Mae syniad Dr Christian Dunn ar gyfer y Chester Wetland Centre (CWC) wedi cyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol gwobrau’r Landscape Institute, am Ragoriaeth mewn Gwarchod a Gwella Bioamrywiaeth.
Bydd y project yn arwain at greu ecosystemau gwlyptir gwerthfawr mewn parc gwledig poblogaidd ar gyrion Caer.
Yn ogystal â manteision y gwlyptir i fioamrywiaeth, bydd y project yn helpu i gael gwared ar lygredd mewn nant, ac yn cyfrannu at greu ystod o fuddion cymunedol ac addysgol.
Dr Dunn, sy’n Uwch-Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, wnaeth feddwl am y syniad. Bu yn ei ddatblygu gydag aelodau o grŵp Friends of the Countess of Chester Country Park, lle bydd y gwlyptir yn cael ei ddatblygu.
The Land Trust sy’n berchen ar y parc, a nhw gomisiynodd y cwmni ymgynghori amgylcheddol, Binnies, i gwblhau’r astudiaeth ddichonoldeb a’r dyluniad amlinellol ar gyfer y ganolfan. Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr sy’n ariannu’r gwaith trwy gronfa arbennig i wella cyflwr amgylchedd dŵr.
Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi helpu i gasglu data hanfodol ar gyfer yr astudiaeth hon fel rhan o'u projectau ymchwil israddedig ac ôl-radd.
Dywedodd Dr Dunn: “Mae’n wych gweld y Chester Wetland Centre ar y rhestr fer mewn gwobr genedlaethol bwysig fel hon.
“Rwy'n falch iawn bod y syniad a gefais ychydig flynyddoedd yn ôl bellach wedi magu cymaint o fomentwm a bod cymaint o sefydliadau a phobl wych yn ei gefnogi.
“Wedi i’r gwaith gael ei orffen byddwn wedi creu cynefin gwlyptir gwych wrth ymyl yr ysbyty yng Nghaer y gall pobl ei fwynhau lle gall bywyd gwyll ffynnu.
“Mae’r ffaith bod myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod mor allweddol wrth fynd â’r maen i’r wal yn dangos pa mor wych yw ein myfyrwyr a pha mor dda yw eu hymchwil.”
“Rwy’n edrych ymlaen at gam nesaf y gwaith nawr, sef datblygu dyluniad manwl y ganolfan, a bydd ein myfyrwyr yn cymryd rhan yn y gwaith hwnnw hefyd,” ychwanegodd Dr Dunn.
Yn ogystal â’r Land Trust, Friends of the Countess of Chester Country Park, Binnies a Phrifysgol Bangor, rhai o brif bartneriaid eraill y project yw’r Environment Agency, Cheshire West and Chester Council a The Conservation Volunteers.