Mae papur ymchwil yn Estuaries and Coasts yn darparu’r cam cyntaf i wella’r risg o lifogydd arfordirol trwy ddadansoddi’n fanwl faint o amser y mae gwahanol afonydd y Deyrnas Unedig yn ei gymryd i ollwng i’r arfordir yn dilyn glaw trwm mewn tywydd mawr. Cyfunir hyn â dadansoddiad o wahanol fathau o aberoedd, i weld pa aberoedd sydd fwyaf tebygol o rwystro dŵr llifogydd rhag mynd i mewn i’r môr, oherwydd eu siâp a’u maint. Yn olaf, mae'r papur yn ystyried y tebygolrwydd y bydd llifddwr afonydd yn digwydd yr un pryd ag ymchwydd storm (mae storm yn aml yn cynhyrchu glaw trwm a gwyntoedd cryfion sy'n gyrru'r ymchwydd) neu lanw uchel ar yr arfordir.
Gallai cyfuno cyflymder llifogydd ac amser draenio gwahanol afonydd gyda dealltwriaeth o ba aberoedd sydd fwyaf tebygol o gael ymchwydd storm, neu bryd y gallent ddigwydd yr un pryd â llanw mawr, lywio mesurau amddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol.
Gall dadansoddiad o’r fath fod yn werthfawr gan fod y Deyrnas Unedig yn rhagweld y bydd glaw eithafol yn dwysáu yn y degawdau nesaf.
Yn flaenorol, mae llifogydd wedi cael eu harchwilio gan ddefnyddio llif afonydd cymedrig dyddiol, ond mae’r gwaith newydd hwn wedi dangos bod nifer o ddalgylchoedd afonydd byr a serth ar arfordir gorllewinol Prydain yn draenio’n gyflym, o fewn ychydig oriau, sy’n golygu bod y draenio dyddiol yn cuddio ymddygiad eithafol afonydd sy'n achosi’r llifogydd. Bydd y wybodaeth hon yn helpu modelwyr hinsawdd i gynhyrchu rhagamcanion llif afonydd yn y dyfodol ar y graddfeydd amser priodol i ragweld newidiadau mewn risg llifogydd.
Pan fo'r Afon Conwy yn gorlifo
Meddai Peter Robins, Uwch Ddarlithydd mewn eigioneg ffisegol ym Mhrifysgol Bangor,
“Mae’r rhan fwyaf o stormydd trwm a gwyntoedd cryf yn dod i mewn o Fôr yr Iwerydd ac yn taro arfordiroedd gorllewinol a gogledd-orllewinol Prydain. Hefyd, mae dalgylchoedd arfordir y gorllewin yn fach ac yn fynyddig yn bennaf. Mae hyn yn golygu eu bod yn llenwi ac yn draenio allan i'r môr yn rhyfeddol o gyflym, efallai o fewn ychydig oriau. Mae'r dalgylchoedd hyn felly'n dueddol o gael nifer o ddigwyddiadau 'llifogydd cyfansawdd' bob blwyddyn, gyda'r siawns o lifogydd mewn gwirionedd yn sensitif i amseriadau cynnil ymddygiad yr afon a lefel y môr ar y cyd.
Draw yn y dwyrain, mae'r dalgylchoedd yn aml yn fawr a gwastad ac yn cymryd sawl diwrnod i ddraenio. Yma, mae llifogydd yn tueddu i gael eu hachosi naill ai gan gyfnodau hir o law trwm, neu gan ymchwyddiadau storm dwyreiniol, ond yn anaml gyda'i gilydd. Mae’r digwyddiadau eithafol hyn yn llai cyffredin ac yn fwy rhagweladwy nag yn y gorllewin.”
Y Deg Uchaf
Y deg afon a nodwyd fel y rhai mwyaf agored i'r digwyddiadau cyfansawdd hyn yw'r Lune, Orchy, Stinchar, Nith, Lochy, Nevis, Duddon, Caint, Conwy a Cree.
Ac eithrio’r afon Tweed, sy'n ymddangos yn is i lawr y tabl, mae'r rhan fwyaf wedi'u lleoli ar arfordiroedd y gorllewin a'r gogledd orllewin.
“Roeddem yn gweld bwlch yn y data am ollyngiadau afonydd a oedd yn cael ei gasglu, ond nid yn cael ei ddadansoddi,” eglurodd Charlotte Lyddon, gynt o Brifysgol Bangor a bellach ym Mhrifysgol Lerpwl..
“Gan ddefnyddio setiau data sy’n bodoli eisoes ar gyfer 126 o aberoedd ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n dangos llif afonydd bob 15 munud, ac yn cwmpasu sawl degawd, gwnaethom edrych ar yr amser a gymerodd i law trwm lifo i lawr yr afon a’r amser y mae’n ei gymryd i ymchwyddiadau stormydd gyrraedd yr arfordir, i weld pa mor debygol ydoedd i’r ddau ffactor hyn ddigwydd gyda’i gilydd yn y ffyrdd eithafol iawn hyn.
Efallai nad oes unrhyw syndod yma o ran pa ardaloedd sy’n gorlifo, ond gwelwyd nad oedd unrhyw ddadansoddiadau hanesyddol ynglŷn â pham bod y llifogydd yn digwydd. Bydd nodi’r digwyddiadau cyfansawdd hyn yn helpu i ddatblygu modelau a fydd yn gallu rhagweld digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.”
Cyllidwyd yr ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Cenedlaethol a’r Swyddfa Dywydd, a chynhaliwyd mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Historic Spatial Patterns of Storm Driven Compound Events in UK Estuaries wedi ei gyhoeddi yn Estuaries and Coasts a’i chyd-awduro gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Hull a’r British Geological Survey.