“Mae’r llyfr wedi datblygu dros flynyddoedd o ymchwil dwys a ddechreuodd pan ddechreuais i addysgu am ffilmiau Kubrick ym Mhrifysgol Bangor yn 2007. Mae'n trafod nid yn unig y gwaith o wneud ei ffilmiau, ond hefyd y ffilmiau yr oedd yn dymuno eu gwneud ond a fethodd, megis Burning Secret, Napoleon, Aryan Papers, ac AI. Rydym hefyd yn datgelu beth roedd Kubrick yn ei wneud pan nad oedd yn gwneud ffilmiau.
“Bydd y cofiant hwn yn chwalu rhai o’r camsyniadau am y gwneuthurwr ffilmiau hwn, yr honnir ei fod yn enciliol ac a greodd rai o weithiau celf pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Bydd y llyfr yn amhrisiadwy nid yn unig i’m myfyrwyr ym Mangor, ond i fyfyrwyr, cefnogwyr, beirniaid ac ysgolheigion sydd â diddordeb yn Stanley Kubrick, a hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn un o gewri gwneud ffilmiau’r 20fed ganrif.”