Mae graddedigion o Brifysgol Bangor yn gwneud eu marc o amgylch y byd. Pe bai angen prawf, mae un, Susan Chomba, a oedd ymysg y cyntaf i sicrhau gradd Meistr mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy, newydd ei chynnwys ar restr 100 merch fwyaf dylanwadol y byd.
Hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr a gynhyrchir gan y BBC mae Michelle Obama, gwraig cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau; y gyfreithwraig hawliau dynol, Amal Clooney; y peldroediwr a enillodd y Ballon d’Or, Aitana Bonmatí; yr eicon ffeministaidd, Gloria Steinem; a seren Hollywood, America Ferrera.
Mae’r rhestr eleni hefyd yn tynnu sylw at ferched sydd wedi bod yn gweithio i gynorthwyo’u cymunedau i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gweithredu i ymdopi â’i effeithiau.
Dywed Susan Chomba, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Sefydliad Adnoddau’r Byd (World Resources Institute / WRI), fod y fagwraeth dlawd a gafodd yn sir Kirinyaga, yng nghanol Kenya, wedi’i symbylu i wella bywydau pobl eraill.
Ei phrif gonsyrn yw diogelu fforestydd, adfer tirwedd a thrawsnewid system fwyd Affrica.
O fforestydd trofannol basn y Congo hyd sychdir y Sahel yng Ngorllewin Affrica, ynghyd ag yn nwyrain y wlad, mae Susan Chomba yn treulio’i hamser yn gweithio efo tyddynwyr a ffermwyr mân-ddaliadau, yn arbennig merched a phobol ifanc, i’w cynorthwyo i gael y gorau o’u tir.
Rhanna Susan ei harbenigedd hefyd efo llywodraethau ac ymchwilwyr er mwyn adeiladu cymunedau gwydn yn wyneb newid hinsawdd sy’n dwysau.
Meddai, “mae’r diffyg gweithredu gan arweinwyr y byd, yn enwedig y prif allyrwyr, sydd hefyd efo’r pŵer economaidd i newid eu harferion ond sy’n cael eu dal yn ôl gan bres, pŵer a gwleidyddiaeth, yn cael effaith fawr arnaf. Er mwyn rheoli’r teimladau hyn, rwy’n prysuro fy hun efo gweithgareddau ymarferol, gan weithio efo merched a phobol ifanc ar draws Affrica ar warchod ac adfer natur, trawsnewid systemau bwyd a newid polisïau.”
Roedd staff academaidd Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor yn awyddus iawn i longyfarch Susan.
Meddai’r Athro Morag Mcdonald, Dirprwy Is-ganghellor dros dro a Phennaeth y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg:
“Mae Susan yn ysbrydoliaeth. Dim ond ychydig iawn o wyddonwyr hinsawdd y byd sy’n ferched, a llai fyth yn ferched sy’n hanu o Affrica, cyfandir yr effeithir yn fawr arno gan newid hinsawdd. Mae hi’n chwarae rôl hanfodol wrth rymuso merched ac yn rhoi llwyfan iddynt o fewn yr argyfwng hinsawdd."
“Roedd Susan ymysg ein myfyrwyr cyntaf i gael Gradd Meistr Ewropeaidd mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy gan ennill gradd ddeuol rhwng Prifysgolion Bangor a Copenhagen. Hi hefyd oedd y cyntaf i dderbyn gwobr Ysgoloriaeth Ôl-radd Coedwigaeth Peter Henry. Mae Peter yn un o'n noddwyr yr ysgoloriaeth ac mae Susan yn tystio i’r wobr fod yn hanfodol wrth gefnogi ei gwaith maes yn Nhanzania ar gyfer yr MSc, a ddechreuodd ei gyfra ymchwil.”
Dywed Susan hyn am ei hamser yn astudio ym Mangor,
Rwy'n cofio fy mywyd fel myfyriwr ym Mangor gyda hiraeth mawr a pharch at y gymuned addysgu a chwaraeodd ran ganolog wrth lunio fy llwybr gyrfa. Roedd y profiad y maent yn ei gynnig o wahanol rannau o'r byd yn gwneud i’r cynnwys addysgol taro deuddeg gyda nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol fel fi. Roedd y tirweddau a morlun hardd sy'n amgylchynu'r campws yn cyflwyno posibiliadau diddiwedd ar gyfer meddwl chwilfrydig. Roedd yr awyrgylch dysgu hamddenol yn galluogi myfyrwyr i greu cyfeillgarwch a chydweithrediadau sydd wedi para ac rwy'n trysori hyd yma.