Ysgol Haf Rhyngwladol yn ymweld â gogledd-orllewin Cymru
Bydd myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr ar cynnar-eu-gyrfa o bob cwr o’r byd yn dod i ogledd-orllewin Cymru i ddysgu am hanes daearegol ein rhanbarth fel rhan o raglen Ysgol Haf Rhyngwladol Gwaddodeg yr IAS.
Ariennir y rhaglen hon gan yr International Association of Sedimentologists (IAS) a’i nod yw rhoi cyfle i gyfranogwyr gydweithio, rhwydweithio a gweithio gyda darlithwyr arbenigol ar bynciau newydd a chyffrous mewn daeareg waddodol. Cynhaliwyd Ysgolion Haf blaenorol yn y Swistir, yr Ariannin, Tsieina, a'r Bahamas. Sbaen a Bonaire sydd nesaf yn y rhes cyn i'r Ysgol Haf lanio yng Nghymru yn 2025. Dan y teitl Gogledd Orllewin Cymru: 800 Miliwn o Flynyddoedd o Hanes y Ddaear mewn 800 km2, trefnir yr Ysgol Haf gan Dr Jaco H. Baas (Ysgol Gwyddorau Eigion), Dr Dei Huws (Ysgol Gwyddorau Eigion, Geoparc Byd-eang GeoMôn UNESCO), Dr Megan Baker (Prifysgol Durham), Dr Stephen Lokier (Prifysgol Derby) a Dr Lynda Yorke (Ysgol y Gwyddorau Naturiol).
Bydd y rhaglen yn cwmpasu 800 miliwn o flynyddoedd o hanes daearegol Ynys Môn, Parc Cenedlaethol Eryri, ac arfordir Ceredigion, dros saith niwrnod o waith maes dwys - gan gyfeirio’n arbennig at rôl daeareg yn y broses o drawsnewid ein ffynonellau ynni o hydrocarbonau i rai carbon-niwtral. Rhinwedd gwerthu unigryw Ysgol Haf Gogledd Orllewin Cymru yw'r amrywiaeth eang o greigiau gwaddodol, sy'n hawdd eu cyrraedd mewn dim ond 800 km2. Bydd y cyfranogwyr yn astudio amrywiol ddyddodion - afonol, morol, cefnforol, rifol, rhewlifol a hydrothermol. Ac mi fydd i gyd o fewn cyswllt y siwrne plât tectonig mae Cymru wedi bod arni, gan ddechrau fel rhan o ynys hynafol “Afalonia” ac yna ar ei thaith o hemisffer y de ar draws y cyhydedd i’w safle presennol yn hemisffer y gogledd – taith drwy barthau hinsawdd drofannol, gras, dymherus a phegynol.
“Mae’r Ysgol Haf yn gyfle gwych i arddangos daeareg anhygoel Gogledd Orllewin Cymru. Mae hyn yn cynnwys y Cyn-gambriaidd (tua 1000 i 540 miliwn o flynyddoedd yn ôl), pan ddatblygodd ein hatmosffer a'n cefnforoedd modern, ac esblygodd bywyd cynnar; y Cambriaidd (hyd at tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl), pan oedd Cymru yn rhan o ranbarth tectonig gweithgar gyda llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd rheolaidd, yn debyg i Japan heddiw; y Defonaidd (tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl), pan oedd Cymru yn anialwch tebyg i'r Sahara; a’r Carbonifferaidd (tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl), pan oedd rifau cwrel yn ffynnu yn ein rhanbarth”, eglura’r prif drefnydd Dr Baas o’r Ysgol Gwyddorau Eigion.
Mae Dr Baas yn ddiolchgar am y cyllid hael a dderbyniwyd gan yr IAS: “Mae hyn yn caniatáu i ni noddi’r myfyrwyr ôl-raddedig tramor hynny ac ymchwilwyr cynnar-eu-gyrfa nad ydynt fel arfer yn cael cyfle i deithio dramor ar gyfer gwaith maes daearegol nag hefyd â mynediad at ddulliau casglu data modern, fel dronau a sganwyr laser 3D”. Ychwanega: “Rydym yn edrych ymlaen at ddangos i’r cyfranogwyr fod ffosiliau stromatolit hynaf Cymru a Lloegr - adeileddau caregog a chrëwyd gan cyanobacteria - i’w cael ym Môn. A bod blynyddoedd ffurfiannol Charles Darwin fel daearegwr, cyn iddo ennill enwogrwydd fel biolegydd, wedi cynnwys gwaith maes ym Mharc Cenedlaethol Eryri”.