Grym Gwrando: Sut Gall Cwnsela Newid Bywydau
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Mewn byd lle mae sŵn yn ein taro ni’n gyson, mae grym trawsnewidiol i’r weithred syml o wrando. Mae'r gweminar yn archwilio sut y gall cwnsela - sy'n seiliedig ar wrando’n astud, empathi, a dirnadaeth seicolegol - effeithio'n fawr ar fywydau unigolion.
Byddwn yn archwilio gwyddoniaeth gwrando therapiwtig, yn trafod ei defnydd yn y byd go iawn, ac yn archwilio pam mai cael gwrandawiad cyson yw'r cam cyntaf tuag at iachâd. Bydd y sesiwn yn tynnu ar ymchwil ac ymarfer, bydd yn amlygu’r ffyrdd y mae cwnsela’n meithrin gwytnwch, twf personol, a newid ystyrlon. Drwy archwilio’r mecanweithiau sy’n sail i rym y cysylltiad dynol, bydd y weminar yn cynnig golwg gwerthfawr ar y potensial sydd gan wrando effeithiol i newid bywydau.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnydd a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsynio.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.
Siaradwr
Yr Athro Fay Short
Mae Fay Short yn Athro yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor ac yn Seicolegydd Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain. Mae hi hefyd yn therapydd cymwysedig ac yn aelod cofrestredig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain. Ymhlith ei rolau proffesiynol presennol hi yw Cyfarwyddwr Cwrs yr MSc mewn Cwnsela a Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.