Effaith yn y byd go iawn
Mae pob un o’r projectau ar y rhestr fer wedi cael effaith ar economi neu gymdeithas, yn y Deyrnas Unedig neu’n rhyngwladol, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Cafodd y rhestr fer ei llunio a chafodd y gystadleuaeth ei beirniadu gan banel annibynnol ac arno ffigyrau amlwg o’r byd academaidd, o ddiwydiant ac o faes ymgysylltu â’r cyhoedd.
Defnyddio Dŵr gwastraff i fonitro iechyd y genedl: ymlaen o COVID-19
Defnyddiodd y tîm o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol eu harbenigedd i fonitro mynychder COVID-19, ac ar un adeg buont yn edrych ar 80% o boblogaeth y Deyrnas Unedig drwy fonitro dŵr gwastraff.
Chwaraeodd y system fonitro rôl hanfodol wrth siapio polisi cenedlaethol yn ystod y pandemig.
Ers hynny, mae’r system wedi ei haddasu i fonitro nifer o heintiau sy’n destun pryder o ran iechyd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
Nid yw dŵr gwastraff yn celu. Tra gall arolygon a dulliau hunan-adrodd ddangos tuedd, mae ein system carthffosiaeth yn hel gwirioneddau heb eu ffiltro am iechyd ac ymddygiad y cyhoedd. Mae dadansoddi dŵr gwastraff yn rhoi cipolwg gwrthrychol o ddefnydd cyffuriau’r gymuned, graddfeydd heintio, a gweithgarwch economaidd hyn yn oed. Dyma’r bel grisial y mae swyddogion iechyd cyhoeddus wedi breuddwydio amdani - un a all ddarparu rhybudd cynnar am fygythiadau newydd i iechyd y cyhoedd. Mae’r dyfodol yn ein dŵr gwastraff.
Meddai’r Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil),
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant yn y gwobrau i Davey a’i dîm. Mae effaith eu gwaith wedi bod yn syfrdanol. Rydym yn ymfalchïo ym mha mor werthfawr oedd arbenigedd y Brifysgol i iechyd y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19. Tyfodd y gwaith allan o arbenigedd hirsefydlog Prifysgol Bangor, ac mae’n cael ei ddatblygu i ymchwilio i bathogenau eraill. Mae’r project hwn a’i heffaith yn tanlinellu’r budd a ddaw o gyllido ymchwil sylfaenol, y gellir ei roi ar waith yn sydyn i ymateb i heriau cymdeithasol megis y pandemig COVID-19.”
Medda’r Athro Peter Liss, Cadeirydd Gweithredol Dros Dro NERC,
“Mae’r Gwobrau Effaith yn gyfle i ni gydnabod y gymuned lewyrchus o bobl sy’n gweithio’n galed i ddatgelu cyflwr yr amgylchedd a’r modd y gallwn ni ymateb. Roedd y cystadlu eleni’n neilltuol o frwd. Mae effaith y ceisiadau’n bellgyrhaeddol. Roeddwn yn falch o weld bod y 10 cais sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf heriol, megis i bioamrywiaeth sy’n colli’n gyflym, newid yn yr hinsawdd ac effaith yr amgylchedd ar iechyd dynol. Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu cyfraniad y timau ar y rhestr fer a chyfraniad yr ymchwilwyr unigol yn ein Gwobrau Effaith fis Tachwedd.”
Mae modd gweld y deg project sydd ar y rhestr fer ar wefan NERC yma.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Natural History Museum ar 29 Tachwedd