Mae’n darparu tystiolaeth newydd a phwerus o bwysigrwydd rheoli coedwigoedd ar raddfa’r dirwedd. Gall hyrwyddo adfer coedwigoedd trwy fod â choedwigoedd eilaidd wedi’u lleoli wrth ymyl olion coedwigoedd hen dyfiant chwarae rhan hanfodol wrth warchod bioamrywiaeth yn y coedwigoedd gweddilliol hyn a gwella cyfradd adferiad bioamrywiaeth yn y coedwigoedd eilaidd eu hunain.”
Yna esboniodd “mae tebygrwydd diddorol gyda chanfyddiadau ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor fel rhan o’r project “Climate Smart Woodlands” sy’n edrych i weld beth yw’r lleoliad gofodol gorau i goetiroedd newydd yng Nghymru, ar raddfa’r tirwedd”.
Coedwigoedd sy'n aildyfu'n naturiol yn helpu i amddiffyn yr hen goedwigoedd sy'n weddill yn yr Amason
Tystiolaeth newydd yn dangos pa mor bwysig ydy coedwigaeth eilaidd i wrthweithio effeithiau darnio coedwigoedd ar draws basn yr Amason.