Mae llygredd sŵn yn anweledig ond gall achosi effeithiau iechyd gwirioneddol. Fel llawer o fathau eraill o lygredd, oherwydd anghyfiawnder systemig, mae'n effeithio ar rai pobl yn fwy nag eraill. Mae hefyd yn effeithio ar fywyd gwyllt.
Mae Graeme Shannon o Brifysgol Bangor wedi cyfrannu at astudiaeth a gyhoeddwyd yn Nature Ecology and Evolution sy’n amlygu sut mae diraddiad ecolegol yn gwaethygu’r anghyfiawnder hwn i bobl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n hanesyddol wedi cael eu hymyleiddio, oherwydd bod natur a bywyd gwyllt yn chwarae rhan mor allweddol mewn llesiant dynol.
Canfu ecolegwyr acwstig ym Mhrifysgol Daleithiol Colorado (CSU), lle bu Graeme Shannon yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol, fod cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio’n agored i fwy o sŵn trefol, a bod hynny wedi'i gysylltu â chanlyniadau negyddol i bobl a bywyd gwyllt. Mae'r astudiaeth newydd yn adeiladu ar adolygiad systematig blaenorol yn archwilio effeithiau sŵn ar fywyd gwyllt a gynhaliwyd dan arweiniad Graeme tra oedd yn gweithio yn CSU.
Edrych mae’r astudiaeth newydd ar ddosbarthiad sŵn trefol ar draws rhaniadau hanesyddol ar sail hil mewn 83 o ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau a gwerthuso cannoedd o astudiaethau i effeithiau sŵn ar fywyd gwyllt. Yn yr Unol Daleithiau, disgrifir cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio fel rhai y rhoddwyd ‘llinell goch’ o’u cwmpas. Bellach mae ‘tynnu llinell goch’ yn anghyfreithlon, sef yr hen arfer gwahaniaethol o wrthod benthyciadau neu wasanaethau i bobl oedd yn byw mewn cymdogaethau lle nad oedd pobl wyn yn byw. Aeth y tîm ati i ddadansoddi data ecolegol ynghylch sŵn tra aethpwyd ati hefyd i archwilio'r effeithiau ar gymunedau trefol, yn enwedig y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol oherwydd rhagfarnau hanesyddol.
Yr astudiaeth hon yw'r gyntaf i archwilio annhegwch sŵn mewn cymunedau ‘llinell goch’. Mae'r canlyniadau'n dangos bod lefelau sŵn uwch i’w cael yn fwy cyffredin mewn ardaloedd trefol ‘llinell goch’ a bod lefelau sŵn o’r fath yn cael effaith andwyol ar ecosystemau trefol i raddau sy’n gymesur â lefel y sŵn.
Wrth sôn am y gwaith newydd, dywedodd Graeme, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Swoleg,
“Mae'n wych gweld y papur hwn yn ymestyn ein gwaith gwreiddiol i gynnwys astudiaethau a gyhoeddwyd dros y degawd diwethaf, a gweld sut mae'n cael ei gymhwyso i amlygu effeithiau sŵn ar gymunedau dynol a bywyd gwyllt.
Aeth ein hastudiaeth wreiddiol ati i nodi ymchwil a wnaed mewn amgylcheddau trefol, dosbarthu ffynhonnell y sŵn ac ymateb biolegol y rhywogaethau y canolbwyntiwyd arnynt, a chofnodi lefelau penodol yr amlygiad i sŵn. Mae Sara a'i thîm wedi ehangu'r set ddata ac wedi ymgorffori mesuriadau manwl o lefelau amlygiad sŵn ar draws 83 o ddinasoedd yn UDA. Yn y pen draw, mae hyn wedi eu galluogi i archwilio sut mae sŵn trefol yn effeithio ar bobl ac ar fywyd gwyllt cyfagos.”
Sŵn llinellau coch
Gan ddechrau ym 1933, graddiodd yr Home Owners' Loan Corporation gymdogaethau ar sail hil a chyfoeth. Roedd cymdogaethau Gradd A yn gyfoethocach ac yn wynnach, tra câi llinellau coch eu tynnu o amgylch cymdogaethau gradd D lle'r oedd pobl o sawl cefndir hil a chefndir ethnig yn byw. Cafodd ‘tynnu llinell goch’ ei wahardd ym 1968, ond achosodd degawdau o ddadfuddsoddi yn y cymdogaethau hyn at wahaniaethau sy’n parhau hyd y dydd heddiw.
Canfu’r astudiaeth bod cymdogaethau gradd D yn profi lefelau sŵn sydd 17% yn uwch na chymdogaethau gradd A, ac y ceir, mewn cymdogaethau graddau C a D, lefelau sŵn yn fwy aml sy’n uwch na’r lefel y gwyddys ei bod yn achosi i bobl golli eu clyw, ac yn achosi straen a phoen corfforol iddynt.
“Mae hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â hiliaeth strwythurol,” meddai Sara Bombaci o Brifysgol Daleithiol Colorado. “Mae arwydd clir o hyn sy’n cysylltu’n uniongyrchol â ‘thynnu llinell goch’ o amgylch y cymunedau hyn.”
Mae’r effaith a gaiff llygredd sŵn ar iechyd pobl yn cynnwys colli clyw, straen, insomnia, gorbwysedd a risg uwch o glefyd y galon a strôc. Mae sŵn uchel parhaus yn rhoi straen ar fywyd gwyllt hefyd. Gall newid ymddygiad anifeiliaid, gan gynnwys cyfathrebu, strwythur cymunedol, dosbarthiad, ffitrwydd, twrio am fwyd, paru, symud ac atgenhedlu. Gall sŵn olygu bod rhai rhywogaethau mewn mwy o berygl gan ysglyfaethwyr a bod bywyd gwyllt yn osgoi rhai ardaloedd yn gyfan gwbl.
Unioni camweddau'r gorffennol
Mae llawer o ddinasoedd, megis Denver, yn ceisio cynllunio mewn modd ecwitïol i wella mynediad i barciau a mannau gwyrdd mewn cymunedau heb wasanaethau digonol. Dywedodd Sara Bombaci y dylid ystyried sŵn yn y cynlluniau hynny.
Cyfunodd y tîm eu disgyblaethau i greu'r astudiaeth hon gyda'r nod o hyrwyddo gwybodaeth am ecoleg drefol gyda dull sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder.