Rhwng cloriau Frontiers in Communication, mae tîm amlddisgyblaethol o Fangor wedi ysgrifennu am sut y gallai negeseuon yn y cyfryngau fod wedi llywio dewisiadau pobl o ran gwisgo masgiau yn ystod y pandemig. Mae eu canfyddiadau’n seiliedig ar adolygiad ansoddol a meintiol o'r sylw a roddwyd i fasgiau yn y wasg ym Mhrydain ac Iwerddon rhwng mis Mawrth 2020 a mis Rhagfyr 2021.
Mae'r canlyniadau'n dangos sut yr oedd newyddiaduraeth bapur newydd yn ffafrio masgiau llawfeddygol untro gan fethu’n llwyr bron ag adrodd am eu heffaith ar yr amgylchedd ac am y diffygion o ran rheoli’r gwastraff a gynhyrchid. Mae'r papur yn trafod sut mae effaith amgylcheddol masgiau neu orchuddion wyneb untro yn un o effeithiau’r pandemig COVID-19 nad oes digon o ystyriaeth wedi cael ei rhoi iddi.
Nid dim ond beth sy’n cael ei adrodd sy’n cael effaith, ond y ffordd mae'n cael ei adrodd,” esboniodd yr awdur cyntaf, Dr Anaïs Augé.
“Fe wnaethon ni ddarganfod fod y gair 'masgiau' yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i olygu masgiau wyneb tafladwy, tra bod y cyfryngau'n defnyddio 'gorchuddion wyneb' i gyfeirio at fygydau cartref neu fasgiau a brynwyd mewn siop, ond a oedd wedi eu gwneud allan o ddefnydd. Roedden nhw hefyd yn defnyddio'r gair ‘masg’ yn bennaf wrth drafod y ffaith ei bod yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb, a'r term 'gorchudd wyneb' pan oedd elfen o ddewis. Gwnaethpwyd hynny er gwaethaf y ffaith fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio gair masgiau yn bennaf i gyfeirio at fasgiau a ddefnyddir gan weithwyr iechyd proffesiynol a gorchuddion wyneb fel term ar gyfer yr hyn y dylai pawb arall fod wedi bod yn ei wisgo i leihau lledaeniad COVID-19.”
Ychwanegodd y gwyddonydd deunyddiau Dr Morwenna Spear, “Er gwaethaf trafodaeth wyddonol am y diogelwch yr oedd gorchuddion wyneb y gellid eu hailddefnyddio yn eu darparu, a’r gwastraff a oedd eisoes yn gysylltiedig â masgiau untro yng nghamau cynnar y pandemig COVID-19, ychydig o hynny oedd yn cael ei gyfleu yn y papurau newydd.”
Wrth grynhoi dywedodd yr Athro Thora Tenbrink, “Gall y cynnydd mewn gwastraff fod yn gysylltiedig â’r sylw mawr a roddwyd i fasgiau llawfeddygol untro a’r diffyg sylw a roddwyd i bryderon amgylcheddol.
Rydym o'r farn bod ein gwaith yn taflu ychwaneg o amheuaeth ar rôl y papurau newydd wrth gyfleu'n effeithiol y wybodaeth yr oedd ar y cyhoedd ei hangen i’w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.”
Mae’r ymchwil yn gysylltiedig â phroject gwerth £426,513 a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau o’r enw Between environmental concerns and compliance: How does media messaging affect motivation and choice between disposable versus reusable facemasks?, dan arweiniad yr Athro Nathan Abrams.
Dyfarnwyd y cyllid i archwilio i'r ffactorau cymhleth sy'n sail i ddewisiadau defnyddwyr wrth ddewis masg a ph’un ai i wisgo masg neu beidio, gan gynnwys gwaredu’r masgiau mewn modd cyfrifol.
COVID-19: Methodd y cyfryngau ag amlygu effaith negyddol masgiau wyneb untro ar yr amgylchedd
Yn ôl ymchwil newydd, efallai bod y ffordd y cyfeiriwyd at fasau wyneb a'r adroddiadau fu amdanynt yn y cyfryngau print wedi annog mwy o bobl yn anfwriadol i ddefnyddio gorchuddion wyneb tafladwy yn hytrach na rhai wedi eu gwneud o ddefnydd.