Dros yr haf daeth penllanw pum mlynedd o waith datblygu ar y cyd rhwng Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor a’r cwmni technoleg werdd lleol, Pennotec (Pennog Ltd), i ddefnyddio afalau yn lle cynhwysion afiach megis brasterau dirlawn a siwgrau gwrthdroëdig yn y bwydydd yr ydym oll yn eu mwynhau.
Mae Bangor a Pennotec yn cydweithio â’r cwmni The Pudding Compartment o Sir y Fflint, sef y cwmni cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynhyrchu fersiwn iachach o'r fflapjac yn defnyddio cynhwysion sydd wedi'u gwneud o afalau. Mae'r ‘All-Natural Apple Flapjack', sef un o'r cynhyrchion cyntaf i’w ddatblygu fel rhan o'r cydweithio hwn rhwng Prifysgol Bangor a phartneriaid mewn diwydiant, wedi achosi cryn gynnwrf yn y Sioe Frenhinol, Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
“Mae’r cynhwysion newydd yma sydd wedi cael eu gwneud allan o afalau fel rhan o'r project ymchwil a datblygu efo Prifysgol Bangor a Pennotec wedi bod yn agoriad llygad!' meddai perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr The Pudding Compartment, Steve West. “Am y tro cyntaf erioed dan ni wedi gallu defnyddio dewisiadau iachach o lawer yn ein ryseitiau yn lle olew palmwydd a surop siwgr gwrthdroëdig. A'r bonws ydy bod blas hyfryd afalau ar ein cynnyrch bellach ac mae'n ymddangos bod defnyddwyr yn mwynhau.”
Dros yr haf, yn y Sioe Frenhinol, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, cymerodd 2,400 o ymwelwyr, gan gynnwys y seren opera Bryn Terfel, ran mewn sesiynau blasu dall a drefnwyd gan Brifysgol Bangor, a’r All-Natural Apple Flapjack ddaeth i'r brig!
“Yn gynharach eleni roeddem wedi cynnal treialon blasu gyda fersiynau calori isel o'n fflapjacs, brownis siocled, cacennau cri a bisgedi ac roeddem wedi synnu ac yn falch iawn o ddarganfod nid yn unig bod yn well gan ddefnyddwyr y fersiynau iachach wedi eu gwneud yn defnyddio cynhwysion afal, roeddent hefyd wrth eu bodd â'r blas afal siarp a melys.” meddai Steve. “Felly ar gyfer gwyliau mawr yr haf, roedden ni eisiau cynnal treial gwirioneddol ddall, felly fe wnaethon ni ychwanegu blas afal at ein rysáit fflapjacs arferol. A wyddoch chi beth? Daeth y fersiynau calori isel i’r brig eto – roedd yn well gan bron i 1,300 o bobl yr All-Natural Apple Flapjack”.
Felly beth yw'r gyfrinach?
Yr arweinydd ar ran Prifysgol Bangor yw Dr Adam Charlton ac meddai ef, “Trwy dorri’r ffibr dietegol iach mewn soeg afalau, sef y deunydd solid sy'n weddill ar ôl tynnu'r sudd, a gwneud hynny mewn modd mecanyddol, gallwn gynhyrchu cynhwysyn sy'n rhwymo hyd at 20 gwaith ei bwysau ei hun o ddŵr. Nid oes blas i’r ffibr dietegol sbwngaidd hwn yr ydym wedi'i greu ond mae ganddo'r un teimlad yn y geg â braster ac mae’r un trwch â startsh felly gellir ei ddefnyddio i ddisodli'r mathau hyn o gynhwysion mewn llawer iawn o fwydydd, gyda bron ddim calorïau.”
Ond beth am y blas afal?
Eglura Dr Jonathan Hughes o Pennotec, “Gyda chymorth rhaglen 'Datgarboneiddio ac Adferiad Covid-19' Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ddechrau edrych ar leihau ôl-troed carbon ein prosesau gweithgynhyrchu. Fe sylweddolon ni, er mwyn cynhyrchu ffibr i ddisodli braster yn defnyddio soeg afalau - sef gwasgiadau’n cynnwys mwydion a chroen afalau - roedd yn rhaid i ni olchi ymaith lawer o siwgrau a blasau ffrwythol iach iawn. Fe dreulion ni flwyddyn yn ymchwilio i ffyrdd o adfer a throsi siwgrau, carbohydradau cymhleth, fitaminau a gwrthocsidyddion o’r soeg afalau yn 'surop ffrwythau' newydd yn lle suropau gwrthdroëdig a ddefnyddir gan bawb yn y diwydiant bwyd. Nid yn unig rydym yn arbed arian drwy leihau gwastraff, rydym hefyd wedi creu surop ffrwythau newydd, blasus ac iach!'
Mae ailfformiwleiddio ryseitiau i ddisodli cynhwysion 'sych', margarîn, olewau llysiau, siwgr mân a surop melyn gyda chynhwysion afal sy’n seiliedig ar ddŵr wedi bod yn hynod heriol. Fodd bynnag, gweithiodd The Pudding Compartment yn ddiflino, gan brofi ryseitiau a chydbwyso'r cynnwys braster, siwgr, halen a ffibr i gyrraedd y proffil maethol gorau posibl a'r blas a'r ansawdd gorau posibl. Ac mae'r ‘prawf yn y pwdin’ fel y mae bron i 1,500 o ddefnyddwyr hapus wedi tystio.
'Dros yr haf rydym wedi profi bod galw gwirioneddol gan ddefnyddwyr am gacennau iachach ac mae defnyddwyr wir wrth eu boddau â’r blas afal.' meddai Steve.
'Mae ein surop afal iach ar hyn o bryd yn ddrytach na surop melyn ac rydym yn ymchwilio sut i'w wneud yn rhatach wrth i ni chwilio am fuddsoddiad i fedru cynhyrchu mwy' meddai Dr Hughes. Ond wrth brofi'r farchnad, mynegodd defnyddwyr barodrwydd i dalu hyd at 40% yn fwy am fersiynau iachach o gacennau y mae cwmnïau fel The Pudding Compartment yn eu cynhyrchu. Yn enwedig ar ôl iddynt gael gwybod pa mor iach oedd y cynhwysion afal a pha mor gyfeillgar i'r amgylchedd oedd ein dulliau cyrchu a chynhyrchu.'
Rydym wedi gweithio fel tîm, ledled Gogledd Cymru, gan weithio gyda phartneriaid masnachol yn y maes technoleg a chynhyrchiant bwyd ac ymchwilwyr eraill o Brifysgol Bangor ym maes Seicoleg a Daearyddiaeth, i ddatblygu treialon blasu a deall sut y gallai rhinweddau 'gwyrdd' cynhwysion afal ddylanwadu ar ddefnyddwyr ac allfeydd bwyd i brynu'r cynnyrch.
Rydyn ni’n ceisio helpu gyda heriau cymdeithasol pwysig, gan gynnwys y lefelau uchel o ordewdra yng Nghymru a’r angen i wella iechyd a lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi datblygu dull arloesol o weithgynhyrchu cynaliadwy drwy ychwanegu gwerth economaidd at soeg afalau.
Mae’n bwysig bod arloesi o’r fath yn y maes iechyd, a all helpu Cymru a’r Deyrnas Unedig i oresgyn yr argyfwng gordewdra ac adfer ar ôl Covid, yn mynd y tu hwnt i’r labordy. Dyna pam mae gweithio gydag arloeswyr bwyd o Gymru fel The Pudding Compartment wedi bod mor bwysig."
Mae'r tri sefydliad bellach wedi ymrwymo i barhau i gydweithio i ehangu gweithgynhyrchu a dod â'r cynnyrch arloesol, anhygoel hwn i'r farchnad o fewn y ddwy flynedd nesaf. Mi fydd angen llawer o afalau arnyn nhw!
Os hoffech wybod mwy am y prosiect, cysylltwch â'r Ganolfan Biogyfansoddion