Testun Tsieineaidd hynafol wedi ei ddadlennu i fod yn atlas anatomegol o'r corff dynol
Roedd anatomeg yn cael ei hastudio yn llawer cynt nag a feddyliwyd yn flaenorol
Gellir olrhain hanes safonol anatomeg yn ôl i'r hen Roeg, ond mae dadansoddiad newydd o destun Tsieineaidd a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn dadlau bod y Tsieineaid hefyd ymhlith yr anatomegwyr cynharaf.
Yn The Anatomical Record, mae Vivien Shaw ac Isabelle Winder o Brifysgol Bangor a Rui Diogo o Brifysgol Howard, UDA, yn dehongli'r llawysgrifau meddygol Mawangdui a ddarganfuwyd mewn beddrod Tsieineaidd ar ddechrau'r 1970au, fel y disgrifiad anatomegol cynharaf sydd wedi goroesi o'r corff dynol.
Darganfuwyd y llawysgrifau yn Changsha, yn Ne Canol Tsieina, cawsant eu gosod mewn beddrod tua 2,200 o flynyddoedd yn ôl, yn y flwyddyn 168 CC. Mae'r dehongliad newydd hwn o'r testunau yn golygu mai hwn allai fod yr atlas anatomegol hynaf sydd wedi goroesi yn y byd.
Mae Vivien Shaw, sy'n darlithydd anatomeg yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor wedi bod yn astudio'r anatomeg mewn testunau meddygol hynafol Tsieineaidd ers dros saith mlynedd.
Meddai:
“Mae'n rhaid i ni edrych ar y testunau hyn o safbwynt gwahanol na’r safbwynt meddygol gorllewinol gyfredol o systemau ar wahân rhydwelïau, gwythiennau a nerfau'r corff. Nid oedd gan yr awduron y ddealltwriaeth hon, yn hytrach, roeddent yn edrych ar y corff o safbwynt meddygaeth Tsieineaidd draddodiadol, sy'n seiliedig ar y cysyniad athronyddol o'r gwrthgyferbyniadau cyflenwol yin ac yang, sy'n gyfarwydd i bobl yn y gorllewin sy'n dilyn ysbrydegaeth ddwyreiniol.”
Meddai Izzy Winder, y cyd-awdur o Ysgol y Gwyddorau Naturiol:
“Yr hyn rydym wedi ei wneud yw ail-ddehongli'r testunau, sy'n disgrifio un ar ddeg o 'lwybrau' trwy'r corff. Mae rhai o'r rhain yn mapio'n glir ar y 'meridianau' aciwbigo diweddarach. Rydym wedi gallu dangos tebygrwydd sylweddol rhwng y disgrifiadau yn y testun a strwythurau anatomegol, a thrwy hynny ailddarganfod y diddordeb hynafol yn yr astudiaeth wyddonol o'r ffurf ddynol.
“Nid yw ysgolheigion blaenorol wedi ystyried bod y llawysgrifau fel rhai sy’n disgrifio anatomeg, oherwydd bod arferion diwylliannol cyfoes Conffiwsaidd yn parchu hynafiaid ac felly'n gwrthwynebu i ddyraniad cyrff. Ond rydym yn credu bod dyraniad yn rhan o gynnwys y llawysgrifau ac y byddai’r awduron wedi cael defnyddio cyrff troseddwyr, fel yr adroddir mewn testunau diweddarach.”
Meddai Vivien Shaw:
“Mae ein canfyddiadau yn ail-ysgrifennu rhan allweddol o hanes Tsieineaidd. Roedd oes gyfoes Han yn gyfnod o ddysgu ac arloesi mawr yn y celfyddydau a'r gwyddorau, felly mae'r math hwn o wyddoniaeth anatomegol glasurol yn cyd-fynd â diwylliant cyffredinol yr oes.
Rydym yn credu bod ein dehongliad o'r testun yn herio'r gred gyffredinol nad oes sylfaen wyddonol i 'anatomeg aciwbigo', trwy ddangos bod y meddygon cynharaf a ysgrifennodd am y meridianau yn disgrifio'r corff anatomegol. ”
Mae ymchwil aciwbigo modern yn seiliedig ar dybiaeth mai gweithrediad y meridiaid aciwbigo a'r pwyntiau sy'n bwysig. Mae ein dehongliad yn dangos bod yr anatomegwyr gwreiddiol yn gwneud map o strwythur y corff, nid o'i weithrediad. ”