Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi ei bod wedi cadw ei Gwobr “HR Excellence in Research” (HREiR) – gwobr y Comisiwn Ewropeaidd (a reolir yn y DU gan Vitae) sy’n dangos ymrwymiad i wella’r amgylchedd, cyflogaeth, a chefnogaeth i ymchwilwyr. Mae Gwobr Rhagoriaeth AD mewn Ymchwil yn fecanwaith pwysig ar gyfer gweithredu egwyddorion y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr. Mae Prifysgol Bangor wedi dal Gwobr HREiR ers 2012.
Fel rhan o'r cais am wobr HREiR, datblygwyd Cynllun Gweithredu Concordat; hysbyswyd ei amcanion mewn ymgynghoriad ag ymchwilwyr a'r rhai sy'n cefnogi ymchwil ac ymchwilwyr o bob rhan o'r Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Martina Feilzer (Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes a Chadeirydd Grŵp Datblygu Ymchwilwyr a’r Concordat Prifysgol Bangor),
“Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ddatblygu’r cais a’r cynllun gweithredu drwy gymryd rhan mewn arolygon. a grwpiau ffocws a rhannu eu barn trwy gynrychiolwyr academaidd pob Coleg ar y Grŵp Datblygu Ymchwilwyr a’r Concordat.”
Dywedodd yr Athro Paul Spencer (Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil),
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill gwobr HREiR i gydnabod ein hymrwymiad parhaus i egwyddorion y Concordat. Yma ym Mangor, rydym yn cydnabod bod ymchwil ragorol yn gofyn am ddiwylliant ymchwil cefnogol a chynhwysol a bod cefnogi a datblygu ein hymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfaoedd yn allweddol . Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i roi ein Cynllun Gweithredu Concordat ar waith a thrwy hynny wella diwylliant ac amgylchedd ymchwil Prifysgol Bangor.”
Mae rhagor o wybodaeth am y Concordat Datblygu Ymchwilwyr/HREiR ym Mhrifysgol Bangor ar gael yma neu drwy gysylltu â Dr Alison Wiggett (Rheolwr Athena Swan a’r Concordat Ymchwil) a.wiggett@bangor.ac.uk.