· Mae amnewid 100g o beli cig eidion am ‘beli cig’ a wneir o brotein pys yn rhoi’r un faint o fudd i’r amgylchedd ag osgoi siwrnai car o 16km (10 milltir).
· Ar y llaw arall, ni fydd amnewid un litr o laeth buwch am laeth soi o reidrwydd o fudd uniongyrchol i'r hinsawdd.
· Serch hynny, gallai polisi defnydd tir effeithiol gynyddu’r buddion hinsawdd a ddaw o wneud newidiadau syml i’n deiet yn sylweddol, gan gynyddu’r buddion hinsawdd i’r hyn sy’n cyfateb i siwrnai car 48 km (29 milltir) wrth amnewid peli cig, a 6 km (4 milltir) wrth amnewid llaeth buwch.
Yn ogystal â cheisio gwneud y defnydd gorau o'n harian, rydym i gyd yn wynebu sawl penbleth foesegol pan fyddwn yn mynd i siopa. Mae rhai ohonynt yn llawer mwy cymhleth nag yr ydym yn ei sylweddoli efallai. Mae astudiaeth newydd, o’r enw Unlocking the Climate Benefits of Dietary Substitutions: The Impact of Land Use Policy, gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr dan arweiniad Prifysgol Bangor wedi mesur sut y gall newidiadau deietegol sy'n ymddangos yn syml wneud cyfraniad cadarnhaol i'r amgylchedd. Fodd bynnag, mae rhai o’r newidiadau’n gallu cael buddion mwy nag eraill, oherwydd effeithiau crychdonni cymhleth ar draws defnydd tir a systemau bwyd-amaeth cydgysylltiedig. Er enghraifft, gallai newid i laeth soi olygu gostyngiad yn nifer y lloi sydd ar gael ar gyfer y diwydiant cig eidion, tra gallai llai o alw am gig a chynnyrch llaeth olygu bod mwy o dir ar gael at ddefnyddiau eraill, megis tyfu coed i liniaru ymhellach ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y Journal of Cleaner Production ac mae’n seiliedig ar systemau amaethyddol yr Almaen, ond mae'r canlyniadau'n berthnasol iawn ar draws gwledydd ardaloedd tymherus a gwledydd Ewropeaidd. Mae’r casgliadau’n pwyntio at rôl glir i ddefnyddwyr a llunwyr polisi yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn gyffredinol, mae'r astudiaeth yn cadarnhau bod symud i ffwrdd oddi wrth brotein da byw a thuag at brotein sy'n seiliedig ar blanhigion yn fuddiol i'r hinsawdd. Mae hefyd yn dangos bod y buddion hyn yn llawer mwy wrth amnewid cig eidion yn hytrach nag amnewid llaeth.
Eglura Marcela Porto, prif awdur yr astudiaeth a myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor,
“Fe wnaethom gymhwyso cyfuniad o fodelu fferm, dadansoddi senarios ac asesu cylch bywyd canlyniadol i gyfrifo’r canlyniadau tebygol i allyriadau nwyon tŷ gwydr o newid peli cig am beli protein pys, a llaeth buwch am laeth soi. Dangosodd y broses hon raeadr gymhleth o effeithiau dadleoli ar draws systemau âr a systemau da byw yn yr Almaen, ond hefyd ar draws marchnadoedd byd-eang ar gyfer cynwyddau.”
Mae codlysiau (megis pys a ffa soia) yn trawsnewid nitrogen yn uniongyrchol o'r aer, gan leihau'r angen am wrtaith cemegol, ac maent yn ffynonellau cyfoethog o brotein a ffibr deietegol. Dim ond cyfran fach o dir sydd ei angen arnynt i gynhyrchu uned o brotein treuliadwy o gymharu â systemau da byw. Mae cynyddu’r defnydd o’r cnydau hyn sy’n cael eu tanddefnyddio yn ffocws canolog i’r projectau TRUE a RADIANT, a oedd yn sail i'r astudiaeth hon.
“Dros y degawdau diwethaf, mae poblogrwydd codlysiau wedi gostwng ledled Ewrop gan fod systemau bwyd wedi canolbwyntio ar nifer fach o gnydau mewnbwn uchel sy’n cynhyrchu calorïau ar gyfer bodau dynol a da byw. Ond mae diddordeb cynyddol mewn ailgyflwyno codlysiau fel 'ymyrwyr cadarnhaol', i ysgogi'r math o drawsnewidiadau sydd eu hangen ar draws systemau bwyd a defnyddiau tir i gyrraedd targedau Cytundeb Paris o ran newid hinsawdd”, meddai David Styles, cydlynydd astudio a darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at y rôl enfawr y gall polisi defnydd tir ei chwarae wrth ysgogi buddion hinsawdd o ddewisiadau moesegol gan ddefnyddwyr. Mae diwydiant da byw yn gyfrifol, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, am y rhan fwyaf o'r tir a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu bwyd yn fyd-eang. Gallai polisïau effeithiol sy'n hyrwyddo atebion ar gyfer newid yn yr hinsawdd sy’n seiliedig ar natur, megis coedwigo ar dir sydd wedi'i arbed rhag cael ei ddefnyddio i gynhyrchu da byw, gynyddu’r buddion hinsawdd a geir o wneud newidiadau deietegol hyd at deirgwaith.
Cael gwared â’r cig yn eich basged siopa cyn amnewid eich llaeth er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd
Datgloi manteision hinsawdd amnewidiadau deietegol: Effaith Polisi Defnydd Tir