Mae gan Ynysoedd y Philipinau broblem llygredd plastig difrifol sy'n effeithio ar dwristiaeth, y sector sy'n cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad y wlad. Gellir olrhain llawer o'r broblem i sut y caiff plastigau untro eu gwaredu.
Er bod llawer o gyhoeddusrwydd wedi cael ei roi i'r tomenni sbwriel mawr yn y môr, bydd y project hwn yn canolbwyntio ar daith plastigau, a lle mae'r plastigau'n diweddu ar hyd yr arfordir.
Eglurodd arweinydd y project, yr Athro Simon Neill o Brifysgol Bangor,
“Byddwn yn canolbwyntio ar Ynysoedd Cebu - yr ardal forol warchodedig fwyaf yn Ynysoedd y Philipinau. Gan weithio gyda Phrifysgol San Carlos yn Ynysoedd y Philipinau, Prifysgol Dechnolegol Nanyang yn Singapore, ac Aquatera yn yr Alban, bydd y project yn datblygu model y gellir ei ddefnyddio i fapio sut mae sbwriel plastig yn y môr yn cael ei gario gan y gwynt, y llanw a cheryntau'r cefnfor. Bydd y project yn dilyn plastigau o'u ffynhonnell i'r man lle maent yn setlo yn y pen draw. Bydd hefyd yn defnyddio technegau fforensig i olrhain sbwriel yn ôl i'w darddiad.
Elfen arloesol o'r dull modelu yw cynnwys y prosesau ffisegol sy'n effeithio ar gyflwr y gwastraff plastig wrth iddo deithio drwy'r system, gan gynnwys newidiadau oherwydd dod i gysylltiad â golau UV a diraddiad mecanyddol oherwydd y tonnau."
Bydd y project hefyd yn canolbwyntio ar effeithiau'r gwastraff plastig ar fangrofau - hidlydd nad ydym yn gwybod llawer amdano ond a all fod yn bwysig iawn yn y cylchred plastig.
Dywedodd Dr Christian Dunn, cyd-ymchwilydd ar y project a chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Plastig Cymru ym Mhrifysgol Bangor,
“Mae gennym drychineb amgylcheddol oherwydd llygredd plastig, felly mae ymchwil rhyngddisgyblaethol ar y cyd fel hyn a ariennir gan UKRI yn hanfodol os ydym am ddeall maint y broblem a gwneud rhywbeth yn ei chylch.
"Ochr yn ochr â'r Athro Neill, mae gennym rai arbenigwyr byd-enwog ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio ar yr holl faterion sy'n gysylltiedig â'r broblem blastig, ac felly mae'n wych ein bod yn arwain y project rhyngwladol hwn.
"Yr hyn sy'n gyffrous yw y bydd rhan o'r gwaith yn golygu bod Prifysgol Bangor a Chanolfan Ymchwil Plastig Cymru yn rhannu ei gwybodaeth ar gasglu a dadansoddi microblastigau gyda sefydliadau a chyrff eraill, fel y gellir cael gwell dealltwriaeth o'r broblem sy'n ein hwynebu," ychwanegodd Dr Dunn.
Ariennir y project ar y cyd gan NERC a'r Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol (NRF) yn Singapore.