Mae’r astudiaeth genedlaethol wedi datgelu’r ystadegyn brawychus y gall hyd at 10 miliwn o bobl yn y DU fod wedi cael rhywfaint o brofiad o gael eu dal gan y llanw yn dod i mewn wrth ymweld â’r arfordir. Gall llanw sy'n dod i mewn arwain yn gyflym at sefyllfa lle na pobl ddychwelyd i’r lan, ac yn aml byddant angen cymorth yr RNLI. Gyda llanw uwch fel y gwelwn dros gyfnod y Pasg, bydd lleoedd yn cael eu torri i ffwrdd gan y llanw yn gyflymach nag arfer ac efallai y bydd lleoedd sydd fel rheol ddim yn cael eu heffeithio gan y llanw hefyd yn cael eu torri oddi wrth y lan.
Bydd llanwau’r gwanwyn yn cynyddu dros benwythnos y Pasg ac ar eu brig ddydd Sadwrn 9 Ebrill. Mae'r elusen achub bywyd yn annog pobl i ddefnyddio ffynhonnell ar-lein y gellir dibynnu arni fel magicseaweed.com neu ap rhagfynegi llanw cyn cychwyn ar daith. Dylai pobl sy’n ymweld â’r arfordir sylweddoli y gall dŵr newid yn gyflym ac yn wahanol iawn i'r hyn a ddisgwylir.
Mae ystadegau RNLI ar gyfer Cymru yn dangos mai pobl a gafodd eu dal gan y llanw sydd wedi achosi bron i 10% o’r holl achosion o lansio badau achub dros y ddegawd ddiwethaf - mwy na dwbl cyfartaledd y DU.
Ymunodd yr RNLI â Phrifysgol Bangor y llynedd i fod yn rhan o broject i ddeall gwybodaeth pobl am y llanw. Mae ymchwilwyr wedi bod yn siarad â phobl sydd wedi cael eu dal gan y llanw i edrych ar rai o'r rhesymau pam eu bod yn mynd i drafferthion. Mae’r elusen yn galw ar bobl i fod yn arbennig o ofalus os ydynt yn ymweld â’r arfordir dros benwythnos y Pasg yn wyneb yr ystadegyn bod 15% o boblogaeth y DU wedi dweud eu bod wedi cael eu dal gan y llanw.
Dangosodd yr arolwg hefyd:
• Bod dros hanner (57%) y rhai a oedd wedi cael eu dal gan y llanw yn byw ar y tir mawr – i ffwrdd o’r arfordir.
• Nid oedd 38% o boblogaeth Prydain yn gwybod bod y llanw fel rheol yn dod i mewn ddwywaith y dydd.
• Nid oedd 40% yn gwybod bod ymchwydd a gostyngiad y llanw yn wahanol bob dydd.
• Nid oedd dros un rhan o dair o bobl yn gwybod bod y llanw yn amrywio mewn gwahanol leoliadau
Comisiynodd y brifysgol wyddonydd cymdeithasol y môr i ddadansoddi dealltwriaeth pobl o'r llanw, gyda'r bwriad o wella gwybodaeth am y llanw trwy ymgyrchoedd cyhoeddus newydd ac addysg. Gyda chefnogaeth Eigionegydd ac Athro Ieithyddiaeth, mae'r brifysgol wedi ymrwymo i helpu i sicrhau bod pobl yn mwynhau ein harfordir yn ddiogel, a bod yr elusen yn y pen draw yn achub rhagor o fywydau.
Meddai Dr Liz Morris-Webb, Ymchwilydd a Gwyddonydd Cymdeithasol y Môr ym Mhrifysgol Bangor:
'Mae canlyniadau ein harolwg cychwynnol yn dangos gymaint y mae'r cyhoedd yn camddeall y llanw, ond hefyd sut y gall hyd yn oed y rhai sydd â phrofiad a gwybodaeth am yr arfordir fynd i drafferthion yn hawdd os nad ydynt wedi paratoi'n ddigonol neu fod rhywbeth yn mynd â’u sylw. Roedd llawer o ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi cael eu dal gan y llanw eisiau anfon neges at eraill, yn enwedig ynglŷn â pha mor gyflym y gall y llanw newid a sut y gall sefyllfa ddatblygu i fod yn beryglus iawn. Mewn cyfweliadau â’r rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig ag achub pobl gyda’r RNLI, roeddent yn disgrifio sut mae'r llanw ger clogwyn yn 'llenwi fel bath'; ac ar wastadeddau tywod, 'gall y môr ddod i mewn yn gyflymach nag y gallwch redeg' a sut y gall y llanw fod yn wahanol iawn rownd y gornel.'
Dywedodd Chris Cousens, Arweinydd Diogelwch Dŵr RNLI Cymru y bydd yr arolwg yn helpu'r RNLI i lunio ei negeseuon diogelwch i sicrhau eu bod yn cael effaith. Meddai:
'Mae ein neges graidd y dylid gwirio'r tywydd a'r llanw bob amser yn un gymhleth gan ein bod yn amau bod dryswch ynglŷn â lle i gael gwybodaeth am y llanw, a bod pobl ddim yn gwybod sut i ddehongli'r wybodaeth am lanw sy'n benodol i draethau. Mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol gweithio gydag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor ac edrychwn ymlaen at y cam nesaf yn y cydweithio cyffrous hwn.
'Rydym yn disgwyl i'r penwythnos hwn fod yn brysur ar yr arfordir, ond gyda’r rhagolygon y bydd llanw’r gwanwyn yn uwch na’r arfer y penwythnos hwn, mae’n bosibl y bydd ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan y llanw yn cael eu torri i ffwrdd yn gynt nag arfer, ac efallai y bydd ardaloedd eraill sydd ddim fel arfer yn adnabyddus fel lleoedd y gall pobl gael eu dal gan y llanw yn gweld digwyddiadau yn y dyddiau nesaf. Rydym yn atgoffa pawb sy’n mynd i’r arfordir o bwysigrwydd gwirio amseroedd y llanw a sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i ddychwelyd os ydynt yn penderfynu mentro ymhellach ar hyd y traeth.
‘Mae’n anodd dychmygu sut y gall cerdded fod yn weithgaredd mor beryglus, a dyna pam ei bod yn bwysig gwirio amseroedd y llanw ar ddechrau eich diwrnod bob amser, cadw llygad am y llanw sy’n dod i mewn a gadael digon o amser i ddychwelyd yn ddiogel. Mae hefyd yn hanfodol bod gennych ffordd o alw am help bob amser. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch am gyngor yn lleol.'
Dywedodd Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor,
“Wrth ddechrau’r astudiaeth hon roeddem yn gwybod bod cael eich dal gan y llanw yn bryder – ond mae’r canlyniadau hyn yn dangos pa mor ddrwg ydyw. Mae cymaint o bobl wedi bod yn y sefyllfa mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a gallwn weld o'r ymatebion nad yw bob amser yn gysylltiedig a rhywbeth yn tynnu eu sylw. Mae hefyd yn ddiffyg ymwybyddiaeth o rai egwyddorion sylfaenol megis pa mor gyflym y gall y llanw ddod mewn, pa mor wahanol ydyw mewn gwahanol leoedd, a faint mae'n newid bob dydd. Mae deall meddyliau pobl a rhagdybiaethau cyffredin yn bwysig iawn; mae’n ein galluogi i gynllunio negeseuon clir a syml sy’n llenwi’r bylchau mewn dealltwriaeth pobl.”
Ychwanegodd Dr Martin Austin, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor:
“O safbwynt ffisegol syml, gellir gweld llanw fel y cynnydd a’r gostyngiad cyfnodol yn lefel y dŵr ar yr arfordir – mae llawer o bobl yn gwybod y ffaith sylfaenol hon. Ond yn aml nid ydynt yn ymwybodol bod amseroedd ac uchder y llanw yn newid yn ôl amserlenni dyddiol ac wythnosol ac yn wahanol i bob lleoliad o amgylch yr arfordir. Mae traethau ac arfordiroedd hefyd yn dirweddau cyfnewidiol iawn oherwydd prosesau naturiol, felly gall llwybr llanw sy’n gorlifo traeth un wythnos fod yn wahanol iawn yr wythnos ganlynol. Gall cyfuno’r ffactorau ffisegol hyn wneud ein traethau a’n harfordir yn amgylchedd peryglus i bobl anwyliadwrus.”