Fy ngwlad:
Group of people behind a crop of potatoes with trees and mountains in the background

Mae llawer o ffermwyr yn chwilio am ffyrdd o gynhyrchu eu cnydau’n fwy cynaliadwy ond gall y gofynion penodol ar gyfer tyfu cnwd tatws ei gwneud hi’n her i ymgorffori tatws mewn cylchdro cynaliadwy. Gellir disgwyl i ganlyniadau'r project TRIP gynnig sawl ffordd i dyfwyr leihau'r hyn sydd ei angen i dyfu cnydau tatws, ynghyd ag effaith y tyfu hwnnw. Mae cydweithio rhwng partneriaid TRIP yn rhoi cyfle cyffrous i ddod â gwahanol feysydd datblygu ynghyd ac i dyfwyr tatws roi gwyddoniaeth ar waith.
Dr Christine Jones,  Dyson Farming

 

Mae angen brys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr pob sector, gan gynnwys amaethyddiaeth. Bydd y project Innovate UK hwn yn ein galluogi i asesu potensial y strategaethau newydd hyn i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr heb effeithio ar faint cnydau tatws. Mae’r project wedi’i gynllunio i gymharu allyriadau nwyon tŷ gwydr a faint o gnwd a gynhyrchir o ddulliau cynhyrchu confensiynol a newydd drwy gynnal arbrofion ar blotiau ac ar gaeau ffermydd masnachol. Yn ogystal, mae gennym ni gyfle i brofi synhwyrydd mesur nwyon tŷ gwydr newydd gydag un o’n partneriaid project.

 

Yr Athro Dave Chadwick,  Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Prifysgol Bangor

Dywedodd Josh Davies o’r Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, “Fel ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa, mae gen i ddiddordeb mawr mewn dulliau gwyddoniaeth a fydd yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn enwedig yn y sector amaethyddiaeth. Mae'r prosiect TRIP felly yn gyfle gwych i mi ddatblygu fy mhrofiadau ymhellach. Fy rôl fydd helpu i ddatblygu’r prosesau a ddefnyddir i fonitro a phennu allyriadau nwyon tŷ gwydr a mesur y cynnwys nitrogen yn y pridd drwy gydol y prosiect.”

Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym Mhrifysgol Bangor, “Mae’r datblygiadau cyffrous hyn wedi bod yn bosibl drwy’r gefnogaeth i’r prosiect gan gymynrodd a adawyd i Brifysgol Bangor gan y cyn-fyfyriwr Dr Trevor Williams. Mae Dr Williams, dderbyniodd doethuriaeth mewn Botaneg Amaethyddol yn 1962, yn enwog fel un o “dadau” yr hyn a elwir y 'Doomsday Vault', sef y Svalbard Global Seed Vault yn Norwy, a dyma lle mae miliynau o hadau yn cael eu storio am y dyfodol yn ddwfn o dan rew parhaol yr Arctig. Rydym yn hynod falch o gyflawniadau Dr Williams, ac yn sicr y byddai’n falch o’r hyn y mae ei gymynrodd hael i Fotaneg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu i’w gyflawni.”

 

Mi fydd hi’n ddifyr tu hwnt gallu arwain cydran Bangor o’r project hwn sy’n ganlyniad partneriaeth waith hir gydag Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari. Nawr, gyda’r cyllid hwn a thîm profiadol o gydweithwyr rydym yn gobeithio rhoi rhai atebion i’r cwestiwn mawr: sut allwn ni gynhyrchu bwyd yn fwy cynaliadwy?
Dr Katherine Steele ,  Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor