Mae disgwyl y bydd y galw byd-eang am bren yn cynyddu hyd at 170% erbyn 2050. Dangosodd astudiaeth newydd yn Nature Communications bwysigrwydd cyflawni targedau sero net trwy ddefnyddio pren gwastraff yn well, ac mae’n cynnig atebion ynglŷn â chyflawni hynny.
Caiff pren o goedwigoedd rheoledig ei gydnabod fwyfwy’n ffynhonnell bwysig o fioddeunyddiau adnewyddadwy. Gall sicrhau manteision mawr o ran lleihau’r cynhesu byd-eang, gan gynnwys dal carbon deuocsid o'r atmosffer wrth i goed dyfu, storio'r carbon hwnnw mewn cynhyrchion a gynhyrchir o'r pren a gaiff ei gynaeafu, a lleihau allyriadau trwy ddefnyddio’r cynhyrchion hynny yn lle deunyddiau fel concrit a dur.
Canfu tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Galway yn Iwerddon a Woodknowledge Wales, trwy wneud dadansoddiad trylwyr o gylch bywyd cyfan y system dan sylw, nad ydym yn sicrhau’r manteision gorau lle mae sero net yn y cwestiwn o ran y ffordd y mae cynhyrchion pren yn cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig.
Byddai adennill y 'gwastraff' pren yn adnodd arbennig
Er bod llai nag 1% o bren gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y Deyrnas Unedig, caiff llawer gormod o gynhyrchion pren eu llosgi ar ôl cael eu defnyddio unwaith fel biomas i gynhyrchu trydan neu wres, yn hytrach na’u hailddefnyddio neu’u hailgylchu’n gynhyrchion newydd sy'n dal i storio carbon. Mae aneffeithlonrwydd y system bresennol hefyd yn golygu bod coed yn cael eu cynaeafu ar gyfradd uwch o lawer nag sydd ei angen i ddarparu pren newydd ar gyfer gweithgynhyrchu. Mae o’r pwys mwyaf i’r Deyrnas Unedig. Yn 2022 costiodd ein mewnforion o gynhyrchion pren £11.5 biliwn.
Mae’r dystiolaeth a gynhyrchwyd gan yr ymchwil yn dangos y byddai gwella’r defnydd o gynhyrchion pren gwastraff yn sicrhau gostyngiad cyflym a pharhaus o 78% mewn allyriadau carbon erbyn 2050 o’i gymharu â’r dull presennol sy’n ddull untro’n bennaf. Mae’r manteision uniongyrchol i ddatgarboneiddio’n deillio o’r gostyngiad yn y galw am bren sydd newydd ei gynaeafu ac mae’n ategu’r manteision arafach, mwy hirdymor sydd i blannu coedwigoedd newydd i gynhyrchu pren. O gyfuno’r holl ddulliau gallem sicrhau gostyngiad mewn allyriadau sy’n cyfateb i 258.8 miliwn tunnell o garbon deuocsid, yn gronnol erbyn 2050 (sy’n cyfateb i 61% o gyfanswm allyriadau tiriogaethol net y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn 2021 yn unig).
Mae'r astudiaeth yn tynnu ar gyfweliadau gydag arweinwyr y diwydiant, ac mae hefyd yn archwilio sut y gellid cyflwyno model mwy cylchol ar gyfer defnyddio pren. Mae'n nodi:
- bod angen i'r diwydiant gydweithio mewn ffyrdd newydd i sicrhau’r cydgysylltiad traws-sector angenrheidiol;
- mae angen cynigion ar gyfer ymyriadau polisi gan y llywodraeth megis cynlluniau dadadeiladu gorfodol ar gyfer adeiladau, ac;
- mae angen i weithgynhyrchwyr ymestyn y cyfrifoldeb am sut mae eu cynhyrchion yn cael eu defnyddio (a'u hailddefnyddio) i sicrhau'r buddion gorau ar gyfer arafu’r cynhesu byd-eang.
Dywedodd Eilidh Forster, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor ac awdur arweiniol yr astudiaeth “Ar hyn o bryd dim ond cyfran fechan o'r pren sydd ei angen y mae'r Deyrnas Unedig yn gallu ei gynhyrchu, ond eto pe gallem adennill y 'gwastraff' pren byddai’n adnodd arbennig. Gallai gwell tryloywder, adroddiadau a rheolaeth dros bren a adferwyd greu llu o gyfleoedd busnes cylchol”.
Mae plannu coedwigoedd newydd i gynhyrchu pren i ateb galw’r dyfodol yn flaenoriaeth bwysig iawn ar gyfer cyflawni sero net. Fodd bynnag, bydd yn cymryd sawl degawd i wireddu’r buddion hynny, ac ni allwn fforddio aros mor hir â hynny i ostwng cyfradd bresennol y cynhesu byd-eang. Felly, rhaid gweithredu ar fyrder hefyd i wneud defnydd mwy effeithiol ar y cynhyrchion pren presennol a’u hailddefnyddio i leihau’r pwysau yr ydym yn ei roi ar goedwigoedd y byd i ddiwallu ein hanghenion.”
Esboniodd David Styles, Athro Cysylltiol mewn Amaeth-gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Galway a chyd-awdur yr astudiaeth “i gynyddu effeithlonrwydd y system gyfan yn sylweddol bydd angen gwneud newidiadau sylweddol yn y diwydiannau sy’n defnyddio coed yn y Deyrnas Unedig, a pholisïau gan y llywodraeth a gaiff eu targedu’n well, i wella’u cydgysylltiad yn sylweddol gan gynnwys y coedwigo, yr adfer ac ailddefnyddio pren yn well.”
Mae’n anodd creu economi cylchol ond mae’n gwbl hanfodol os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio yn y dyfodol yn ogystal â’n hanghenion am adnoddau at y dyfodol. Mae’r papur yn dangos hyd a lled y fuddugoliaeth ac mae’n gwneud awgrymiadau ymarferol ynglŷn â chyrraedd y nod.” Esboniodd hefyd fod “Woodknowledge Wales yn arbrawf yn y math o gydgysylltu traws-sector y mae’r ymchwil yn ei hyrwyddo.