Mae John Healey, sy’n Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, yn rhan o dîm o arbenigwyr o bob rhan o Ewrop sydd wedi llunio rhestr o 15 o ystyriaethau sy’n cael eu hanwybyddu’n aml, ac ystyriaethau newydd, sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar goedwigoedd y Deyrnas Unedig dros yr 50 mlynedd nesaf.
Dyma'r ymarfer cyntaf i 'sganio’r gorwel' o ran sefyllfa coedwigoedd y Deyrnas Unedig ac mae’r gwaith wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, Forestry. Dull yw hwn sy’n nodi bygythiadau, cyfleoedd a thueddiadau newydd nad oes llawer o wybodaeth ar gael amdanynt. Y nod yw helpu ymchwilwyr, ymarferwyr, llunwyr polisi, a chymdeithas yn gyffredinol, i fod yn fwy parod ar gyfer y dyfodol a mynd i'r afael â bygythiadau cyn i bethau fynd yn argyfyngus.
Mae’r gwaith sganio arbenigol hwn wedi nodi’r materion allweddol y mae’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod coetiroedd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i ddarparu’r holl ystod o fuddion yr ydym yn dibynnu arnynt.
Mae llawer o heriau i’w goresgyn er mwyn sicrhau bod ein coetiroedd nid yn unig yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth, ac amgylcheddau sy’n amhrisiadwy i lesiant dynol, ond hefyd yn parhau i gynhyrchu coed fel deunydd adnewyddadwy hanfodol sydd â rôl allweddol i’w chwarae er mwyn cyrraedd allyriadau sero net a chwrdd â her yr argyfwng hinsawdd.
Roedd mewnbwn Prifysgol Bangor yn allweddol i’r gwaith o ganfod ffordd i sicrhau bod coetiroedd yn parhau i gyflenwi cynnyrch pwysig i’r dyfodol.
Dywedodd Dr Eleanor Tew, ymchwilydd gwadd yn Adran Swoleg Caergrawnt a Phennaeth Cynllunio Coedwigoedd yn Forestry England,
“Bydd yr 50 mlynedd nesaf yn dod â newidiadau enfawr i goedwigoedd y Deyrnas Unedig, o ran y bygythiadau y bydd y coedwigoedd yn eu hwynebu, y ffordd rydyn ni’n eu rheoli, a’r buddion y byddant yn eu darparu i gymdeithas.”
Roedd yr Athro Healey yn rhan o banel o 42 o arbenigwyr, yn cynrychioli ystod o broffesiynau, sefydliadau ac ardaloedd daearyddol. Aeth pob un ohonynt ar ofyn eu rhwydweithiau i chwilio am ystyriaethau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac ystyriaethau newydd sy’n debygol o effeithio ar goedwigoedd y Deyrnas Unedig dros yr hanner canrif nesaf. Cafodd y rhestr hir o 180 o eitemau a ddeilliodd o’r gwaith hwnnw ei gwtogi yn rhestr fer o 30 o ystyriaethau. Yn olaf, nododd y panelwyr y 15 prif ystyriaeth, sydd yn eu barn nhw yn debygol o gael yr effaith fwyaf ar goedwigoedd y Deyrnas Unedig dros yr 50 mlynedd nesaf.
'Methiant trychinebus ecosystemau coedwigoedd' oedd yr ystyriaeth y rhoddwyd y sgôr uchaf iddi, gyda 64% o’r arbenigwyr o’r farn mai honno yw’r brif ystyriaeth ac 88% yn gosod hynny ymhlith eu tair ystyriaeth bwysicaf. Mae 'methiant trychinebus ecosystemau coedwigoedd' yn cyfeirio at nifer o beryglon rhyngberthynol sy'n cael effaith raeadrol ar goedwigoedd, gan arwain at fethiant llwyr neu rannol y coedwigoedd hynny. Mae hyn eisoes wedi digwydd ar gyfandir Ewrop ac yng Ngogledd America.
Dywedodd Eleanor Tew,
“Rydym yn gobeithio y bydd canlyniadau’r ymarfer hwn i sganio’r gorwel yn cael eu gweld fel galwad i weithredu ar frys er mwyn adeiladu’n sylweddol ar gamau gweithredu blaenorol i gynyddu gwytnwch coedwigoedd.”
Mater arall a nodwyd oedd y gallai sychder a achosir gan newid yn yr hinsawdd arwain at gystadleuaeth rhwng coedwigoedd a chymdeithas am adnoddau dŵr. Ar y llaw arall, gall coedwigoedd helpu i liniaru effaith llifogydd a achosir gan newid hinsawdd.
Daeth clefydau firol sy’n effeithio ar goed hefyd i'r amlwg fel ystyriaeth bwysig. Yn y Deyrnas Unedig, mae plâu a phathogenau ar gynnydd oherwydd globaleiddio a newid yn yr hinsawdd, a firysau a firoidau (moleciwlau RNA) yw’r grŵp mwyaf ar Gofrestr Risg Iechyd Planhigion y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, ychydig a wyddom am sut mae clefydau firol yn effeithio ar rywogaethau coedwigoedd ac yn wir ar yr ecosystem yn ehangach.
Rhagwelir hefyd y bydd newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr ar reoli coedwigoedd, gyda thywydd eithafol yn arwain at gyfnodau byrrach pan fo modd gwneud gwaith coedwigaeth. Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod y tymhorau pan ellir gwneud gwaith megis cynaeafu a theneuo yn prinhau wrth i ni weld gaeafau gwlypach a hafau crasboeth.
Nid yw pob ystyriaeth newydd yn fygythiad, fodd bynnag - mae rhai yn darparu cyfleoedd newydd. Er enghraifft, bydd coed yn ystyriaeth greiddiol mewn cynllunio trefol yn y dyfodol. Mae’n debygol y caiff 'coedwigoedd ysgyfaint' eu creu oherwydd bod dealltwriaeth gynyddol bellach o fanteision coed i gymdeithas. Yn ôl arbenigwyr mae'n debygol y bydd y ffin rhwng ardaloedd trefol a gwledig yn dod yn llai amlwg, ac y bydd cynnydd mewn isadeiledd gwyrdd a chysylltedd.
Mae’n debygol hefyd y bydd goblygiadau ar lefel leol yn sgil ymrwymiadau rhyngwladol mewn perthynas â natur. Er enghraifft, gallai gorfodi cwmnïau i adrodd ar effeithiau eu cadwyn gyflenwi ar fyd natur, yn defnyddio dulliau megis y fframwaith newydd sy'n cael ei ddatblygu gan y Tasglu Datgeliadau Ariannol Cysylltiedig â Natur (TNFD), greu cymhellion ychwanegol i ddefnyddio dulliau rheoli coedwigoedd sy'n gyfeillgar i natur.
I gloi dywedodd Eleanor Tew,
“Mae'r canlyniadau hyn ar y naill law yn peri pryder ac ar y llaw arall yn gyffrous. Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn optimistaidd, a chofio mai posibiliadau yw’r materion hyn yn hytrach na phethau sy’n rhwym o ddigwydd. Yn bwysicach na dim, mae gennym amser i weithredu – drwy ymateb i’r bygythiadau a chroesawu’r cyfleoedd, gall cenedlaethau’r dyfodol fod â choedwigoedd gwydn ynghyd â’r holl fanteision maen nhw’n eu darparu.”
Dywedodd yr Athro Bill Sutherland o Brifysgol Caergrawnt, un o arloeswyr y dull hwn o sganio'r gorwel,
“Rydym eisoes yn gweld digwyddiadau dramatig yng nghoedwigoedd Ewrop, yn danau, clefydau a chwilod rhisgl, ond mae mwy a mwy o bobl yn cydnabod bellach pa mor bwysig yw coed. Mae sganio’r gorwel i nodi problemau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol yn allweddol, yn enwedig gan y bydd y coed sy’n cael eu plannu nawr yn wynebu amgylchiadau gwahanol iawn wrth iddynt aeddfedu mewn ugeiniau o flynyddoedd.”
Ariannwyd yr ymchwil hwn gan Forestry England, sy’n rhan o'r Comisiwn Coedwigaeth. Bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn cynnull y sector ynghyd yn 2024 i edrych ar y camau nesaf.