Fy ngwlad:
Proessor Julia Patricia Gordon Jones

Ai chwyldro mewn safonau bywyd cyhoeddus yw'r allwedd i fynd i'r afael â'r argyfyngau amgylcheddol cydgysylltiedig sy'n ein hwynebu?

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Mike Bernes-Lee, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac awdur sy’n ymchwilio i ôl troed carbon, roi darlith gyhoeddus yn y Brifysgol yn trafod llyfr sydd ganddo ar y gweill “A Climate of Truth”. Bu i’r ddarlith ennyn diddordeb Julia PG Jones, Athro mewn Gwyddor Cadwraeth. Doedd hi ddim eisiau disgwyl nes y bydd llyfr yn cael ei gyhoeddi i gael gwybod rhagor, felly ysgrifennodd at gwmni golygu Nature a gofyn i gael gwneud adolygiad.