Manylion
Mae niwrowyddoniaeth yn datblygu'n gyflym, gan gynnig mewnwelediad dwys i'r ymennydd dynol wrth godi cwestiynau moesegol cymhleth. Mae niwrofoeseg yn groestoriad rhwng niwrowyddoniaeth, athroniaeth a pholisi, gan fynd i'r afael â chyfyng-gyngor megis gwelliant gwybyddol, preifatrwydd yr ymennydd, a moeseg niwrodechnoleg. Yma, rydym yn rhoi sylw arbennig i sut mae niwrofoeseg yn berthnasol i anhwylderau niwroddirywiol.
Beth yw goblygiadau diagnosis cynnar? Sut mae mynd ati i gydbwyso arloesedd a thriniaeth ag ymreolaeth cleifion, yn enwedig gan fod dirywiad gwybyddol yn effeithio ar allu i wneud penderfyniadau? Beth yw canlyniadau cymdeithasol a moesol sgrinio genetig neu niwrodechnoleg ar gyfer y cyflyrau hyn? Ymunwch â gweminar Prifysgol Bangor am gyflwyniad i'r heriau cymdeithasol cymhleth hyn.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnydd a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu eich cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsynio.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg Bangor.
Siaradwr
Yr Athro Kami Koldewyn
Athro mewn Seicoleg / Deon Ymchwil y Coleg
Mae Kami yn Athro yn yr Adran Seicoleg yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ac yn rhan o grŵp ymchwil Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn yr ysgol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys: Datblygiad canfyddiad cymdeithasol a gwybyddiaeth gymdeithasol ar draws oes, Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth ac anhwylderau niwroddatblygiadol eraill sy'n effeithio ar ganfyddiad cymdeithasol a gwybyddiaeth, a seiliau ymennydd canfyddiad cymdeithasol a gwybyddiaeth gymdeithasol.