Mae croesrywio rhwng rhywogaethau’n ffenomen a ddigwyddai’n amlach nag a feddylid yn flaenorol. Yn y gorffennol, digwyddodd gyda bodau dynol modern; amcangyfrifir bod ein genom yn cynnwys tua 2% o DNA Neanderthalaidd.
Gwyddom bellach fod y lyncs Iberaidd (Lynx pardinus) hefyd wedi croesrywio â rhywogaethau agos yn y gorffennol diweddar.
Mae Prifysgol Bangor wedi cyfrannu at astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Nature Ecology & Evolution. Mae'r astudiaeth yn dangos bod y lyncs Iberaidd wedi rhyngfridio â'r lyncs Ewrasiaidd (Lynx lynx) dros yr ychydig filoedd o flynyddoedd diwethaf. Byddai hyn wedi helpu i gynyddu ei amrywiaeth genetig ac mae hynny'n bwysig, o ystyried y sefyllfa bresennol, lle nad yw goroesiad hirdymor y lyncs Iberaidd yn sicr.
Dan arweiniad cyngor ymchwil gwyddonol Sbaen, sef Consejo Superior of Investigaciones Científicas (CSIC), aeth y tîm gwyddonol ati i ddadansoddi DNA y tri sbesimen hynafol o lyncs Iberaidd: un o Andújar tua 4300 o flynyddoedd yn ôl, un arall o Alcanar yng Nghatalwnia tua 2500 o flynyddoedd yn ôl, ac un arall o’r Algarve ym Mhortiwgal tua 2100 o flynyddoedd yn ôl. Yna aethont ati i gymharu'r wybodaeth hon â data genetig o sbesimenau cyfoes. Roedd yr hyn a welsant yn gwbl annisgwyl: roedd amrywiaeth genetig y lyncs hynafol yn is nag amrywiaeth genetig y lyncs cyfoes.
Cyfrannodd Dr Axel Barlow o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor at y gwaith.
Dywedodd,
“Mae’r astudiaeth wir yn dangos pŵer DNA hynafol. Wrth edrych i’r gorffennol roeddem yn gallu datgelu proses allweddol a luniodd amrywiaeth genetig yn yr anifeiliaid hynod ddiddorol yma, a oedd yn amhosibl wrth edrych ddim ond ar ffynonellau DNA modern.”
Doedd mudiad y boblogaeth hanesyddol o lyncs Iberaidd ddim yn esbonio'r cynnydd mewn amrywiaeth genetig. Wrth i'r boblogaeth leihau dros amser, dylai amrywiaeth genetig fod yn is, nid yn uwch. Nid yw’n bosibl ychwaith bod yr unigolion hynafol yn perthyn i boblogaethau cwbl ynysig, gan fod dadansoddiadau genetig yn dangos eu bod yn cymysgu â'i gilydd a gyda hynafiaid y lyncs cyfoes. Felly, beth allai fod wedi digwydd yn ystod y ddwy neu dair mil o flynyddoedd diwethaf?
Un ateb posibl yn ôl y tîm gwyddonol yw croesrywio.
Dyma María Lucena, awdur cyntaf yr astudiaeth, o CSIC, yn esbonio mwy,
“Datgelodd y dadansoddiadau fod y lyncs modern yn rhannu mwy o ddeunydd genetig â’u chwaer rywogaeth, y lyncs Ewrasiaidd, na chyda rhywogaethau hŷn o’r lyncs.”
Mae hyn yn awgrymu bod cyfnewid genetig wedi digwydd rhwng y ddwy rywogaeth yn ystod y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.”
Ymhellach, mae'r canlyniadau'n dangos bod gan y sbesimenau hynafol mwyaf diweddar o lyncs Iberaidd, y rhai o Gatalwnia a’r Algarve, fwy o amrywiadau genetig sy’n dod o'r lyncs Ewrasiaidd nag sydd gan yr un hynaf o Andújar. Filoedd o flynyddoedd yn ôl, efallai y byddai dosbarthiad y lyncs Iberaidd wedi cyrraedd cyn belled â de Ffrainc a gogledd yr Eidal, a bu'r lyncs Ewrasiaidd yn byw yng ngogledd penrhyn Iberia tan yn lled ddiweddar, gan greu cyfleoedd ar gyfer cyfnewid genynnau rhwng y ddau rywogaeth. Byddai llif genynnau'r lyncs Ewrasiaidd i'r lyncs Iberaidd wedi lledu wedyn i bob poblogaeth fodern.
Achubiaeth genetig
Mae amrywiaeth genetig rhywogaethau yn hanfodol er mwyn iddynt addasu i newidiadau yn eu hamgylchedd. Fodd bynnag, amrywiaeth genetig y lyncs Iberaidd oedd un o'r isaf yn y byd. Profodd y rhywogaeth ddirywiad mawr yn ystod yr 20fed ganrif a adawodd dim ond tua 100 o unigolion wedi'u rhannu'n ddwy boblogaeth fach, ynysig yn Doñana ac yn Andújar. Mewn ymateb i'r sefyllfa hon, penderfynwyd cymysgu'r ddwy boblogaeth enetig wahanol.
“Trwy groesi unigolion nad oeddynt yn perthyn o gwbl i’w gilydd, fe wnaethom osgoi’r mewnfridio a oedd wedi cronni yn y ddwy boblogaeth fach”, eglura José Antonio Godoy, ymchwilydd yng Ngorsaf Fiolegol Doñana CSIC. “Yn ôl ein data, mae’n ymddangos bod gan “groesiadau” y ddwy boblogaeth fwy o lwyddiant atgenhedlu a rhagor o obaith goroesi. Ar yr un pryd, mae hefyd yn cynyddu’r amrywiaeth enetig sydd ar gael ar gyfer addasu i newidiadau amgylcheddol.”
Er gwaethaf adferiad llwyddiannus yn ystod degawdau cyntaf yr 21ain ganrif, nid yw'r lyncs Iberaidd hyd yma wedi cyrraedd isafswm poblogaeth a fyddai'n sicrhau amrywiaeth genetig dderbyniol yn y dyfodol. Mewn astudiaeth ddiweddar arall, cyfrifodd y grŵp ymchwil fod angen o leiaf 1100 o fenywod a allai atgenhedlu, a dim ond 326 a gofrestrwyd yng nghyfrifiad 2022. Yn ogystal, roedd yn hanfodol cynyddu nifer yr isboblogaethau a gwella cysylltedd rhyngddynt er mwyn sicrhau cyfnewid genetig. Nod project LIFE-Lynxconnect, a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, yw cyflawni poblogaeth hunangynhaliol, sy’n enetig hyfyw yn y tymor hir, o’r lyncs Iberaidd trwy gysylltu'r gwahanol isboblogaethau a chreu dwy isboblogaeth newydd.
A allai croesrywio â rhywogaethau eraill fod yn ateb i amrywiaeth genetig isel ymhlith rhywogaethau sydd mewn perygl, megis y lyncs Iberaidd? Mae'r opsiwn hwn yn aml yn cael ei ddiystyru gan y byddai'r epil yn llai tebygol o oroesi ac atgenhedlu, gan leihau hyfywedd y boblogaeth yn hytrach na'i chynyddu.
“Yn gyffredinol, y disgwyliad yw y byddai’r rhan fwyaf o’r genynnau sy’n mynd i mewn i un rhywogaeth o rywogaeth arall yn cael canlyniadau negyddol ac yn cael eu dileu dros amser gan ddethol naturiol, ond gallai rhai adfer amrywiadau swyddogaethol neu hyd yn oed ganiatáu addasu i amodau amgylcheddol newydd,” eglura José Antonio Godoy.
“Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod eto pa ganlyniadau a gafodd y croesrwyio yn y gorffennol yr ydym wedi’i ganfod yn y lyncs Iberaidd, ac nid oes modd i ni ragweld canlyniadau hybrideiddio naturiol neu fwriadol yn y dyfodol”. Bydd angen ymchwil pellach ar hyd y llinellau hyn.
Ar y chwith: Lyncs Iberaidd Llun: Antonio Rivas /EBD-CSIC. Ar y dde: Lyncs Ewrasiaidd. Llun: Martin Mecnarowski
Papur: Maria Lucena-Perez, Johanna L. A. Paijmans, Francisco Nocete, Jordi Nada5, Cleia Detry, Love Dalén, Michael Hofreiter, Axel Barlow, José A. Godoy. Recent increase in species-wide diversity after interspecies introgression in the highly endangered Iberian lynx. Nature Ecology & Evolution