Rhwng 6-18 Tachwedd, mae arweinwyr y byd yn cyfarfod yn yr Aifft yn seithfed gynhadledd newid hinsawdd ar hugain y Cenhedloedd Unedig - COP27. I ddathlu'r gynhadledd yn Affrica, lluniodd Rhwydwaith Ynni Carbon Isel ac Ymchwil yr Amgylchedd Cymru gyfres o astudiaethau achos sy'n amlygu’r cydweithio rhwng Cymru ac Affrica ar ymchwil sy'n canolbwyntio ar hinsawdd. Mae’r rhain yn cynnwys pedair astudiaeth achos o Brifysgol Bangor.
“Mae newid hinsawdd o achos dyn yn creu heriau mawr i bawb ar y blaned” meddai Julia Jones, athro ym Mhrifysgol Bangor a Chyfarwyddwr y rhwydwaith ymchwil. “Rydym yn falch iawn o waith ymchwilwyr o Fangor ac o Gymru benbaladr, ac o’r cydweithio â phartneriaid yn Affrica i geisio atebion ystyrlon i’n helpu ni i liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.”
Mae Affrica yn rhan allweddol o’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae'r cyfandir yn gartref i 18% o goedwigoedd trofannol y byd, sy'n golygu bod gan Affrica rhan hanfodol yn y gwaith o liniaru newid yn yr hinsawdd. Gyda phoblogaethau sy'n cynyddu’n gyflym ac yn deisyfu twf economaidd, mae gwledydd Affrica hefyd yn cael eu gorfodi i feddwl am ffyrdd creadigol o sicrhau datblygiad mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd, gan arwain at gynlluniau arloesol newydd.
Yn ogystal â lliniaru, mae Affrica hefyd yn lle pwysig ar gyfer ymchwil ar addasu i’r hinsawdd. Er mai dim ond rhan fach o’r achosion newid yn yr hinsawdd y mae Affrica yn gyfrifol amdanynt, mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn nodi mai Affrica ar hyn o bryd sydd fwyaf agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd gan nad oes gan lawer ar y cyfandir yr adnoddau i ddiogelu eu hunain rhag effeithiau newid hinsawdd.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn mynd i'r afael yn llwyddiannus ag ystod eang o faterion yn ymwneud â hinsawdd yn Affrica. Gyda choedwigoedd trofannol yn storio tua chwarter yr holl garbon coedwigol, maent yn hanfodol ar gyfer lliniaru newid hinsawdd. Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor ar y cyd â Phrifysgol Antananarivo, Madagascar, yn gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau nad yw cadwraeth coedwigoedd yn niweidio bywoliaeth leol.
Yn Uganda, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor sy'n cydweithio â Sefydliad Ymchwil Amaethyddol Cenedlaethol Uganda yn datblygu cynhyrchion i ddisodli nwyddau plastig untro gan ddefnyddio'r deunydd gwastraff a geir o dyfu india-corn.
Yn Togo, mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn cydweithio â Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Tatws Togo i arbrofi gyda mathau o datws cnwd dwys sy’n gwrthsefyll clefydau a fydd yn lleihau faint o dir sydd ei angen ar gyfer amaethyddiaeth ac yn lleihau’r angen am fioladdwyr gan wella diogelwch bwyd.
Yn Nigeria, mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn cydweithio â Phrifysgol Jos i helpu sefydliadau cadwraeth a chymunedau lleol i gynllunio ar gyfer y patrymau tywydd cyfnewidiol a ragwelir o achos newid hinsawdd.
Yr hyn sy’n gyffredin i’r holl brojectau roedd y rhwydwaith ymchwil yn rhoi sylw iddynt oedd cydweithio.
“Mae’n wych gweld yr amrywiaeth o gydweithio rhwng ymchwilwyr yng Nghymru a’r rheini mewn ystod eang o sefydliadau ymchwil rhagorol yn Affrica,” meddai’r Athro Jones. “Mae cydweithio’n llwyddiannus ar ymchwil yn dod yn fwy na chyfanswm ei rannau unigol ac mae’n gyfle gwych i bawb sy’n cymryd rhan.”
Mae’r cydweithio hwn gan Brifysgol Bangor ar waith ymchwil yn adeiladu ar ethos cryf o ymchwil cydweithredol ymhlith prifysgolion Cymru gyda mwy na 50% o waith ymchwil Cymru wedi'i gynhyrchu gan gydweithio rhyngwladol. Ac mae'n llwyddiannus. Canfu asesiad o ymchwil Cymreig a gyhoeddwyd yn 2021 fod ymchwil o Gymru yn cael ei grybwyll 80% yn fwy mewn papurau ymchwil eraill na’r cyfartaledd byd-eang.
“Mae’r astudiaethau achos yma’n amlygu pwysigrwydd ymchwil Cymru ar y llwyfan fyd-eang,” meddai Rhys Bowley, rheolwr y rhwydwaith ymchwil. “Rydym ni mewn difri yn genedl fechan gyda syniadau mawr!”
I gael y manylion llawn a rhagor o enghreifftiau gwych o ymchwil i’r hinsawdd o bob rhan o Gymru, gweler: www.lceernw.ac.uk/wales-in-africa