Gwefr y Rhedwyr: Sut mae ymarfer ar gyfer marathon yn eich gwneud yn berson gwell
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Mae Adran Seicoleg Bangor yn rhedeg modiwl i fyfyrwyr seicoleg sy'n eu dysgu nhw i redeg marathon! Er bod hynny o bosib yn ymddangos yn wallgof braidd, mae gallu cyflawni nod anodd hirdymor yn dibynnu mewn gwirionedd ar ffactorau yn y meddwl: grym ewyllys, cynllunio, goresgyn heriau anodd, meithrin gwytnwch, magu’r meddylfryd cywir. Bydd y sgwrs hon yn eich cyflwyno i'r modiwl a bydd hefyd yn dweud wrthych pam y byddwch yn dod yn berson gwell os byddwch yn ei gwblhau (a'r marathon, wrth gwrs)!
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.
Siaradwr
Yr Athro John Parkinson
Seicolegydd ymddygiadol yw John ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng gwybyddiaeth ac emosiwn, yn enwedig o ran hybu iechyd ac atal salwch. Mae ganddo ddiddordeb mewn sut mae signalau cymhellol yn cael eu cynhyrchu, sut maent yn rhyngweithio â phrosesau gwybyddol parhaus a sut mae hyn yn effeithio ar ymddygiad. Mae integreiddio theori proses ddeuol ag ymagweddau cyfoes at ymddygiad (megis COM-B) o ddiddordeb arbennig iddo. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y canlynol: dylanwad cyflyrau cymhellol ar brosesau gwybyddol megis sylw, cof a gwneud penderfyniadau; effaith cyflyrau emosiynol cadarnhaol ar wybyddiaeth; rôl a natur ymddygiadau a achosir gan ysgogiad (gan gynnwys cyffroad cymhellol a chwant mewn ymddygiadau caethiwus). John yw Cyfarwyddwr Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ac mae’n cydweithio ag Uned Gwyddorau Ymddygiadol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae John yn aelod o'r grŵp ymchwil Seicoleg Ymddygiadol, Seicoleg Iechyd a Seicoleg Glinigol a’r grŵp ymchwil Niwrowyddoniaeth Gymdeithasol.